gofalwyr maeth yn rhannu eu straeon, mewnwelediadau a’r eiliadau sy’n newid bywyd sy’n dod yn sgil maethu babanod
Yng Nghymru, mae tua 290 o fabanod angen gofal maeth bob blwyddyn. Mae’r ffigurau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn dangos, ar 31 o Fawrth 2024, fod 4% o’r holl blant a ofalwyd ganddynt yn llai nag 1 mlwyddd oed – ac mae llawer ohonynt yn dod i ofal yn fuan iawn ar ôl eu geni.
Mae’r ffigurau hyn yn tanlinellu’r angen parhaus am fwy o ofalwyr maeth sy’n gallu cynnig cartref diogel, cariadus i fabanod ar adeg mor dyngedfennol a bregus yn eu bywydau.
Yn y blog hwn, mae gofalwyr maeth o Maethu Cymru Wrecsam yn rhannu eu straeon go iawn, eu mewnwelediadau, a’r eiliadau sy’n newid bywyd o’r misoedd cyntaf hynny o fywyd. Maent yn sôn am helpu babanod mewn gofal maeth i deimlo’n ddiogel, ffurfio ymlyniadau cadarn, a dechrau ymddiried yn y bobl a’r byd o’u cwmpas.
Darllenwch ymlaen i glywed gan ein gofalwyr maeth Viv, Trish a Kevin wrth iddynt rannu sut beth yw bywyd bob dydd pan fyddwch yn maethu babi.
safbwynt newydd Viv: profiad o faethu babanod am y tro cyntaf

Mae Viv a’i gŵr, Jon, wedi bod yn maethu ers bron i 22 flynedd, gan gefnogi plant o bob oedran. Y plentyn ieuengaf yr oeddent erioed wedi gofalu amdano oedd pump oed.
Y llynedd, fe wnaethant groesawu baban newydd-anedig i’w cartref am y tro cyntaf erioed.
Bellach yn 53 oed, mae Viv wedi darganfod bod camu i fyd maethu babanod wedi cyflwyno profiadau, heriau a gwobrau newydd, gan gynnig persbectif newydd ar effaith gofal cynnar ac ymlyniad.
beth wnaeth eich arwain i ddechrau maethu babanod ar ôl cynifer o flynyddoedd o faethu plant hŷn?
Viv: Er bod babanod bob amser wedi bod angen gofal maeth, anaml y gofynnwyd i ni ofalu am fabanod, tan y llynedd.
Felly, pan ofynnwyd i ni ofalu am faban newydd-anedig, gwnaethom ni ddweud ie, er nad oedden ni erioed wedi maethu babanod o’r blaen. Roedden ni’n teimlo ei bod yn bwysig bod yn agored i brofiadau newydd ac ymateb i’r angen.
sut wnaeth maethu baban newydd-anedig newid eich bywyd bob dydd a’ch trefniadau gwaith?
Viv: Mae Jon bob amser wedi bod yn ofalwr maeth llawn amser, ac roeddwn i’n gweithio ar y pryd. Ond oherwydd mai dim ond ychydig ddyddiau oed oedd y babi pan gyrhaeddodd, rhoddais y gorau i’r gwaith i ofalu’n llawn amser am y babi.
Rwy’n falch iawn fy mod i wedi gwneud. Dim ond tri diwrnod oed oedd hi pan gyrhaeddodd, ac roedd y dyddiau cynnar hynny mor bwysig ar gyfer bondio a’i setlo hi.
Gyda phlant hŷn, mae’n bosibl jyglo gwaith a maethu, ond gyda baban newydd, mae angen i chi fod gartref bob awr o’r dydd.
pam mae angen gofal llawn amser ar fabanod mewn gofal maeth, yn enwedig yn yr wythnosau cynnar?
