ffyrdd o faethu
cefnogwyr gofalwyr maeth
byddwch y rhywun hwnnw…ymunwch â’n canolbwynt cefnogwyr gofalwyr maeth
Nid pawb sy’n gallu agor eu calonnau i berson ifanc ar adeg hollbwysig yn eu bywyd. Mae’n cymryd rhywun arbennig.
Ond, os ydych chi’n darllen hwn, gallech chi fod y rhywun hwnnw.
Rydym yn chwilio am unigolion a chyplau medrus a phrofiadol i ofalu am rai o’n pobl ifanc mwyaf diamddiffyn yn Wrecsam – fel y gallent drosglwyddo o ofal preswyl i amgylchedd teuluol gofalgar, lle gallent dderbyn cefnogaeth mewn cartref teuluol sy’n llawn cariad.
Os ydych chi’n meddwl mai chi yw’r unigolyn hwnnw, mae Maethu Cymru Wrecsam yn eich gwahodd i ddod yn rhan o’n cynllun Cefnogwyr Gofalwyr Maeth.
Byddwch yn elwa o dîm cefnogi ymroddedig, yn cynnwys gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymdeithasol goruchwylio, gweithiwr cymdeithasol therapiwtig a gweithiwr cefnogi teuluoedd.
Mae maethu yn siwrnai anhygoel, a thrwy ymuno â ni, byddwch yn derbyn ffi broffesiynol gystadleuol, cymorth aml-asiantaeth helaeth a mynediad at gyfleoedd hyfforddiant arbennig.
Yn bwysicaf oll, byddwch yn cael y cyfle i gael effaith ddwys ar fywyd person ifanc. Er bod y rôl hon yn gofyn llawer, mae’r wobr yn werth chweil a bydd yn aros gyda chi am byth.
byddwch y rhywun hwnnw
contract a chyflog
- Byddwch yn derbyn ffi broffesiynol o £52,000 y flwyddyn i adlewyrchu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gofalu am ein plant a’n pobl ifanc.
- Rydym yn cynnig lwfans maethu ychwanegol yn seiliedig ar oed y plentyn neu berson ifanc i dalu’r gost o ofalu amdanynt.
- Byddwn hefyd yn darparu arosiadau byr rheolaidd i’r plentyn neu’r person ifanc fel y gallwch gael seibiant haeddiannol, yn ogystal â chymorth yn ystod y dydd i hwyluso eu dysgu a’u datblygiad.
buddion
- Mae gofalwyr maeth Maethu Cymru Wrecsam yn derbyn gostyngiad o 75% oddi ar dreth y cyngor.
- Derbyn gofal arhosiad byr am 2 ddiwrnod y mis, yn ogystal â 20 diwrnod ychwanegol o wyliau â thâl.
- Manteisio ar hyfforddiant a chefnogaeth gynhwysfawr a ddarperir gan ein canolbwynt cefnogaeth pwrpasol i Gefnogwyr.
- Cael mynediad at grwpiau cefnogi gwerthfawr, myfyrio ar gymheiriaid a thrafodaethau cyfoethog.
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau Maethu Wrecsam a gweithgareddau cyfoethogi sy’n ymgysylltu.
gofynion allweddol
- Cwblhau asesiad gofalwr maeth yn llwyddiannus a derbyn cymeradwyaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
- Bod ar gael yn llawn amser i ofalu am y plentyn neu’r person ifanc a leolir yn eich cartref.
- Darparu ystafell wely i gefnogi plentyn neu berson ifanc.
- Bod yn barod i gynnig cartref i blentyn unigol.
- Cynnig sefydlogrwydd a pharhad i’r plentyn neu’r person ifanc sydd dan eich gofal.
- Arddangos cysylltiad cadarn bod gennych ddealltwriaeth o blant a phobl ifanc â chefndiroedd cymhleth.
- Byw o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam neu’r cyffiniau.
- Arddangos agwedd gofalu sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
- Dangos y gallu i gynnig parch ac anogaeth gadarnhaol ddiamod, hyd yn oed wrth fynd i’r afael ag ymddygiad heriol.
- Darparu cefnogaeth pan nad yw plentyn neu berson ifanc yn cymryd rhan mewn neu’n mynychu addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
- Gyda mynediad at gar addas ar gyfer gweithgareddau maethu.
- Gallu pasio gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn llwyddiannus.
- Ymrwymiad i gwblhau gofynion hyfforddiant gorfodol a hyfforddiant ychwanegol fel yr amlinellwyd gan y Gweithiwr Cymdeithasol.
- Cynnig cefnogaeth i blant a phobl ifanc gyda chyswllt teulu pan fo angen.
amdanat ti
nodweddion personol
Mae’r nodweddion personol canlynol yn fuddiol iawn ar gyfer y rôl hon:
- Amynedd
- Dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn
- Meddylfryd therapiwtig
- Gwydnwch emosiynol
- Gwydnwch corfforol
- Dyfalbarhad
- Yn actif
- Hyblygrwydd
- Diddordeb gwirioneddol
- Agwedd gadarnhaol
- Rhwydweithiau cymdeithasol a theuluol cadarn a gwydn
- Cadernid
- Empathi
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
profiad allweddol
Yn y rôl hon, mae disgwyl i chi:
- Arddangos profiad blaenorol o weithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion â chefndiroedd cymhleth.
