sut mae'n gweithio
sut mae'n gweithio
sut mae’n gweithio
Pan fyddwn ni’n meddwl am faethu, rydyn ni’n meddwl yn gyntaf am deuluoedd maeth eu hunain. Y cwlwm clos, y gefnogaeth a’r cariad rhwng y rhiant maeth a’r plentyn.
Mae maethu yn Wrecsam yn llawer mwy cysylltiedig nag y byddech chi’n ei feddwl – mae teuluoedd maeth yn cael eu cefnogi gan rwydwaith pwrpasol sy’n darparu arbenigedd, arweiniad proffesiynol a chyngor pryd bynnag y bydd ei angen arnoch.
P’un ai fyddwch chi’n cysylltu â’n tîm yn Wrecsam dros y ffôn, e-bost neu ar ein gwefan, byddwn yn cysylltu â chi cyn pen dau ddiwrnod gwaith gyda phecyn gwybodaeth a ffurflen gais. Does dim rheidrwydd arnoch i ddod yn ofalwr maeth dim ond am eich bod wedi cysylltu â ni, ac rydyn ni bob amser yn fwy na pharod i helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
gwell gyda’n gilydd
Rydyn ni’n gallu cynnig cefnogaeth a gofal eithriadol i blant maeth a’u rhieni maeth. Rydyn ni’n gweithio’n agos bob dydd gyda gweithwyr proffesiynol yn eu bywydau i sicrhau eu bod ar y llwybr tuag at ddyfodol mwy disglair.
Rydyn ni’n gallu cynnig y gefnogaeth barhaus hon gan ein bod yn grŵp cydweithredol o 22 awdurdod lleol yng Nghymru, i gyd yn defnyddio un dull sy’n rhoi’n ôl i’n cymunedau ac i’r plant sydd angen ein gofal.
beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?
Dydy Maethu Cymru Wrecsam ddim yn asiantaeth faethu safonol arall. Mae’n gweithio fel rhan o gasgliad cenedlaethol o awdurdodau lleol yng Nghymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i wella bywydau ein pobl ifanc a’n plant yn ein cymuned leol, yma yn Wrecsam.