pwy all faethu?
Mae croeso i unrhyw un faethu, cyn belled â’u bod yn rhannu ein gwerthoedd a bod ganddyn nhw’r rhinweddau i gynnig cartref diogel a gofalgar i blant Wrecsam.
pwy all faethucydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol
Ni yw Maethu Cymru Wrecsam, rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Rydym yn chwilio am unigolion a chyplau medrus a phrofiadol i ofalu am rai o’n pobl ifanc mwyaf diamddiffyn yn Wrecsam – fel y gallent drosglwyddo o ofal preswyl i amgylchedd teuluol gofalgar, lle gallent dderbyn cefnogaeth mewn cartref teuluol sy’n llawn cariad.
Mae maethu yn golygu ymroddiad ac ymrwymiad. Mae’n gallu bod yn heriol, ond mae’n rhoi llawer o foddhad hefyd.
Gallech chi fod yr union berson rydyn ni’n chwilio amdano – gan gynnig cartref teuluol i bobl ifanc sydd angen eich amser, eich cariad a’ch amynedd.
Mae maethu, ym mhob un o’i ffurfiau, yn ymwneud â gwneud gwahaniaeth go iawn, ar unwaith, i’r plant sydd wrth galon ein cymuned.
Mae’n benderfyniad i roi rhywbeth yn ôl, a chreu dyfodol gwell i blant lleol.
Rydyn ni’n darparu hyfforddiant arbenigol, cefnogaeth bwrpasol a lwfansau ariannol i’ch helpu chi i helpu plant sydd angen hynny fwyaf. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: cefnogaeth a manteision
Allech chi fod yr un rydyn ni’n chwilio amdano?