- Bod â dealltwriaeth drylwyr o effaith trawma, ymlyniad ac esgeulustod ar unigolion ifanc.
- Ymgysylltu’n weithredol fel rhan o’r canolbwynt proffesiynol ehangach sy’n rhan o’r cynllun, gan ganolbwyntio ar ofal a chefnogaeth sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
- Cadw at y safonau maethu proffesiynol, yn cynnwys cynnal cofnodion ac adrodd i safon uchel.
- Meddu ar wybodaeth yn ymwneud â datblygiad plant a’i effaith ar brofiadau bywyd, deall sut all y ffactorau hyn effeithio ar ymddygiad.
enghreifftiau o broffesiynau addas
Dyma rai enghreifftiau o broffesiynau sy’n cyd-fynd â’r rôl hon:
- Gweithiwr Preswyl
- Athrawon a Chymorthyddion Addysgu
- Gweithiwr Cyfiawnder Ieuenctid
- Nyrs neu weithiwr proffesiynol iechyd
- Ymarferydd Iechyd Meddwl
- Gofalwyr Maeth Arbenigol
- Gofalwyr Maeth â phrofiad ychwanegol o ddelio ag ymddygiad heriol a chymhleth
- Gweithiwr Ieuenctid
- Gweithiwr Chwarae
- Gweithiwr Cefnogi Anabledd Dysgu
- Swyddog Heddlu
- Swyddog Carchar
Mae’r proffesiynau hyn yn darparu profiad a sgiliau gwerthfawr a all gyfrannu at faethu’n llwyddiannus.
cefnogaeth
Mae Maethu Cymru Wrecsam wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr i’n gofalwyr maeth. Dyma beth y gallwch ei ddisgwyl:
- Goruchwyliaeth Reolaidd: Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth gyson gan eich gweithiwr cymdeithasol dynodedig, gan sicrhau yr ymdrinnir â’ch anghenion a’ch pryderon.
- Hyfforddiant wedi’i Deilwra: Mae gofalwyr maeth yn elwa o becyn hyfforddiant a sgiliau arbenigol, wedi’i bersonoli i fodloni eu gofynion unigryw. Mae hyn yn grymuso eich datblygiad proffesiynol ac yn rhoi’r adnoddau i chi er mwyn bodloni anghenion y plant a phobl ifanc dan eich gofal.
- Cydweithio o fewn y Tîm: Byddwch yn cydweithio ac yn derbyn cefnogaeth barhaus gan dîm ehangach y cynllun, yn cynnwys cefnogaeth addysg, gweithiwr cymdeithasol therapiwtig, gweithiwr cefnogi teuluoedd a gweithiwr cymdeithasol.
- Cynlluniau Cymorth Unigol: Rydym yn asesu anghenion cymorth pob person ifanc ac yn datblygu cynlluniau cymorth wedi’u personoli i sicrhau eu lles.
- Cymorth 7 diwrnod: Mae ein cymorth ar gael 7 diwrnod yr wythnos i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon.
- Arosiadau Byr: Mae gofalwyr maeth yn mwynhau arosiadau byr rheolaidd i’r plant neu’r bobl ifanc dan eu gofal, gyda dau ddiwrnod y mis fel y safon, ynghyd â 20 diwrnod o seibiant y flwyddyn.
hyfforddiant
Mae ein rhaglen hyfforddiant cynhwysfawr yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer maethu’n llwyddiannus. Mae’n cynnwys:
- Modiwlau Gorfodol: Mae gofalwyr maeth yn cwblhau pum modiwl gorfodol sy’n cynnwys pynciau fel Diogelwch Bwyd, Diogelu, Cymorth Cyntaf, Ymlyniad, Adrodd a Chofnodi.
- Modiwlau Ychwanegol: Mae chwe modiwl ychwanegol yn cael eu teilwra i anghenion penodol y plentyn dan eich gofal, fel yr argymhellir gan y Gweithiwr Cymdeithasol. Mae’r modiwlau hyn yn cynnwys meysydd amrywiol, yn cynnwys:
- Therapi ymddygiad gwybyddol
- Anghenion addysg arbennig
- Hunan-niweidio
- Gofalu am blant ag anghenion dysgu penodol
- Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
- Iechyd meddwl i bobl ifanc
- Llinellau sirol
- Arferion adferol
- Ymddygiad rhywiol
- Pobl ifanc ar remánd
- Ymwybyddiaeth o Alcohol a Chyffuriau
- Trawma Cymhleth
- Anhwylder ymddygiad
- Dad-ddwysau
- Galar a Phrofedigaeth
- Gyda llawer mwy o ddewisiadau ar gael i ddarparu ar gyfer anghenion amrywiol.
Mae ein rhaglen hyfforddiant yn sicrhau eich bod yn barod i fynd i’r afael â heriau ac anghenion unigryw y plant a’r bobl ifanc yr ydych yn gofalu amdanynt.
Os ydych chi’n teimlo y gallwch ymgymryd â’r rôl wobrwyol hon ac eisiau dysgu mwy, mae croeso i chi cysylltu â ni. Rydym yma i ateb eich cwestiynau a’ch cefnogi chi i ddod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Wrecsam.