Viv: Mae babanod sy’n dod i ofal maeth yn aml wedi bod trwy lawer o drawma hyd yn oed cyn iddyn nhw gael eu geni, yn ystod beichiogrwydd. Oherwydd hyn, maen nhw’n gallu bod yn eithaf ansefydlog, yn cael trafferth cysgu, bwydo’n iawn a setlo i arferion. Am y rheswm hwn, mae angen eich sylw llawn amser arnyn nhw, yn enwedig yn yr wythnosau a’r misoedd cyntaf hynny.
pam mae maethu baban newydd-anedig yn wahanol i faethu plant hŷn?
Viv: Gyda maethu plant hŷn, yn aml mae ganddyn nhw eu ffiniau eu hunain, sy’n ei gwneud hi’n haws i ni fel gofalwyr maeth gynnal ein rhai ein hunain. Ac er bod angen i chi ffurfio ymlyniadau o hyd, mae’n wahanol.
Mae llawer o fabanod wedi bod trwy drawma cynnar, felly gallan nhw fod yn or-wyliadwrus, yn cael trafferth teimlo’n ddiogel ac yn arbennig o sensitif i newidiadau yn eu hamgylchedd. Mae’r misoedd cynnar hynny yn ymwneud â’u helpu i ddysgu ymddiried a theimlo’n ddiogel.
Ond wrth i amser fynd heibio, a gyda’r gofal cywir, rydych chi’n dechrau eu gweld yn setlo. Maen nhw’n dechrau cyrraedd cerrig milltir a dyna sy’n gwneud y cyfan yn werth chweil – ac yn llawn cymaint o gariad.
beth ydych chi wedi’i ddysgu o faethu babanod?
Viv: Rwy’n credu fy mod i wedi dysgu mwy ers i ni ddechrau maethu babanod na wnes i erioed o’r blaen mewn bron i 22 flynedd o faethu – a hyd yn oed mwy nag y dysgais yn magu fy nwy ferch fy hun. A dyw’r dysgu ddim yn stopio; rwy’n dal i ddarganfod mwy bob dydd.
Fyddech chi ddim yn meddwl y gallai babi ddysgu cymaint i chi! Rydw i wedi mwynhau pob munud – mae wedi bod yn bleser llwyr.
Mae’n bendant wedi fy nysgu i arafu. Os oes angen sylw neu gwsg bach yn ystod y dydd ar fabi yn fy mreichiau, byddaf yn rhoi’r gwaith tŷ o’r neilltu ac yn canolbwyntio ar eu hanghenion yn lle hynny. Weithiau, dyna’r unig ffordd byddan nhw’n cysgu, yn swatio i mewn i chi.
“rydw i wedi mwynhau pob munud – mae wedi bod yn bleser llwyr”
sut mae maethu babi wedi effeithio ar weddill y teulu?
Viv: Hefyd, mae gennym ni fachgen yn ei arddegau yn byw gyda ni, sydd wedi bod gyda ni er yn bum mlwydd oed. Er gwaethaf y bwlch oedran mawr, mae cael babi yn y tŷ wedi bod yn gadarnhaol iawn iddo. Mae’n nodweddiadol o bobl ifanc yn eu harddegau sy’n dwlu ar ei PlayStation, ond mae’n dal i gymryd amser i ryngweithio â hi. Mae’r babi yn goleuo pan fydd hi’n ei weld, yn ymateb i’w lais, ac mae’n ymateb iddi hi hefyd, ac mae wedi bod yn hyfryd gweld y cysylltiad yn tyfu rhwng y ddau.
pa hyfforddiant a chefnogaeth sydd wedi eich helpu chi i ofalu am fabanod yn benodol?
Viv: Mae gennym ganolfan hyfforddi ragorol yn Wrecsam, gyda chyfleoedd hyfforddi cryf iawn ar gael drwy’r amser. Gwnes i gwrs hyfforddiant therapiwtig 16 wythnos dwys, a oedd yn anhygoel, ac rydw i wedi gwneud rhywfaint o hyfforddiant ymlyniad hefyd.
