sut mae'n gweithio

y broses

y broses

Felly, rydych chi’n hyderus eich bod chi’n dymuno cychwyn ar eich taith faethu gyda ni, ond dydych chi ddim yn siŵr faint o amser mae’r broses faethu yn Wrecsam yn ei chymryd. Neu beth allwch chi ei ddisgwyl ar ôl i chi wneud cais. Dyma sut mae’n gweithio.

Two young brothers petting their dog

cam 1 - cysylltwch

Y cam cyntaf, a’r pwysicaf, yw cysylltu â ni. Anfon e-bost aton ni neu ein ffonio ni fydd eich cam cyntaf chi ar eich taith tuag at faethu.

Efallai nad yw’n swnio fel llawer, ond dyma’r cam mwyaf y byddwch yn ei gymryd.

A family sitting together in their garden

cam 2 - yr ymweliad cartref

Pan fyddwn ni’n gwybod eich bod chi am ymuno â ni, byddwn yn dechrau dod i’ch adnabod chi. Byddwn yn anfon rhywfaint o waith papur atoch chi ac yna byddwn yn dod draw i’ch gweld, os bydd y rheoliadau’n caniatáu hynny. Os na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn trefnu galwad fideo.

Yn y pen draw, rydyn ni am ddod i’ch adnabod yn gyntaf a sefydlu perthynas â chi.

Two brothers playing on a swing

cam 3 - yr hyfforddiant

Mae’r cam hyfforddi a datblygu cyntaf yn dysgu mwy i chi am faethu, er mwyn i chi allu bod yn sicr mai dyma’r llwybr iawn i chi. Mae hefyd yn gyfle i chi gwrdd â gofalwyr maeth newydd eraill ar yr un cam o’u taith.

Enw’r cwrs hyfforddi cyntaf hwn yw “Paratoi i Faethu”, neu weithiau “sgiliau maethu”. Bydd yn digwydd dros ychydig ddyddiau neu gyda’r nos. Mae’n ymwneud â datblygu gwybodaeth, cysylltiadau a rhwydweithiau gwerthfawr sy’n para.

A woman and a man standing outside of their home

cam 4 - yr asesiad

Ar ôl i ni gyfarfod, byddwn yn dechrau asesu, a dyma pryd y byddwch chi’n dechrau dysgu mwy am beth fydd gofal maeth yn ei olygu i chi. Bydd yn gyfle gwych i chi a’ch teulu a’ch ffrindiau ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi a chanfod rhai o’ch cryfderau a’ch gwendidau yn rhwydwaith eich teulu.

Dydy hwn ddim yn brawf o gwbl – mae’n ymwneud mwy â’ch paratoi ar gyfer y manteision a’r heriau y gall maethu eu cynnig.

Two brothers laughing together

cam 5 - y panel

Mae gan bob un o dimau Maethu Cymru eu panel eu hunain sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, aelodau annibynnol a gweithwyr cymdeithasol. Mae aelodau’r panel yn defnyddio eu profiadau a’u gwybodaeth eu hunain i adolygu ac ystyried eich asesiad, gan edrych arnoch chi fel unigolyn.

Dydyn nhw ddim yn ceisio gwrthod na derbyn eich cais, dim ond edrych ar bopeth o bob safbwynt. Byddan nhw’n creu argymhellion personol yn seiliedig yn llwyr ar yr hyn a fydd yn gweithio orau i chi fel rhiant maeth.

A teenage boy laughing with his parents

cam 6 - y cytundeb gofal maeth

Pan fydd ein panel maethu wedi ystyried eich asesiad, byddwch yn cael rhywbeth o’r enw’r cytundeb gofal maeth. Mae hwn yn nodi beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu i chi, yn amlinellu eich cyfrifoldebau bob dydd a’r holl gefnogaeth ac arweiniad ehangach y byddwch yn eu darparu.

Mae hefyd yn cynnwys yr holl wasanaethau ychwanegol y byddwn yn eu cynnig i chi fel eich rhwydwaith maethu estynedig.

A waterfall in Wrexham

ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?

cysylltwch heddiw

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.