ffyrdd o faethu

hyrwyddwyr gofalwyr maeth arhosiadau byr

nid pawb sy’n gallu agor eu calonnau i berson ifanc ar adeg hollbwysig o’u bywyd. mae’n cymryd rhywun arbennig.

Ond, os ydych chi’n darllen hwn, gallech chi fod yr unigolyn hwnnw.

Fel Cefnogwr Gofalwyr Maeth Seibiant Byr byddwch yn darparu gofal hanfodol i’n cefnogwyr gofalwyr llawn amser. Mae eich rôl yn eu galluogi i gael eu cefn atynt gan hefyd sicrhau bod y person ifanc yn derbyn gofal cyson mewn lleoliad teuluol.

Rydym yn chwilio am unigolion a chyplau medrus a phrofiadol i ofalu am rai o’n pobl ifanc mwyaf diamddiffyn yn Wrecsam – fel y gallant drosglwyddo o ofal preswyl i amgylchedd teuluol gofalgar, lle gallant dderbyn cefnogaeth mewn cartref teuluol sy’n llawn cariad.

Os ydych chi’n meddwl mai chi yw’r unigolyn hwnnw, mae Maethu Cymru Wrecsam yn eich gwahodd i ddod yn rhan o’n cynllun Cefnogwyr Gofalwyr Maeth.

Byddwch yn elwa o dîm cefnogi ymroddedig, yn cynnwys gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymdeithasol goruchwylio, gweithiwr cymdeithasol therapiwtig a gweithiwr cefnogi teuluoedd.

Mae maethu yn siwrnai anhygoel, a thrwy ymuno â ni, byddwch yn derbyn ffi broffesiynol gystadleuol, cymorth amlasiantaeth helaeth a mynediad at gyfleoedd hyfforddiant arbennig.

Yn bwysicaf oll, byddwch yn cael y cyfle i gael effaith ddwys ar fywyd person ifanc. Er bod y rôl hon yn gofyn llawer, mae’r wobr yn werth chweil a bydd yn aros gyda chi am byth.

byddwch u rhywun hwnnw

contract a chyflog

  • Derbyn ffi broffesiynol o £52,000 y flwyddyn ar sail pro rata am eich gwasanaethau gofal “seibiant byr”.
  • Rydym yn cynnig lwfans maethu ychwanegol yn seiliedig ar oed y plentyn i dalu’r gost o ofalu am ein plant ar sail pro rata.

buddion

  • Cael mynediad at hyfforddiant a chefnogaeth werthfawr a ddarperir gan ein canolbwynt cefnogaeth pwrpasol i Gefnogwyr.
  • Ymuno â chymuned o Gefnogwyr Gofalwyr, a rhannu profiadau a gwybodaeth.
  • Chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gofalwyr maeth llawn amser a’r bobl ifanc sydd yn eu gofal.
  • Mae gofalwyr maeth Maethu Cymru Wrecsam yn derbyn gostyngiad o 75% oddi ar Dreth y Cyngor.
  • Cymryd rhan mewn digwyddiadau Maethu Wrecsam a gweithgareddau cyfoethogi atyniadol.

gofynion allweddol

  • Cwblhau asesiad gofalwr maeth yn llwyddiannus a derbyn cymeradwyaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
  • Bod yn barod i gynnig gofal “seibiant byr” am gyfanswm o 68 niwrnod y flwyddyn, ar sail pro rata, yn seiliedig ar anghenion y plant sydd yn ein gofal.
  • Darparu ystafell sbâr i gefnogi person ifanc mewn angen.
  • Bod yn barod i gynnig cartref i blentyn unigol.
  • Cynnig sefydlogrwydd a chysondeb i’r bobl ifanc sydd dan eich gofal.
  • Arddangos cysylltiad cryf a dealltwriaeth o bobl ifanc o gefndiroedd cymhleth.
  • Byw o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam neu yn y cyffiniau.
  • Arddangos agwedd ofalgar sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
  • Dangos y gallu i gynnig parch ac anogaeth gadarnhaol ddiamod, hyd yn oed wrth fynd i’r afael ag ymddygiad heriol.
  • Bod â mynediad at gar addas ar gyfer gweithgareddau maethu.
  • Gallu pasio gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn llwyddiannus.
  • Ymrwymiad i gwblhau gofynion hyfforddiant gorfodol a hyfforddiant ychwanegol fel yr amlinellir gan y Gweithiwr Cymdeithasol.
  • Cynnig cefnogaeth i bobl ifanc gyda chyswllt teulu pan fo angen.