Rydw i bob amser wedi teimlo bod gen i ddigon o gefnogaeth, mae yna bob amser rhywun ar ben arall y ffôn os oes angen cyngor, ac mae gennym ni lawer o wahanol grwpiau cymorth sy’n cwrdd yn rheolaidd am goffi a sgwrs gyda gofalwyr maeth lleol eraill.
sut beth yn emosiynol yw maethu babi, hyd yn oed am gyfnod byr?
Viv: Dwi i ddim yn siŵr sut byddaf i’n teimlo pan fydd hi’n symud ymlaen, ond dwi’n gwybod y byddaf i’n drist – byddaf yn crio, a byddaf i’n brifo. Rydych chi’n rhoi popeth i’r plant hyn, ac rydych chi’n ceisio cadw rheolaeth ar eich emosiynau, oherwydd dyna pam rydyn ni’n gwneud beth rydyn ni’n ei wneud fel gofalwyr maeth: mae’n ymwneud â’r hyn sydd orau iddyn nhw.
Gyda babanod yn arbennig, rydyn ni’n aml y cyfan maen nhw erioed wedi’i adnabod, sy’n ei gwneud hi’n anoddach. Ond ar yr un pryd, mae’n anhygoel gweld y gwahaniaeth y gallwch ei wneud yn yr amser byr maen nhw gyda ni – mae pob gwên, pob carreg filltir, pob eiliad o ymddiriedaeth a chysur yn eich atgoffa pam mae’r rôl hon mor bwysig.
sut brofiad oedd dychwelyd i ofalu am faban newydd-anedig ar ôl cymaint o flynyddoedd?
Viv: Rwy’n 53, a phan ofynnwyd i mi ofalu am fabi, gwnes i feddwl am y tro cyntaf, “Na, rwy’n 53 – dwi ddim yn gallu mynd yn ôl i nosweithiau aflonydd, digwsg!” Ond pan fyddwch chi’n gwneud hynny, ac yn mynd yn ôl i newid cewynnau a bwydo potel, mae’n dod mor naturiol.
Gyda’r gefnogaeth iawn o’ch cwmpas – teulu, a chefnogaeth tîm yr awdurdod lleol – mae’r cyfan yn dod at ei gilydd, ac mae’n dod yn ail natur.
Chi’n gwybod, os mai dyma’r ffordd mae tuedd i chi garu a gofalu, pan fyddan nhw drwy’r drws, mae’r holl bryderon hynny’n cael eu hanghofio. Rydych chi’n syrthio i mewn i’r peth ac yn ffeindio eich bod chi’n ei wneud yn reddfol.
pa gyngor byddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried maethu?
Viv: Siaradodd fy ngŵr a fi am faethu am flynyddoedd cyn gwneud unrhyw beth am y peth. Gwnewch yr ymholiad cyntaf yna gyda’ch awdurdod lleol – dydych chi byth yn gwybod, efallai y byddwch chi’n hoffi beth rydych chi’n ei glywed yn y sgwrs gyntaf honno, a gallai eich denu i mewn. Mae cymaint o blant yn ein cymunedau sydd eich angen chi.
ymroddedig i ofalu am fabanod – Trish a Kevin

Rydyn ni’n aml yn siarad am y ffaith nad yw oedran yn rhwystr i faethu. Dechreuodd y gofalwyr maeth Trish a Kevin, sydd bellach yn 67 a 73 oed, faethu babanod pan oedden nhw’n 59 a 65.
Maen nhw’n dod ag oes o brofiad, amynedd a sefydlogrwydd emosiynol, gan ddarparu’r cysondeb a’r cariad diamod sydd ei angen ar fabanod i deimlo’n ddiogel. Mae eu stori yn dangos nad yw byth yn rhy hwyr i wneud gwahaniaeth dwfn ym mywyd plentyn.
beth wnaeth eich ysgogi i agor eich cartref i blant ifanc yn 59 a 65 oed?
Trish: Roeddwn i wedi bod eisiau maethu ers bod yn fam ifanc, ond bryd hynny, roedd Kevin yn poeni y byddwn i’n rhy emosiynol, ac roedd yn aml yn gweithio i ffwrdd. Felly, yn lle hynny, dechreuais fusnes gwarchod plant a pharhau i weithio gyda phlant mewn gwahanol ffyrdd, o’r eglwys leol i fod yn fenyw cinio.
Un bore, dywedodd Kevin yn syml, “Rwy’n credu y dylen ni roi cynnig ar faethu”. Roedden ni’n gofalu am blant lleol yn barod, felly roedd yn teimlo fel cam nesaf naturiol. Roedd ein dau blentyn hŷn yn ein cefnogi’n llawn – er eu bod yn meddwl ein bod ni bach yn wallgof eisiau dechrau maethu yn 59 a 65 oed!
Kevin: Chi’n gwybod, mae maethu wedi fy nghadw i’n ifanc ac wedi cadw fy ymennydd yn ystwyth. Rydyn ni’n credu bod pobl yn eu 50au hwyr a’u 60au cynnar yn gyfoeth o dalent wrth sôn am faethu. Os gallwch chi eu cyrraedd a’u helpu i weld mai dyma’r peth iawn i’w wneud, mae ganddyn nhw gymaint i’w gynnig.
Trish: Ar ein hoedran ni, mae gennym ni lawer o brofiad bywyd a doethineb, sy’n help mawr. Rwy’n credu roedd Kevin yn iawn – pan oeddwn i’n iau, byddwn i wedi bod yn rhy emosiynol a byddwn i wedi cael trafferth mwy. Ond wrth i chi fynd yn hŷn, rydych chi’n ddoethach ac yn deall pethau’n well.
pam oeddech chi’n teimlo mai maethu babanod oedd y dewis iawn i chi?
Trish: Oherwydd ein bod ni’n rhedeg busnes gwarchod plant, roedd ein tŷ ni wedi’i sefydlu ar gyfer plant ifanc yn barod, ac roedd gen i ddealltwriaeth gref o’u hanghenion.
Gyda fy wyrion ifanc fy hun hefyd, roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi adfywio ac yn gyfoes yn fy meddwl a dyna pam roedden ni’n teimlo bod maethu babanod yn iawn i ni. Hefyd, roedden ni’n dau gartref yn llawn amser.
Kevin: Rwy’n credu bod y busnes gwarchod plant wedi ein rhoi ni mewn lle da cyn i ni ddechrau maethu, oherwydd roedden ni wedi arfer â gofalu am nifer o blant ifanc ar yr un pryd. Rhoddodd sylfaen gadarn i ni cyn dechrau. Wrth gwrs, nid yw’n hanfodol – gall unrhyw un faethu babanod gyda’r gofal a’r gefnogaeth gywir.
Rydyn ni wedi gofalu am lawer o fabanod ers i ni ddechrau maethu yn 2019, gydag arosiadau yn amrywio o ychydig ddyddiau i dros ddwy flynedd. Ar un adeg, roedd gennym ni dri babi yn y tŷ ar yr un pryd hyd yn oed – er mai dim ond am wythnos oedd hynny!
sut ydych chi’n ymdopi â ffarwelio pan fydd babi yn symud ymlaen?
Trish: Rwy’n hapus i fabanod a phlant pan fyddan nhw’n symud ymlaen i’w cartrefi am byth. Fel gofalwr maeth, eich rôl chi yw paratoi’r plentyn a’i deulu newydd (neu deulu biolegol) ar gyfer bywyd gyda’i gilydd, ac mae’n rhaid i chi dderbyn eich bod wedi cyflawni’r cyfrifoldeb hwnnw’n dda.
