“byddwn i wrth fy modd yn maethu, ond…”
Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n aml yn ei glywed yma yn Wrecsam pan rydyn ni allan yn y gymuned.
Mae’n hawdd diystyru eich hun cyn i chi ddarganfod beth mae maethu yn ei olygu mewn gwirionedd. Dyna pam y gwnaethom ymuno â’n cydweithwyr Maethu Cymru ledled Gogledd Cymru i rannu profiadau go iawn o faethu, gan gynnwys profiadau un o’n gofalwyr maeth ein hunain, Lisa.
gallwch faethu os oes gennych blant eich hun

Mae gan Lisa, o Wrecsam, efeilliaid ifanc ei hun yn barod ac roedd hi a’i phartner Kate eisiau ehangu eu teulu. Gan fod ganddynt gymaint o gariad i’w roi, penderfynon nhw mai maethu oedd y llwybr cywir i’w teulu. Dywedodd hi:
“Dyma’r peth mwyaf gwerthfawr, arbennig ac amhrisiadwy y gallwch ei wneud.”
🎥 Gwyliwch ei stori i glywed sut mae agor eu cartref i blant sydd angen gofal wedi dod â â llawenydd i’w teulu, a pham mae cael y gefnogaeth gywir wedi bod yn allweddol i’w taith faethu.
gallwch faethu yn ddiweddarach mewn bywyd

Mae Brian, gofalwr maeth awdurdod lleol o Ynys Môn, yn maethu gyda’i wraig, Hilary. Gyda’i gilydd, maent yn angerddol am gefnogi plant a gweithio’n agos gyda theuluoedd i’w helpu i’w cadw gyda’i gilydd lle bynnag y bo modd. Dywedodd:
“Hyd yn oed ar ôl ymddeol, rydyn ni’n cael cymaint o fwynhad allan o faethu.”
🎥 Gwyliwch stori Brian i glywed sut mae maethu wedi cyfoethogi ei ymddeoliad a pham nad yw hi byth yn rhy hwyr i wneud gwahaniaeth.
gallwch faethu os ydych yn berson prysur

Mae’r digrifwr o Ynys Môn, Kiri Pritchard McLean, hefyd yn maethu gyda’i hawdurdod lleol, gan ddangos sut mae hi’n cydbwyso maethu â gyrfa brysur, yn diddanu’r cyhoedd yn y diwydiant adloniant. Dywedodd:
“Un o’r pethau anhygoel am ddod i faethu yw sylweddoli pa mor eang ydyw o ran ffordd o fyw ac argaeledd.”
🎥 Gwyliwch stori Kiri i glywed sut mae hi’n gwneud i faethu weithio o amgylch ei ffordd o fyw.
gallwch ddechrau maethu yn ifanc

Mae Hannah a Betty o Gonwy yn rhannu eu profiad o faethu gyda’i gilydd, o’u hangerdd i wneud iddo weithio o amgylch eu ffordd o fyw, gyda chefnogaeth eu hawdurdod lleol. Dim ond 21 oed oedd Betty pan ddechreuodd faethu. Dywedodd Hannah:
“Mae wedi bod mor werth chweil, ac mae maethu gyda Betty wedi bod yn anhygoel”
🎥 Gwyliwch eu stori i glywed sut y daethant i faethu gyda’i gilydd a sut mae cefnogaeth wedi eu helpu i ymgorffori maethu yn rhan o’u bywydau.
beth sy’n eich dal yn ôl?

Ar ôl clywed y straeon hyn, efallai y byddwch chi’n meddwl tybed a allai maethu fod yn iawn i chi.
🎥 Yn y fideo byr yma, mae gofalwyr maeth yn rhannu pam y gwnaethon nhw ddewis mynd amdani – a beth fydden nhw’n ei ddweud wrth unrhyw un sy’n meddwl am gymryd y cam hwnnw.
mae’r cyfan yn dechrau gyda sgwrs gyfeillgar

Os yw’r straeon hyn wedi gwneud i chi feddwl yn wahanol am faethu, beth am gymryd y cam nesaf?
P’un a oes gennych lawer o gwestiynau neu eich bod yn chwilfrydig yn unig, mae Alex a Taylor, o dîm recriwtio ymroddedig Maethu Cymru Wrecsam, yma i wrando, cynnig cyngor a’ch helpu i archwilio a allai maethu fod yn addas i chi.
Os hoffech wybod mwy, rydyn ni yma pan fyddwch chi’n barod.
Os ydych chi’n byw unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am ragor o wybodaeth ac i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.