pam maethu gyda ni?

cefnogaeth a manteision

arian a lwfansau

Fel Gofalwr Maeth, byddwch chi’n cael lwfansau hael. Rydym ni’n cyfrifo’r lwfans maethu yn Wrecsam ar sail sawl ffactor, yn cynnwys faint o blant yr ydych chi’n eu maethu, y math o blant yr ydych chi’n eu maethu, ac am ba mor hir yr ydych chi’n gofalu amdanynt. Wrth i chi ddatblygu eich sgiliau o ran maethu, gall eich lwfansau gynyddu, ac mae mathau arbenigol o ofal maeth yn cael gwahanol lwfansau hefyd. Rydym ni’n cefnogi ein gofalwyr maeth drwy ddarparu;

  • Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol Dynodedig
  • Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd
  • Gweithiwr Cymdeithasol Plant
  • 4 digwyddiad Teuluoedd Maeth bob blwyddyn
  • Grwpiau Cymorth Misol
  • Cefnogaeth y tu allan i oriau 24/7

 

enghreifftiau o gefnogaeth ariannol

Gofalwyr Maeth Proffesiynol Canolraddol Maethu Cymru Wrecsam yn gofalu am 2 o blant 10 a 14 mlwydd oed.

  • Taliad sylfaenol bob wythnos ar gyfer plentyn 10 oed = £230
  • Taliad sylfaenol bob wythnos ar gyfer plentyn 14 oed = £245
  • Taliad sgil canolraddol = £190 yr wythnos x 2 = £380 yr wythnos

Cyfanswm Taliad

  • £855 yr wythnos
  • £3,705 y mis
  • £44,460 y flwyddyn

 

Gofalwyr Maeth Proffesiynol Arbenigol Maethu Cymru Wrecsam â dau o blant wedi’u rhoi gyda nhw sy’n 10 a 14 oed ac sydd ag anghenion iechyd emosiynol cymhleth. 

  • Taliad sylfaenol bob wythnos ar gyfer plentyn 10 oed = £230
  • Taliad sylfaenol bob wythnos ar gyfer plentyn 14 oed = £245
  • Taliad sgil arbenigol = £290 yr wythnos x2 = £580 yr wythnos

Cyfanswm Taliad

  • £1,055 yr wythnos
  • £4,572 y mis
  • £54,860 y flwyddyn

 

manteision eraill

Ar wahân i’r lwfans gofal maeth, mae rhestr amrywiol o fanteision y gallwch chi eu cael fel gofalwr maeth. Yn ogystal â’r gefnogaeth a’r lwfansau sydd wedi’u nodi eisoes, byddwch chi hefyd yn cael:

  • Gostyngiad o 75% oddi ar dreth y cyngor – pan fyddwch chi wedi’ch cymeradwyo a phan fydd plant wedi bod yn y lleoliad yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
  • Cyfeillgar i faethu – hyd at 5 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol i bob gofalwr maeth cymeradwy yn Wrecsam sy’n gweithio i Gyngor Wrecsam.
  • Aelodaeth â’r Rhwydwaith Maethu.
  • Cerdyn ‘Max’ – mynediad gostyngedig neu’n rhad ac am ddim i atyniadau ledled y DU.
  • Aelodaeth â CADW.
  • Cerdyn Gweithiwr Gofal.
  • Cefnogaeth gan Ofalwr Maeth Arloesol.
  • Cyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus, yn rhad ac am ddim.
  • Cefnogaeth gan weithwyr cymdeithasol yn lleol i chi.
  • Mynediad at dudalen maethu preifat Wrecsam ar Facebook.

 

Nid un math o gefnogaeth yn unig yr ydym ni’n ei chynnig – rydym ni’n edrych ar y pecyn cyfan. O gyfleoedd dysgu i arweiniad emosiynol ac ariannol hefyd, byddwn ni’n eich cefnogi chi.

Ein swyddogaeth ni yw eich galluogi chi i gynnig y gofal gorau posibl, ac mae hynny’n golygu bod yma – pryd bynnag a sut bynnag yr ydych chi ein hangen ni.