O’r diwrnod maen nhw’n cyrraedd, yn enwedig babanod newydd-anedig, rwy’n atgoffa fy hun ei fod dim ond am gyfnod byr, sy’n help mawr. Rydyn ni hefyd yn dechrau ffarwelio fis neu ddau cyn iddyn nhw adael, er mwyn i ni allu paratoi ein hunain.
Mae’n wahanol yn dibynnu ar oedran. Dyw babanod ifanc iawn ddim yn deall beth sy’n digwydd, ond mae plant hŷn yn deall, er nad ydyn nhw’n gallu ei brosesu’n llawn yn emosiynol eto.
sut ydych chi’n helpu babanod a phlant ifanc i ddechrau deall a pharatoi ar gyfer symud ymlaen?
Kevin: Mae yna lyfr hyfryd o’r enw The Blanket Bears*, sy’n wych (*mae’r stori yn dilyn taith fabwysiadu dwy arth fach sydd wedi’u hesgeuluso wrth iddyn nhw lywio gofal maeth i’w teulu am byth).
Wrth gwrs, mae cannoedd o lyfrau tebyg allan yna, ond The Blanket Bears yw ein ffefryn personol ni. Rydyn ni’n aml yn darllen y stori hon fel rhan o’n trefn amser gwely ac rydyn ni wedi ymestyn y syniad drwy gael ffigyrau Care Bear i gyd-fynd â hi.
sut ydych chi’n ymdrin â’r emosiynau o garu babi a fydd yn symud ymlaen yn y pen draw?
Trish: Mae pobl yn aml yn dweud na fydden nhw’n gallu maethu babanod oherwydd bydden nhw’n eu caru gormod. Ond dyna’r holl bwynt.
Mae’n rhaid i chi eu caru – yn llwyr ac yn ddiamod.
Mae’n rhaid i chi fod y person sy’n rhoi’r diogelwch a’r sicrwydd hynny iddyn nhw, sy’n eu helpu i ffurfio ymlyniad diogel. A gallwch chi ddim gwneud hynny heb syrthio mewn cariad â nhw.
Ydy, mae’n brifo pan fyddan nhw’n gadael – oherwydd bod cariad yn brifo – ond mae’n hollol werth chweil.
“mae’n rhaid i chi eu caru – yn llwyr ac yn ddiamod”
sut olwg sydd ar ddiwrnod nodweddiadol (a nos!) pan fyddwch chi’n maethu babanod?
Trish: Wel, mae’n dechrau’n gynnar. Mae Kevin fel arfer yn gwneud y bore cynnar iawn, yn aml gyda’r plant hŷn, ac rwy’n codi pan fydd y babi (neu’r babanod!) yn deffro. Rwy’n eu bwydo a’u newid cyn i ni i gyd ddod i lawr y grisiau. Rydw i hyd yn oed yn cael brecwast yn y gwely bob bore, diolch i Kevin!
Kevin: Yn ystod y dydd, mae’n canolbwyntio’n fawr ar amser chwarae, yn enwedig gan eu bod mor fach. Rydyn ni’n ceisio mynd allan am ychydig o awyr iach mor aml â phosibl. Mae ein pasys Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn anhygoel.
Trish: Mae Kevin yn gwneud yr holl goginio, ac o ran diddyfnu rydyn ni’n dilyn ychydig o lyfrau rydyn ni’n ymddiried ynddyn nhw, felly mae’n meddiannu’r gegin.
Mae tuedd i mi arwain y gofal plant o ddydd i ddydd. Mae Kevin yn ymarferol iawn; weithiau byddaf i’n dweud bod angen teganau mwy ysgogol ar y babi neu fwydydd gyda gweadau gwahanol, a bydd e’n mynd ati i sortio’r cyfan. Mae hefyd yn gofalu am y rhan fwyaf o’r logisteg, y gwaith papur, a mynychu cyfarfodydd.
