blog

dyma yw maethu medrus: stori un cwpl

Dechreuon nhw faethu gyda blynyddoedd o brofiad rhyngddyn nhw, a chred gan y ddau bod rhai plant angen rhywun na fydd yn rhoi’r gorau iddi. Dyma sut olwg sydd ar Faethu Medrus.

dau berson, un reddf ar y cyd

Maen nhw’n gwpl yn eu pedwardegau cynnar, a rhyngddyn nhw, maen nhw wedi gweld llawer. Treuliodd un ohonyn nhw flynyddoedd fel gweithiwr cymorth preswyl; mae’r llall yn athro ysgol uwchradd. Rolau gwahanol, ond yr un gwirionedd yn ailadrodd ei hun – mae rhai plant angen cysondeb, amynedd, a rhywun sy’n aros.

Dechreuon nhw faethu rhai blynyddoedd yn ôl, gan gymryd lleoliadau mwy cyffredinol ac adeiladu eu profiad yn gyson. Dros amser, tyfodd eu hyder a chawson nhw eu denu at rywbeth mwy heriol: cefnogi pobl ifanc ag anghenion cymhleth, yn enwedig y rhai sy’n symud ymlaen o ofal preswyl. Dyna pryd y gwnaethon nhw’r penderfyniad i ddod yn Ofalwyr Maeth Medrus.

beth yw maethu medrus mewn gwirionedd

“I ni, mae Maethu Medrus yn ymwneud â bod yn bont, ond hefyd yn sylfaen hirdymor,” maen nhw’n esbonio. Mae’r bobl ifanc sy’n dod atyn nhw yn gadael gofal preswyl, ond dydyn nhw ddim yn symud yn sydyn. Mae popeth wedi’i gynllunio a’i adeiladu o amgylch y plentyn: eu hanghenion, eu cyflymder, a dod o hyd i’r cartref iawn.

Dydy hyn ddim yn ymwneud ag atebion cyflym. Mae’n ymwneud â chreu’r amodau cywir i rywbeth mwy sefydlog dyfu.

Nid yw pob achos o faethu yn dechrau mewn argyfwng, ac anaml y mae Maethu Medrus yn dechrau felly. Cyn i berson ifanc symud i mewn, mae pontio strwythuredig, fel arfer tua 12 wythnos, lle mae ymweliadau yn adeiladu’n raddol. Arosiadau byr yn gyntaf, yna rhai hirach, gan gyflwyno’n araf sut olwg sydd ar fywyd bob dydd yn eu cartref. “Erbyn iddo symud i mewn gyda ni, doedden ni ddim yn hollol newydd i’n gilydd. Ac roedd hynny wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.”

“Doedden ni ddim yn disgwyl gormod yn rhy gyflym. Mi wnaethon ni ganolbwyntio ar ei helpu i deimlo’n ddiogel, a gwneud yn siŵr ei fod o’n gwybod beth i’w ddisgwyl o ddydd i ddydd.”

y dyddiau cynnar

Daeth y person ifanc maen nhw’n gofalu amdano atyn nhw yn 12 oed, gan gamu i lawr o ofal preswyl. Ar y pryd, doedd o ddim yn yr ysgol, roedd ei drefn arferol yn edrych yn wahanol iawn, ac roedd byw mewn cartref teuluol yn teimlo’n anghyfarwydd, hyd yn oed ar ôl y cyfnod pontio.

Doedd yr wythnosau cyntaf hynny ddim yn ymwneud â chael popeth yn ei le ar unwaith. Roedden nhw’n ymwneud â’r pethau sylfaenol, prydau gyda’i gilydd, nosweithiau gartref, dysgu rhythmau ei gilydd. Doedd yna ddim brys i fynd i’r afael â’r ysgol nac unrhyw beth y tu hwnt i’w helpu i deimlo’n sefydlog ac yn ddiogel. Mae symud o gartref preswyl i gartref teuluol yn addasiad sylweddol, ac roedden nhw’n gwybod y byddai gwthio gormod yn rhy fuan yn gwneud pethau’n anoddach.

“Cysondeb yw’r hyn sy’n gwneud y gwahaniaeth,” medden nhw. “Yn enwedig ar yr adegau anodd.”

dydych chi ddim yn ei wneud ar eich pen eich hun

Un o nodweddion diffiniol Maethu Medrus yw’r tîm sydd wedi’i adeiladu o’ch cwmpas chi a’r plentyn. Mae gofalwyr seibiant, gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol, gweithiwr cymdeithasol therapiwtig, staff ysgol, a gweithwyr cymorth teuluol i gyd yn chwarae rhan, yn rhannu gwybodaeth, yn cynllunio gyda’i gilydd, ac yn darparu cymorth parhaus sydd ddim yn lleihau ar ôl yr wythnosau cyntaf.

