pam maethu gyda ni?
pam ein dewis ni?
pam ein dewis ni?
Mae Maethu Cymru Wrecsam yn rhan o rwydwaith o wasanaethau maethu nid-er-elw Awdurdodau Lleol, sy’n dilyn dull cydweithredol i lunio dyfodol plant yng Nghymru.
Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio fel un tîm, gan ddibynnu ar ein gilydd i fynd ati i wella dyfodol pob plentyn lleol yn ardal Wrecsam.

ein cenhadaeth
Mae yna blant o bob oed ar hyd a lled Cymru sydd ein hangen ni, ac fel gofalwr maeth dibynadwy, maen nhw’n ymddiried ynddo, maen arnyn nhw eich angen chithau hefyd.
O fabis, plant bach a phobl ifanc yn eu harddegau, i frodyr a chwiorydd a rhieni ifanc, mae gan bob un ohonyn nhw stori unigryw i’w rhannu. Mae ein cenhadaeth yma ym Maethu Cymru yr un fath; creu dyfodol gwell i bob plentyn yn ein gofal.

ein cefnogaeth
Rydyn ni’n cynnig rhwydwaith cefnogi lleol cyflawn pan fyddwch chi’n ymuno â’n tîm, gan sicrhau eich bod chi’n cael y gefnogaeth orau i chi a’r plant rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.
Byddwn wrth eich ymyl bob cam o’r ffordd ar eich taith faethu, yn darparu hyfforddiant, cyngor ac arbenigedd diguro gan weithwyr proffesiynol yn ein rhwydwaith.

ein ffyrdd o weithio
Mae tîm Maethu Cymru Wrecsam yn estyniad o’ch cymuned leol, yn hytrach na sefydliad pell i ffwrdd. Rydyn ni’n gweithio i gadw plant yn lleol yn eu hardal, ac yn canfod beth sydd orau iddyn nhw.
Rydyn ni’n ystyried pob un o anghenion y bobl ifanc yn ein gofal cyn eu paru â rhiant maeth sy’n gallu diwallu eu hanghenion unigryw. Mae cydweithio a chysylltiadau yn rhan o’n ffyrdd o weithio bob dydd ac rydyn ni’n rhoi hyn ar waith gyda’n gofal maeth hefyd.

eich dewis
Mae dewis ymuno â’n tîm yn golygu dewis gweithio gyda phobl sy’n malio go iawn. Byddwch yn cael cefnogaeth ac ystod eang o wybodaeth arbenigol gan weithwyr proffesiynol, gan gynnwys cyd-ofalwyr maeth. Byddwch yn dod yn rhan o dîm gofalgar, brwdfrydig sy’n canolbwyntio ar y plentyn a fydd yno bob amser gyda’r cyngor, y gefnogaeth a’r arweiniad cywir.