Yn ystod y nos, byddaf i’n newid y cewynnau tra bod Kevin yn mynd i lawr y grisiau i wneud y botel (a phaned o de i fi!). Yna rwy’n bwydo’r babi a’i setlo yn ôl i gysgu (oherwydd bod syniad Kevin o symud o gwmpas y tŷ yn “dawel” yn y nos yn optimistaidd!).
Dyna ein trefn, ac mae’n gweithio’n berffaith i ni.
Kevin: Mae gofalu am fabanod yn barhaus, felly rydyn ni’n atebol iawn i’n gilydd. Rydyn ni wedi bod yn briod ers 45 mlynedd ac yn adnabod ein gilydd tu chwith allan – mae’n waith tîm. Rydyn ni’n gwybod ein rolau a’n cryfderau, ac rydyn ni’n dibynnu ar ein gilydd yn emosiynol.
pa fath o gymorth a hyfforddiant sydd ar gael i’ch helpu i ofalu am fabanod mewn gofal maeth?
Kevin: Mae’r awdurdod lleol yn gefnogol iawn, ac mae yna lawer o gyfleoedd dysgu ar gael i’ch paratoi ar gyfer popeth – mae angen i chi fod yn barod i’w cymryd.
Rydyn ni’n mwynhau defnyddio’r ganolfan hyfforddi yn Wrecsam; rydyn ni’n hoffi gallu dysgu yn ein hamser ein hunain, ar ein cyflymder ein hunain.
Ac mae ein gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol, ynghyd â’r tîm cyfan, wedi bod yn wych. Bob amser yno i ni a bob amser yn mynd y filltir ychwanegol i helpu.
Maen nhw’n bobl dda.
pam ydych chi’n meddwl bod mwy o fabanod yn dod i ofal nawr, ar sail eich profiadau o faethu babanod?
Kevin: I raddau helaeth, rwy’n credu ei fod oherwydd chwalu teuluoedd estynedig. Mae llawer o’r babanod rydyn ni wedi gofalu amdanyn nhw yn dod o deuluoedd nad oes ganddyn nhw unrhyw un i droi atyn nhw.
Heb rwydwaith cymorth teuluol ehangach o’u cwmpas, mae’n dod yn anhygoel o anodd – mae angen y math hwnnw o gefnogaeth ar bob un ohonom ni.
pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried maethu – babanod yn arbennig?
Trish: Nes eich bod wedi ei wneud, allwch chi ddim gwerthfawrogi pa mor anhygoel yw hi.
Rydych chi’n gofalu am fabi bach sydd fel sbwng, yn amsugno’r holl gariad a’r profiadau na fydden nhw efallai wedi’u cael o’r blaen.
Mae gennych gyfle i arfogi’r plentyn gyda sylfaen a fydd yn ei gefnogi am weddill ei oes. Un o’r agweddau mwyaf anhygoel yw’r ymlyniad rydych chi’n ei ffurfio.
Kevin: Dyw’r bond hwnnw, pan fydd wedi’i sefydlu, ddim yn dod i ben pan fydd y babi yn symud ymlaen; mae’n trosglwyddo.
P’un a yw’r plentyn yn mynd at rieni mabwysiadol neu’n dychwelyd i’w teulu biolegol, mae’r diogelwch a’r cariad maen nhw wedi’u profi gyda chi yn aros gyda nhw.
Doeddwn i ddim yn credu bod ymlyniad yn sgil trosglwyddadwy cyn i ni ddechrau maethu, ond mae ei weld yn digwydd yn uniongyrchol yn wirioneddol wych.
“mae cael y babanod hyn yn ein bywydau, hyd yn oed am ychydig ddyddiau, yn fraint llwyr”
Trish: Os yw yn eich calon, rhowch gynnig arni!

a allech chi gynnig dechrau diogel i fywyd babi lleol?
Os ydych yn byw yn Wrecsam, cysylltwch â Maethu Cymru Wrecsam a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu i benderfynu a yw maethu yn iawn i chi.
Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch tîm maethu awdurdod lleol.