 

amdanat ti

nodweddion personol

Mae’r nodweddion personol canlynol yn fuddiol iawn ar gyfer y rôl hon:

  • Amynedd
  • Dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn
  • Meddylfryd therapiwtig
  • Gwytnwch emosiynol
  • Gwytnwch corfforol
  • Dyfalbarhad
  • Bod yn heini
  • Hyblygrwydd
  • Diddordeb gwirioneddol
  • Agwedd gadarnhaol
  • Rhwydweithiau cymdeithasol a theuluol cadarn a gwydn
  • Cadernid
  • Empathi
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol

profiad allweddol

Yn y rôl hon, mae disgwyl i chi:

  • Arddangos profiad blaenorol o weithio gyda phobl ifanc neu oedolion â chefndiroedd cymhleth.
  • Bod â dealltwriaeth drylwyr o effaith trawma, ymlyniad ac esgeulustod ar unigolion ifanc.
  • Ymgysylltu’n weithredol yn rhan o’r canolbwynt proffesiynol ehangach sy’n rhan o’r cynllun, gan ganolbwyntio ar ofal a chefnogaeth sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
  • Cadw at safonau maethu proffesiynol, yn cynnwys cynnal cofnodion ac adrodd i safon uchel.
  • Meddu ar wybodaeth yn ymwneud â datblygiad plant a’i effaith ar brofiadau bywyd, deall sut all y ffactorau hyn effeithio ar ymddygiad.

enghreifftiau o broffesiynau addas:

Dyma enghreifftiau o broffesiynau sy’n cyd-fynd â’r rôl hon (nid yw’n rhestr gyflawn):

  • Gweithiwr Preswyl
  • Swyddog Heddlu
  • Swyddog Carchar
  • Athrawon sydd â phrofiad o weithio gyda phlant ag anghenion a chefndiroedd cymhleth
  • Gweithiwr Cyfiawnder Ieuenctid
  • Nyrs Seiciatrig neu arbenigwr iechyd meddwl
  • Gofalwyr Maeth Arbenigol
  • Gofalwyr Maeth â phrofiad ychwanegol o ddelio ag ymddygiad heriol a chymhleth

Mae’r proffesiynau hyn yn darparu profiad a sgiliau gwerthfawr a all gyfrannu at faethu’n llwyddiannus.

 

cefnogaeth:

Mae Maethu Cymru Wrecsam wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr i’n gofalwyr maeth. Dyma’r hyn y gellwch ei ddisgwyl:

  • Goruchwyliaeth Reolaidd: Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth gyson gan eich gweithiwr cymdeithasol dynodedig, a fydd yn sicrhau yr ymdrinnir â’ch anghenion a’ch pryderon.
  • Hyfforddiant wedi’i Deilwra: Mae gofalwyr maeth yn elwa o becyn hyfforddiant a sgiliau safonol, wedi’i bersonoli i fodloni eu gofynion unigryw. Mae hyn yn grymuso eich datblygiad proffesiynol ac yn rhoi’r adnoddau i chi er mwyn bodloni anghenion y bobl ifanc dan eich gofal.
  • Cydweithio o fewn y Tîm: Byddwch yn cydweithio ac yn derbyn cefnogaeth barhaus gan dîm ehangach y cynllun, yn cynnwys cefnogaeth addysg, gweithiwr cymdeithasol therapiwtig, gweithiwr cefnogi teuluoedd a gweithiwr cymdeithasol.
  • Cynlluniau Cymorth Unigol: Rydym yn asesu anghenion cymorth pob person ifanc ac yn datblygu cynlluniau cymorth wedi’u personoli i sicrhau eu lles.
  • Cymorth 7 niwrnod: Mae ein cymorth ar gael 7 niwrnod yr wythnos i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon brys.

 

hyfforddiant:

Mae ein rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer maethu’n llwyddiannus. Mae’n cynnwys:

  • Modiwlau Gorfodol: Diogelwch Bwyd, Diogelu, Cymorth Cyntaf, Ymlyniad, Adrodd, a Chofnodi.
  • Modiwlau Ychwanegol: Mae chwe modiwl ychwanegol yn cael eu teilwra i anghenion penodol y plentyn dan eich gofal, fel yr argymhellir gan y Gweithiwr Cymdeithasol. Mae’r modiwlau hyn yn cynnwys meysydd amrywiol, yn cynnwys:
  • Therapi ymddygiad gwybyddol
  • Anghenion addysg arbennig
  • Hunan-niweidio
  • Gofalu am blant ag anghenion dysgu penodol
  • Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
  • Iechyd meddwl i bobl ifanc
  • Llinellau sirol
  • Arferion adferol
  • Ymddygiad rhywiol
  • Pobl ifanc ar remánd
  • Ymwybyddiaeth o Alcohol a Chyffuriau
  • Trawma Cymhleth
  • Anhwylder ymddygiad
  • Dad-ddwysáu
  • Galar a Phrofedigaeth
  • Gyda llawer mwy o ddewisiadau ar gael i ddarparu ar gyfer anghenion amrywiol.

Mae ein rhaglen hyfforddiant yn sicrhau eich bod yn barod i fynd i’r afael â heriau ac anghenion unigryw y bobl ifanc yr ydych yn gofalu amdanynt.

Os oes gennych ddiddordeb bod yn Gefnogwr Gofalwyr Maeth Seibiant Byr a gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i fywydau unigolion ifanc, mae croeso i chi gysylltu â ni. Rydym yma i ateb eich cwestiynau a’ch cefnogi ar eich siwrnai gofal maeth gyda Maethu Cymru Wrecsam.

byddwch y rhywun hwnnw

cysylltu a ni

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.