eisoes yn maethu?
eisoes yn maethu?
Os ydych chi eisoes yn gwneud byd o wahaniaeth fel gofalwr maeth, a ph’run ai a oes yna blentyn neu unigolyn ifanc yn byw gyda chi yn barod, neu beidio, mae trosglwyddo atom ni yn broses syml.
Efallai eich bod chi eisoes yn maethu gyda ni. Os ydych yn maethu gyda’ch Awdurdod Lleol yng Nghymru, yna rydych chi eisoes yn rhan o dîm ehangach Maethu Cymru.
Os ydych yn ofalwr maeth gydag asiantaeth breifat ar hyn o bryd, mae gennym ni lawer o brofiad o’r broses drosglwyddo a byddwn yn sicrhau fod y broses mor syml â phosibl.
Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod ynglŷn â throsglwyddo i Maethu Cymru Wrecsam.
y manteision o faethu yn uniongyrchol
Mae Maethu Cymru Wrecsam yn rhan o rwydwaith o wasanaethau maethu Awdurdod Lleol nad ydynt er elw. Mae ein holl gyllid yn mynd yn uniongyrchol i’r gwasanaeth maethu rydym yn ei ddarparu.
Mae’r holl blant sydd angen gofalwr maeth yn gyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol. Drwy faethu yn uniongyrchol gyda ni, fe fyddwch yn cael eich cysylltu â phob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â gofal plentyn. Mae gennym ni wybodaeth leol yn ymwneud â’n plant a’n gofalwyr maeth. Rydym yn deall realiti bywyd yn Wrecsam.
Mae bod yn rhan o’n tîm yn Wrecsam yn golygu y byddwch bob amser yn cael eich clywed, eich parchu, eich cefnogi a’ch gwerthfawrogi fel rhan ganolog o’n tîm maeth.
beth rydym yn ei gynnig
- Rhwydwaith cefnogi o dros 100 o ofalwyr maeth wedi eu lleoli yn Wrecsam.
- Rhaglen ddysgu a datblygu gynhwysfawr, sy’n cynnwys dysgu wyneb yn wyneb, rhithiol, ac ar-lein ar eich cyflymder eich hun, gyda hyfforddiant a datblygu arbenigol pan fo angen.
- Cofnod dysgu a chynllun datblygu unigol wedi ei lenwi gyda’r holl sgiliau trosglwyddadwy a phrofiadau y byddwch wedi eu cael ar hyd y ffordd, a bydd yn gosod llwybr ar gyfer eich dyfodol.
- Cefnogaeth broffesiynol 24/7 ar gyfer cyngor, arweiniad neu gefnogaeth. Ni fyddwch fyth yn teimlo ar eich pen eich hun gyda ni.
- Mynediad i’n grwpiau cefnogi gofalwyr maeth a digwyddiadau rheolaidd a gweithgareddau lle gallwch ddod yn nes at deuluoedd maeth eraill, cael profiadau newydd, cyfeillgarwch a chreu atgofion sy’n parhau.
- Cefnogaeth ariannol sylweddol a lwfansau hael.
- Gostyngiad o 75% oddi ar eich treth gyngor.
- Aelodaeth rad ac am ddim o’r Rhwydwaith Maethu a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru.
- Cerdyn ‘Max’ ac aelodaeth Cadw yn ogystal â mynediad i ostyngiadau amrywiol.
sut i drosglwyddo atom ni
Mae trosglwyddo atom ni yn haws nag y byddech yn ei feddwl. Fe fydd angen i chi gysylltu gyda’n tîm i gael sgwrs gyfeillgar, dim pwysau.
Fe fyddwn yn trafod pam rydych eisiau trosglwyddo a ph’run ai a allwn ni fodloni eich disgwyliadau o ran maethu.
Pan rydych yn barod i drosglwyddo, fe fyddwn yma i’ch cefnogi chi drwy’r broses.
ewch i gael eich canllaw trosglwyddo
- lawrlwythwch eich canllaw i drosglwyddo. lawrlwytho