pam maethu gyda ni?

sut mae maethu cymru yn cefnogi gofalwyr maeth

cefnogaeth sy’n gwneud gwahaniaeth, gan y bobl sy’n gwybod popeth am y peth

Mae maethu yn benderfyniad sy’n newid bywyd, ac mae teimlo fel eich bod yn cael eich cefnogi yn gwneud gwahaniaeth mawr. Yma yn Wrecsam a ledled Cymru, mae gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi bob dydd gan ein timau ymroddedig, cyngor ymarferol a phobl sy’n deall realiti maethu.

Rydyn ni’n rhannu beth yn union yw’r gefnogaeth honno mewn bywyd go iawn.

Yng ngeiriau’r gofalwyr maeth eu hunain.

 

beth mae cefnogaeth yn ei olygu i ofalwyr maeth

Mae cefnogaeth yn ymwneud â mwy na chael cymorth gyda phrosesau neu daliadau yn unig. Ar gyfer gofalwyr maeth, mae’n ymwneud â gwybod bod rhywun yno i wrando, helpu, a chamu i’r adwy pan fydd angen.

Mae pob taith faethu yn wahanol, ond mae gofalwyr yn dweud wrthym yn gyson bod cefnogaeth yn chwarae rhan allweddol wrth wneud iddynt deimlo’n hyderus a medrus a byth ar eu pennau eu hunain.

 

lleisiau gofalwyr maeth

Yr hyn mae ein gofalwyr maeth yn ei ddweud…

weithiau, y cyfan sydd ei angen arnoch yw sgwrs

Lisa, Foster Carer, Wrexham

Mae’r gefnogaeth a gewch yn ddiguro. Weithiau’r cyfan sydd ei angen arnoch yw ychydig o arweiniad, neu yn syml rhywun i siarad â nhw, yn enwedig ar ddiwrnod prysur. Gall cael rhywun sy’n wirioneddol ddeall yr hyn rydych yn mynd drwyddo wneud gwahaniaeth mawr. Yn aml, dim ond sgwrs yw’r union beth sydd ei angen arnoch.”

Lisa, Gofalwr Maeth, Wrecsam
Gwyliwch stori Lisa

cefnogaeth gref bob cam o’r ffordd

Foster carer Viv

Rwyf bob amser wedi teimlo fy mod yn cael cefnogaeth dda. Mae bob amser rhywun ar ben arall y ffôn os oes angen cyngor arnaf, ac mae gennym ystod o grwpiau cymorth lle rydym yn cwrdd yn rheolaidd am goffi a sgwrs gyda gofalwyr maeth lleol eraill.”

Viv, Gofalwr Maeth, Wrecsam

pan fo angen cefnogaeth

sut rydym yn cefnogi gofalwyr maeth ledled cymru

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, o Ynys Môn i Gasnewydd, wedi llofnodi Ymrwymiad Cenedlaethol Maethu Cymru – pecyn cytunedig o hyfforddiant, cymorth a gwobrau a gynigir i holl ofalwyr Maethu Cymru.

Mae’r ymrwymiad hwn yn nodi’r gefnogaeth graidd y gallwch ei disgwyl, gan sicrhau eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch ac yn cael eich cefnogi trwy gydol eich taith faethu.

  • O’ch asesiad cychwynnol gyda gweithiwr cymdeithasol cymwys i arweiniad parhaus gan aelod ymroddedig o dîm Maethu Cymru, byddwch yn derbyn cefnogaeth broffesiynol gyson, ynghyd â chyfleoedd rheolaidd i rannu eich barn.
  • Mae gofalwyr hefyd yn elwa o gymorth cyfoedion, dysgu a datblygu wedi’i deilwra, o leiaf chwe grŵp cymorth bob blwyddyn, ac o leiaf dau ddigwyddiad cymdeithasol ar gyfer yr aelwyd gyfan.
  • Byddwch yn derbyn cylchlythyrau, cynlluniau disgownt, aelodaeth â thâl i’r Rhwydwaith Maethu a New Family Social, a chefnogaeth i greu eich proffil gofalwr maeth ar-lein ar Big Welcome i helpu plant i setlo yn eich cartref. Mae Maethu Cymru hefyd yn cydnabod eich ymroddiad gyda rhoddion gwerthfawrogi, tystysgrifau gwasanaeth hir a gwobrau argymell ffrind, gan sicrhau eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich gwerthfawrogi bob cam o’r ffordd.