blog

pwytho cariad ym mhob blanced: cefnogi maethu trwy garedigrwydd

Mae maethu yn ymwneud â chreu cysur a diogelwch yn ystod cyfnodau o ansicrwydd. Weithiau gall y gweithredoedd lleiaf o garedigrwydd wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Pan fydd babi neu blentyn ifanc yn mynd i mewn i ofal, maen nhw’n aml yn cyrraedd gydag ychydig iawn o eiddo eu hunain.

Ar adeg o newid, gall rhywbeth mor syml â blanced feddal ddod â chysur, cynhesrwydd a sicrwydd.

Diolch i Jean, mae llawer o’n plant ieuengaf wedi derbyn hyn yn union.

Mae Jean yn mynychu Eglwys y Nazarene yn Llai ac mae ganddi ddawn wych am grosio.

Ar ôl sgwrs am faethu, penderfynodd ddefnyddio ei chreadigrwydd i gefnogi plant sy’n dod i ofal yn y ffordd fwyaf ymarferol a thwymgalon.

Ers hynny mae hi wedi crosio dwsinau o flancedi ar gyfer babanod a phlant ifanc.

 Mae pob un y mae’n ei gwneud yn cael ei chadw gan y plentyn ac yn symud gydag ef – boed hynny i gartref maeth tymor hwy neu i’w deulu parhaol trwy fabwysiadu.

stori jean: pam mae maethu yn bwysig i mi

Esboniodd Jean pam mae helpu plant mewn gofal maeth yn golygu cymaint iddi:

“Cefais fy mabwysiadu flynyddoedd lawer yn ôl ac fe’m bendithiwyd gyda theulu mabwysiadol gwych. Er hynny, rydw i bob amser yn teimlo tosturi dros blant nad ydynt yn gallu byw gyda’u teuluoedd biolegol mwyach. Pan glywais pa mor ifanc yw rhai plant pan maen nhw’n cyrraedd, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth ymarferol. Mae crosio yn rhywbeth rydw i wrth fy modd yn ei wneud, felly roedd gwneud blancedi yn teimlo fel ffordd o ddangos i bob plentyn bod rhywun yn meddwl amdanynt.”

ychwanegodd cath, un o’n gofalwyr maeth:

“Mae Jean yn wraig wych sydd â dawn wirioneddol. Pan esboniais fod rhai plant yn dod i ofal efo ychydig iawn o eiddo personol, roedd hi eisiau helpu ar unwaith. Mae’r plant sydd wedi aros efo ni i gyd wedi elwa ar y blancedi hardd hyn, sydd wedi’u creu â chariad yn arbennig iddyn nhw. Mae’n rhywbeth mor syml, ond mae’n golygu cymaint.”

diolch, jean

Fel gwasanaeth maethu’r awdurdod lleol, rydym yn gweld yn uniongyrchol effaith caredigrwydd cymunedol.

Mae blancedi Jean yn fwy na dim ond edafedd a phwytho – maen nhw’n gysur yn ystod cyfnod o ansicrwydd, cynhesrwydd yn ystod cyfnod o newid, ac yn atgoffa bod pob plentyn yn bwysig.

Jean, diolch am rannu eich amser, eich sgil a’ch tosturi.

Mae eich haelioni yn helpu plant i deimlo’n ddiogel, i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cofio ar adeg pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

allech chi gynnig cartref diogel a chariadus i blentyn lleol?

Mae caredigrwydd Jean yn dangos y gall pawb wneud gwahaniaeth ym mywyd plentyn.

I rai, mae’r gwahaniaeth hwnnw’n dod trwy grosio blancedi. I eraill, mae’n dod trwy agor eu cartref.

Os ydych chi erioed wedi ystyried maethu, gallai fod yn bryd ei archwilio. Mae angen cartrefi diogel, sefydlog a gofalgar ar blant o bob oed yn Wrecsam.

Gallwch ddysgu mwy am ddod yn ofalwr maeth, pa gymorth byddech chi’n ei dderbyn, a phwy all wneud cais trwy fynd i’n gwefan neu gysylltu â’n tîm am sgwrs anffurfiol.

📞 01978 295329
📧 [email protected]

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A waterfall in Wrexham

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch