Fy enw yw Rachel ac rydw i’n fam i 4 o blant. Rwyf hefyd yn ferch i ofalwyr maeth ymroddedig, Sharon a John.
“dydi plant maeth ddim gwahanol i ni; ond eu bod nhw wedi cael rhai amseroedd trawmatig.”
I ddechrau roedd yn teimlo ychydig yn anghyffredin i fod yn rhan o deulu maeth, yn arbennig yr adeg hynny gan fod plant maeth yn rhannu ystafell gyda mi. Heddiw mae’n ofynnol bod plant maeth yn cael ystafelloedd gwely i’w hunain. I ddechrau roedd yn newid braf cael mwynhau cyfnodau o dawelwch rhwng y lleoliadau, ond yn fuan iawn roeddwn wedi dod i arfer rhannu fy ystafell ac yn edrych ymlaen at groesawu’r plentyn nesaf i’n teulu. Roedd ein cartref bob tro yn llawn gweithgaredd gan fod fy nain a thaid yn ofalwyr maeth hefyd ac yn ymweld â ni yn aml. Roedd hi’n hyfryd fod pawb yn cael eu trin yn gyfartal.
“fel plentyn i rieni maeth roeddwn i’n mwynhau’r profiad o gwrdd â gwahanol blant.”
Datblygais gysylltiadau agos gyda fy holl frodyr a chwiorydd maeth ac rydym yn dal i gydnabod ein gilydd fel teulu heddiw. Roedd yn heriol yn emosiynol pan fyddai fy rhieni yn gofalu am fabanod newydd anedig gan fod y babanod hynny un ai yn dychwelyd i’w teuluoedd biolegol neu’n cael eu mabwysiadu, ac roeddwn yn wynebu cyfres o heriau emosiynol. Dwi’n falch o ddweud bod fy rhieni wedi darparu’r gefnogaeth oedd ei angen arna i er mwyn fy arwain drwy’r newidiadau hyn.
”Roedd plant maeth yn rhan o’n teulu estynedig, ac roedd croeso bob tro iddyn nhw yn ein cartref.”
Cafwyd cymaint o brofiadau cadarnhaol, yn eu gwylio nhw’n tyfu’n gymeriadau unigryw. Roedden ni’n cael hwyl, yn cyd-chwerthin ac yn mynd i drafferthion bach gyda’n gilydd, ond roedden ni’n cydweithio fel un teulu mawr.
“mae eu cefnogi nhw yn cymryd amynedd ac amser er mwyn datblygu’r ffydd yna.”
Y prif addasiad oedd rhannu fy ystafell, ond wnes i erioed deimlo’n wahanol. Os rywbeth, roedd gen i ffrind bob tro.
Roedden ni’n rhan o’r broses o’r dechrau a gofynnwyd i ni sut yr oeddem yn teimlo trwy gydol y broses. Eglurwyd i ni i ryw raddau, ond heb dorri cyfrinachedd, ond y rhan fwyaf o’r amser byddai’r plant eu hunain yn dweud wrthyf beth oedd wedi digwydd. Os wnaethon nhw ddweud wrthyf, mi fyddwn i’n dweud wrth mam ac mi fyddai hi’n delio gyda’r peth.
Mae’n fy ngwneud i deimlo’n falch o weld y plant yn tyfu ac yn symud ymlaen gyda’u bywydau, a hynny drwy ddychwelyd i’w cartrefi neu ddod o hyd i deuluoedd i’w mabwysiadu. Rydw i’n teimlo gymaint o anrhydedd o fod wedi cwrdd â’r holl blant sydd wedi aros gyda ni.
Fy nghyngor i fyddai eu cefnogi nhw a bod yn amyneddgar. Mae’n cymryd amser i blant ymddiried ynoch. Mae cariad a dealltwriaeth yn angenrheidiol. Peidiwch â gwneud sylwadau ar aelodau unigol y teulu, dim ond gwrando a bod yna iddyn nhw.
Rydw i’n dal i gefnogi fy rhieni gyda maethu, er bod gen i deulu fy hun erbyn hyn. Y plant maeth yw fy nheulu estynedig ac maen nhw’n cael eu trin yr un fath â fy mhlant fy hun. Mae yna wastad groeso iddyn nhw yn fy nghartref, ac rydym yn gwneud llawer o bethau gyda’n gilydd.
“mae cariad a dealltwriaeth yn angenrheidiol wrth gefnogi plant maeth.”
Fel plentyn teulu maeth, mi allai ddweud o waelod fy nghalon fy mod wedi mwyhau’r profiad o gwrdd â phlant gwahanol. Yn sicr mae’r amseroedd da yn rhagori ar yr amseroedd trist. Dydi plant maeth ddim gwahanol i ni neu unrhyw un arall; mae’n anffodus eu bod nhw wedi cael rhai amseroedd trawmatig. Y gobaith yw bod ein teulu wedi gallu gwneud gwahaniaeth yn eu bywydau ac yn parhau i wneud hynny.
Os hoffech ddysgu mwy am fod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Wrecsam, cysylltwch, byddem wrth ein bodd yn cael sgwrsio gyda chi.