stori

jenny a mark

Mae’r pâr priod Jenny a Mark yn gofalu am dri bachgen ifanc o’u cartref teuluol yn Wrecsam.

y teulu maeth

Cafodd penderfyniad Jenny a Mark i ddechrau maethu ei ysbrydoli gan eu tri phlentyn, sydd wedi tyfu i oed ac wedi symud allan ers hynny.

“Roedden ni i gyd yn arfer mynd lawr i garafán fy Mam yn yr hafau, ac roedd y plant yn arfer chwarae gyda phlant eraill oedd gyda theuluoedd maeth. Roedden ni wedi meddwl bod gennym lawer i’w gynnig fel teulu ac y gallen ni roi’r un sefydlogrwydd i blant eraill a oedd gyda’n plant wrth dyfu i fyny.”

Ac mae helpu plant i aros yn lleol ac yn agos at y cymunedau y maen nhw’n gyfarwydd â hwy yn ffactor allweddol i’r cwpl.

Cysyllton nhw â thîm Maethu Cymru Wrecsam ar ôl argymhelliad i wneud hynny gan deulu maeth lleol roedden nhw wedi dod i’w adnabod. 

“Gwnaethon nhw ymdrech fawr i’n paru ni â mwy o blant lleol, fel eu bod yn dal i allu gweld a chwarae gyda’u ffrindiau a’u brodyr a’u chwiorydd. Mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr yn eu bywydau, a’n rhai ni.”

“maen nhw’n rhan o’r teulu” 

Mae Jenny a Mark wedi bod yn ofalwyr maeth ers 13 blynedd bellach ac ar hyn o bryd mae ganddyn nhw ddau frawd sy’n byw gyda nhw.

“Mae’r bechgyn wedi bod gyda ni ers 3 blynedd bellach. Roedden nhw’n wyth ac yn ddeg oed pan gyrhaeddon nhw gyntaf. Maen nhw wedi dod ymlaen yn fawr ers hynny. Maen nhw’n gwneud mor dda mewn ysgol uwchradd leol, sy’n braf ei weld.”

Mae’r cwpl yn credu ei bod yn bwysig i’r plant y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw weld eu brodyr a’u chwiorydd biolegol yn rheolaidd.

“Trwy’r tîm yn Maethu Cymru Wrecsam, rydyn ni’n cael cyfle i gwrdd â nhw fel y gallant gadw mewn cysylltiad a chwarae gyda’i gilydd. Mae’n wych gweld y gwenau ar eu hwynebau pan fyddan nhw’n gweld ei gilydd.”

“rydyn ni’n eu cefnogi”

Canfu Jenny a Mark nad yw maethu yn daith hawdd yn aml, ond mae’n rhoi boddhad mawr.

“Rydyn ni wedi dysgu fel rhieni maeth ein bod, ar gyfer pob cam rydyn ni’n ei symud ymlaen, yn cymryd cam yn ôl hefyd. Ond, mae’n rhaid i chi ymddiried yn eich greddf a derbyn pawb am bwy ydyn nhw, a dod o hyd i ffyrdd o’u helpu i ffynnu yn eu ffordd eu hunain.

“Y rhan bwysicaf yw rhoi gwybod iddyn nhw eu bod yn rhan o’r teulu. I fod yno i’w cefnogi.

“I weld y gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud i’w bywydau, a’n rhai ni, dyna pam rydyn ni’n parhau ar y daith hon. Dyna pam rydyn ni’n maethu.”

am ddechrau eich stori faethu eich hun?

Os hoffech chi, fel Jenny a Mark, wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc yn eich ardal leol, byddem wrth ein boddau o glywed gennych.

Cysylltwch â ni heddiw, a gadewch i ni ddechrau arni.

am ddysgu mwy?

Dysgwch fwy am faethu a beth y gallai ei olygu i chi.

Mae ein straeon llwyddiant maethu yn seiliedig ar brofiadau go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y mae nhw’n rhoi gofal, cariad a chefnogaeth iddyn nhw, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

A waterfall in Wrexham

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.