ffyrdd o faethu

pwy all faethu

pwy all faethu yn wrecsam?

Mae yna bobl ifanc sy’n byw yn Wrecsam sydd angen rhywun i glywed beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud. Rhywun i’w cefnogi a rhoi ymdeimlad o ddiogelwch iddyn nhw mewn cartref cariadus.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Rydyn ni’n mynd ati’n frwd i annog cymysgedd amrywiol o ofalwyr maeth i ymuno â thîm Maethu Cymru Wrecsam, i rannu eu profiadau a’u cefndiroedd eu hunain â phlant yn ein cymuned.

Rydyn ni’n gwybod cymaint y mae angen ymdrech tîm o ran magu a gofalu am berson ifanc. Dyna pam rydyn ni’n ymuno â chi a’ch rhwydwaith cefnogi i greu’r tîm gorau posibl.

Allech chi faethu – tarwch olwg ar ein Cwestiynau Cyffredin:

alla i faethu os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Gallwch, byddwch chi’n gallu maethu os ydych chi’n gweithio’n llawn amser, ond mae’n golygu y byddwn ni’n creu cynllun i’ch helpu chi. Dydy bod yn gyflogedig ddim yn rhwystr o ran bod yn rhiant maeth rhagorol, dim ond y bydd angen i ni gynllunio pethau’n well.

Rydyn ni’n gwybod cymaint o ymrwymiad yw maethu a dyna pam rydyn ni’n gweithio fel tîm agos gyda chi. Byddwn yn sicrhau eich bod yn cadw mewn cysylltiad yn rheolaidd â’n rhwydweithiau cefnogi ehangach fel therapyddion, athrawon a gweithwyr cymdeithasol.

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Heb os nac oni bai. Does dim ots os ydych chi’n rhentu eich cartref neu’n berchen arno. Os oes gennych chi ystafell sbâr a’ch bod yn gallu cynnig y gefnogaeth, y cariad a’r cyfle i dyfu sydd eu hangen ar berson ifanc, byddech chi’n rhiant maeth perffaith.

Os ydych chi’n teimlo’n ddiogel ac yn cael eich annog yn eich cartref, gallai person ifanc hefyd.

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Mae pob math o deuluoedd maeth. Dydy cael eich teulu a’ch plant eich hun ddim yn eich dal yn ôl rhag bod yn ofalwr maeth o gwbl; mae’n golygu eich bod yn barod i ymestyn eich teulu eich hun.

Yn ôl ein profiad ni, mae cael brodyr a chwiorydd maeth yn ffordd wych o wneud ffrindiau ac yn helpu i ddatblygu empathi ar gyfer yr holl blant o dan sylw.

ydw i’n rhy hen i faethu?

Gan nad oes terfyn oedran uchaf, dydych chi byth yn rhy hen i fod yn ofalwr maeth. Cyn belled â’ch bod yn eithaf iach ac yn gallu symud, gallwch fod yn unrhyw oed, dim ond eich bod chi’n gallu darparu’r diogelwch sydd ei angen ar berson ifanc i barhau â’i daith tuag at ddyfodol mwy disglair.

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Gallwch chi faethu os ydych chi’n 21 oed a hŷn. Er ein bod yn gwybod bod profiad bywyd yn werthfawr, dydy hyn ddim yn angenrheidiol. Ar yr amod eich bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch gan eich teulu a ffrindiau agos, byddwch yn ychwanegiad gwych at ein tîm. Byddwn yn eich cefnogi chi bob cam o’r ffordd gyda’r holl hyfforddiant a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch.

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Gallwch fod yn rhiant maeth beth bynnag fo statws eich perthynas – felly os ydych chi’n sengl, yn briod neu mewn partneriaeth, fe allech chi fod yn ofalwr maeth perffaith i rywun.

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Yn bendant. Unwaith eto, eich personoliaeth a’ch sgiliau sy’n bwysig i ni. Dim byd arall. Dydy rhywedd ddim yn dylanwadu o gwbl ar a fyddwch chi’n ofalwr maeth gwych neu beidio.

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Wrth gwrs, gallwch fod mewn unrhyw fath o berthynas a chynnig yr ymrwymiad, y cariad a’r sicrwydd sydd eu hangen pan fyddwch yn ofalwr maeth. Dydy ein tîm ddim yn ystyried cyfeiriadedd rhywiol o gwbl pan fyddwch yn gwneud cais.

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Mae Maethu Cymru Wrecsam yn gwybod pa mor bwysig yw anifeiliaid anwes i deuluoedd ac felly maen nhw’n dod â budd gwirioneddol i blant maeth hefyd. Gallwch gael sawl anifail anwes a bod yn rhiant maeth ardderchog. Y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw eich bod yn rhoi gwybod i ni bod gennych chi anifeiliaid anwes pan fyddwch chi’n gwneud cais. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod eich anifeiliaid anwes a’r plant maeth yn cyd-dynnu’n dda.

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Mae gan bob awdurdod lleol bolisïau gwahanol ynghylch ysmygu. Yr unig beth mae Maethu Cymru Wrecsam yn ei ofyn yw eich bod yn dweud wrthyn ni. Byddwn yn gwneud nodyn yn eich ffeil a gallwn hyd yn oed gynnig arweiniad i chi os ydych chi’n barod i roi’r gorau iddi. Rydyn ni’n canolbwyntio’n bennaf ar ddod o hyd i’r gyfatebiaeth iawn i chi.

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

P’un ai ydych chi’n ddi-waith neu’n gweithio’n rhan-amser, gallwch fod yn rhiant maeth yn bendant. Dydy eich statws cyflogaeth ddim yn cael unrhyw ddylanwad ar a fyddwch chi’n ofalwr maeth ardderchog ai peidio. Bydd ein tîm yn gweithio gyda chi, beth bynnag yw eich sefyllfa, ac yn gwneud yn siŵr mai maethu yw’r cam gorau i chi.

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Does dim ots pa mor fawr yw eich tŷ, gallwch fod yn rhiant maeth ym mha bynnag gartref rydych chi’n teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel ynddo. Y cyfan rydyn ni’n gofyn i chi yw bod gennych chi ystafell wely sbâr. Mae pob teulu’n wahanol, felly hefyd y cartref maen nhw’n byw ynddo.

rhagor o wybodaeth am faethu

A young boy

mathau o faethu

Mae llawer o wahanol fathau o ofal maeth ar gael i chi yn Wrecsam. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

dysgwch mwy
A boy and his dog

cwestiynau cyffredin

Sut mae maethu yn Wrecsam yn gweithio a beth alla i ei ddisgwyl? Mae’r atebion hyn a mwy ar gael yma.

dysgwch mwy
A family sitting around the table

manteision a chefnogaeth

Rydyn ni’n cynnig llawer o gefnogaeth a manteision i’n gofalwyr maeth. Darllenwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei gynnig yma.

dysgwch mwy
A waterfall in Wrexham

dod yn ofalwr maeth

cysylltu â ni

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.