 

 

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

Mae gan Maethu Cymru Ymrwymiad Cenedlaethol, sef pecyn cefnogi hyfforddiant ar gyfer pob un o’n rhieni maeth. Mae hyn yn helpu i sicrhau cysondeb ac yn canolbwyntio ein holl ymdrechion ar hyd a lled Cymru ar wella bywydau plant ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

A family sitting and laughing together in their garden

un tîm

Mae ymuno â Maethu Cymru Wrecsam yn golygu y byddwch yn elwa o arbenigedd cyfun un tîm ymroddedig mawr, sy’n darparu cymaint o ofal a chefnogaeth i bob plentyn rydych chi’n ei faethu. Fel yr Awdurdod Lleol, rydyn ni’n gysylltiedig â phob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â gofal plentyn, ac rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein gorau glas.

Mae bod yn rhan o’n tîm yn Wrecsam yn golygu y byddwch bob amser yn cael eich clywed, eich parchu a’ch gwerthfawrogi fel rhan annatod o’n tîm maeth. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda phob un o’n teuluoedd maeth i sicrhau’r dyfodol gorau posibl i bob plentyn.

Two brothers playing on a swing

dysgu a datblygu

Mae dysgu a datblygu yn rhan fawr o’r daith faethu a thrwy ymuno â ni byddwch yn mwynhau rhai o’r pecynnau cefnogi a’r hyfforddiant gorau sydd ar gael. Rydyn ni’n awyddus iawn i annog ein gofalwyr i barhau i ddysgu a thyfu yn eu rolau fel rhieni maeth.

Rydyn ni’n darparu cyrsiau hyfforddi, offer a gwasanaethau i’ch helpu i fagu hyder fel gofalwr. Byddwch yn cael cyfle i adeiladu ar eich sgiliau a’ch datblygiad personol hefyd, gan arwain at sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr.

A teenage boy playing football

cefnogaeth

Bydd ymuno â Maethu Cymru Wrecsam yn golygu eich bod bob amser yn cael eich cefnogi, bob cam o’r ffordd. Bydd ein tîm yn sicrhau eich bod chi’n cael cyswllt iawn â’r gweithwyr cymdeithasol a’r gweithwyr proffesiynol eraill yn rheolaidd, er mwyn i chi allu rhannu profiadau, gofyn cwestiynau a chael cyngor gwerthfawr.

Byddwn yn talu i chi fod yn aelod o sefydliadau cenedlaethol a byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar amrywiaeth o gyfarfodydd a grwpiau cefnogi lleol. Mae hyn yn eich helpu i wneud ffrindiau am oes, ac yn rhoi llwyfan i chi rannu eich profiadau eich hun a gwrando ar ofalwyr maeth eraill.

Byddwch yn gallu cael gafael ar gefnogaeth a chwnsela proffesiynol ar bob lefel pryd bynnag y bydd ei angen arnoch – ddydd a nos. Rydyn ni’n canolbwyntio ar gymuned, ac rydyn ni’n falch iawn o’n cymuned ni.

A family standing together outside of their home

y gymuned faethu

Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw rhannu a chymuned yn y gymuned faethu, a dyna pam rydyn ni’n talu eich tâl aelodaeth ar gyfer y Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru.

Byddwn hefyd yn eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol yn Wrecsam a’r cyffiniau, er mwyn dod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill.

A family walking together in the woods

llunio’r dyfodol

Rydyn ni’n canolbwyntio ar y dyfodol, dim y gorffennol. Fel gofalwr maeth, bydd gennych chi’r rhan bwysig yn y broses o lunio’r dyfodol i bob person ifanc rydych chi’n ei groesawu i’ch bywyd, gan helpu i wella eu taith.

Byddwn hefyd yn cymryd eich barn o ddifri ac yn eich annog i ddweud eich dweud. Byddwn yn mynd â’ch safbwyntiau ymhellach na lefel leol, gan eu rhannu’n rhanbarthol ac yn genedlaethol er mwyn parhau i siapio bywydau plant yng Nghymru.

A waterfall in Wrexham

cymryd y cam cyntaf

cysylltu â’n tîm maethu cymru lleol

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.