Mae seibiannau wedi’u cynllunio hefyd, sy’n bwysig o ystyried lefel y gofal dan sylw. “Does dim disgwyl i chi ymdopi â phethau ar eich pen eich hun,” medden nhw. “Mae’r tîm hwnnw o amgylch y plentyn yn hanfodol, dyna sy’n gwneud y math yma o faethu yn bosibl.”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cymorth a’r lwfansau sydd ar gael i Ofalwyr Maeth Medrus ar ein gwefan.

sut olwg sydd ar gynnydd mewn gwirionedd

Maen nhw’n glir, dydy cynnydd mawr ddim yn dod ar unwaith. Ar ôl iddo setlo mewn i fywyd y cartref, y cam nesaf oedd yr ysgol, dod o hyd i’r un iawn, ei gofrestru, ac yna ei gefnogi trwy’r holl addasiadau sy’n dod gyda hynny. Roedd y broses honno’n raddol hefyd, ac ni ddigwyddodd heb y tîm maethu ochr yn ochr â nhw drwy’r amser.

Nawr mae’n mynychu, yn ymgysylltu ac yn meithrin perthnasoedd, carreg filltir a fyddai wedi teimlo’n bell yn yr wythnosau cynnar hynny. Cymerodd y daith honno amser, amynedd, ac ymdrech barhaus gan bawb o’i gwmpas.

Ond mae’r adegau bach yr un mor bwysig. Sgwrs na fyddai wedi digwydd o’r blaen. Eistedd gyda’n gilydd ac ymlacio. Ei weld yn dechrau ymddiried ynddon ni.

“Dydy helpu plentyn i symud ymlaen o ofal preswyl ddim yn ymwneud â chael popeth yn berffaith,” medden nhw. “Mae’n ymwneud â’i helpu i deimlo’n sefydlog, yn ddiogel, ac yn gallu symud ymlaen.”

Roedd eu profiad eu hunain wedi eu helpu i gyrraedd yno. Roedd blynyddoedd o faethu eisoes wedi dysgu iddyn nhw pa mor bwysig oedd trefn, ffiniau, a pheidio â chymryd ymddygiad anodd yn bersonol. “Rydyn ni wedi dysgu edrych y tu hwnt i’r ymddygiad a deall beth sy’n ei achosi, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr.”

“Dydy pethau ddim yn hawdd bob amser. Ond mae’n anhygoel o arwyddocaol. A dydych chi byth yn ei wneud ar eich pen eich hun.”

beth sy’n dod nesaf

Mae Maethu Medrus yn ymwneud â chreu’r amodau cywir ar gyfer beth bynnag sy’n dod nesaf. I rai pobl ifanc, sefydlogrwydd hirdymor yw hynny. I eraill, gallai fod yn annibyniaeth neu ailgysylltu â theulu. Beth bynnag yw’r cyrchfan, mae’r nod yr un peth, sefydlogrwydd, gofal, a’r cyfle i brofi bywyd teuluol mewn ffordd arwyddocaol.

allai hyn fod yn iawn i chi?

Mae eu neges i unrhyw un sy’n ei ystyried yn onest. Does dim angen i chi gael yr holl atebion, ond mae rhywfaint o brofiad yn helpu. Mae Maethu Medrus yn adeiladu ar sgiliau rydych chi eisoes wedi’u datblygu, ac er ei fod yn gam i fyny, does dim rhaid i chi fod yn ofalwr maeth eisoes. Efallai y bydd gan bobl sydd wedi gweithio gyda phlant neu bobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd wedi profi trawma neu sydd ag anghenion ychwanegol, yn union yr hyn sydd ei angen.

Yr hyn sydd fwyaf pwysig yw amynedd, gwydnwch, a’r gallu i gadw’ch pen pan fydd pethau’n teimlo’n anodd. Y gallu i weithio fel aelod o dîm. A’r parodrwydd i ddal ati, hyd yn oed pan fydd cynnydd yn teimlo’n araf.

Os yw hyn yn swnio’n addas i chi, dysgwch fwy am Faethu Medrus yn Wrecsam, archwiliwch pwy all faethu, neu ddarllen rhagor o straeon gan ein gofalwyr maeth.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A waterfall in Wrexham

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch