ffyrdd o faethu

mathau o faethu

mathau o ofal maeth

Mae pob un o’n cartrefi yn wahanol a dyna sy’n hyfryd. Mae cartref yn rhywle diogel i garu, dysgu a thyfu fel unigolyn.

Yn union fel y mae pob cartref yn wahanol, mae angen pob plentyn yn ein gofal yn wahanol hefyd. Yma ym Maethu Cymru Wrecsam rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o opsiynau gofal i gyd-fynd ag anghenion penodol.

Yn ôl ein profiad, mae’n bwysig cael amrywiaeth o ofal i ddiwallu anghenion cymhleth ac unigryw pobl ifanc Wrecsam.

gofal maeth tymor byr

A family with their dog standing in front of a waterfall

Mae gofal tymor byr yn gallu golygu aros dros nos, penwythnosau rheolaidd, neu fyw yn rhywle am flwyddyn. Yn syml, mae’n golygu cyfnod o amser sy’n cynnig lle diogel a saff i blentyn aros a theimlo ei fod yn cael ei garu.

Gall fod yn rhywbeth dros dro rhwng opsiynau gofal; arhosiad byrrach wrth i ofal tymor hwy gael ei drefnu, sydd hefyd yn cael ei alw’n sefydlogrwydd, neu ddychwelyd at ei deulu biolegol.

 

Two brothers playing on a swing

Eich rôl chi fydd helpu rhywun pan fydd angen hynny arno fwyaf – dod yn rhan hanfodol o daith faethu rhywun. Darparu’r cysondeb a’r cariad mae’n ei haeddu cyn dychwelyd gartref neu ymlaen i bennod newydd.

gofal maeth tymor hir

A family walking their dog in the woods

Yn wahanol i ofal tymor byr sy’n cynnig ateb gofal byrrach, mae gofal maeth tymor hir yn darparu teulu maeth a rhywle i’w alw’n gartref, pan fydd hi ddim yn bosibl i blant ddychwelyd at eu teuluoedd am gyfnod sylweddol o amser.

A mum and her two sons sat at their table talking

Mae Maethu Cymru Wrecsam yn cymryd amser i baru plentyn neu berson ifanc â’r cartref maeth iawn sy’n addas i’w hanghenion. Er bod gofal maeth tymor hwy yn fwy parhaol, mae’n ymwneud â darparu cartref diogel a chariadus am gyhyd ag sydd ei angen ar y plentyn

mathau arbenigol o ofal maeth

Er bod y mathau o ofal rydyn ni’n eu darparu naill ai’n ofal tymor byr neu’n ofal tymor hir, mae mathau mwy arbenigol o ofal yn rhan o’r rhain hefyd. Mae’r rhain yn gallu cynnwys:

A young boy smiling and holding a football

seibiant byr

Weithiau, mae hoe fach yn gwneud lles i bawb. A dyna’n union beth rydyn ni’n ei gynnig i’r plant lleol yn ein cymuned – seibiant bach.

Mae seibiant byr, sydd hefyd yn cael ei alw’n ofal cymorth, yn cael ei gynllunio ymlaen llaw ac mae’n cynnig profiadau newydd gwych i’r bobl ifanc sydd angen hynny. Gall seibiant byr fod am ychydig oriau, am ddiwrnod neu am benwythnos a gall fod yn drefniant untro, misol neu reolaidd.

Mae’n golygu bod yno iddyn nhw, dod yn rhan o’u teulu estynedig, cynnig cartref cariadus am gyfnod mor hir neu mor fyr ag sydd ei angen arnyn nhw.

A family sitting together having drinks

rhiant a phlentyn

Mae maethu rhiant a phlentyn yn gyfle anhygoel i rannu eich profiadau a’ch bywyd eich hun â rhywun sydd ei angen, ac mae’n helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd. Mae gennych gyfle i annog aelodau’r genhedlaeth nesaf i fod y gorau y gallan nhw fod gan ddatblygu eu hymdeimlad o hunaniaeth yn eich cartref.

Mae gofalwyr maeth rhiant a phlentyn yn cefnogi mamau a thadau, naill ai gyda’i gilydd neu ar wahân, i fagu eu plentyn. Rydych chi’n yn dod yn fodel rôl cadarnhaol, gan ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol, grymuso rhieni i sefydlu trefn, a gwella eu sgiliau er mwyn diwallu anghenion unigol eu plant.

Mae’n ymwneud â helpu rhieni i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, yn bersonol ac ar gyfer eu plentyn.

A family petting their dog

gofal therapiwtig

Mae gan rai pobl ifanc a phlant yn ein cymuned yn Wrecsam anghenion emosiynol neu ymddygiadol mwy cymhleth, ac mae gofyn cael gwahanol fath o ofal ar eu cyfer. Mae lleoliadau therapiwtig yn cynnig y lefel ychwanegol hon o ofal arbenigol ac os byddwch yn dewis cynnig y math hwn o ofal, byddwn yn darparu’r gefnogaeth a’r hyfforddiant y bydd eu hangen arnoch.

A waterfall in Wrexham

dod yn ofalwr maeth

cysylltu â ni

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.