blog

sut beth yw bod yn ddarparwr llety â chymorth

Yn Maethu Cymru Wrecsam, mae ein darparwyr llety â chymorth yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl ifanc i gymryd eu camau cyntaf tuag at annibyniaeth. Mae’r lletywyr hyn yn agor eu cartrefi, gan gynnig nid yn unig ystafell, ond arweiniad, anogaeth a sefydlogrwydd yn ystod cyfnod tyngedfennol ym mywyd person ifanc.

Yn y blog hwn, mae un o’n darparwyr llety â chymorth yn rhannu ei brofiad personol o groesawu pobl ifanc i’w gartref. O gefnogaeth bob dydd i ddathlu cerrig milltir, mae’n myfyrio ar sut beth yw bod yn lletywr mewn gwirionedd, y buddion a’r heriau, a’r gwahaniaeth y gall ei wneud i’r bobl ifanc ac i’r lletywr ei hun. 

Ers blynyddoedd lawer, dw i wedi gweithio fel athro a darlithydd. Yn fy amser hamdden, dw i hefyd yn tiwtora plant ac yn gweithredu fel cynghorydd busnes i fyfyrwyr coleg sy’n dechrau eu busnesau bach eu hunain.

Tua 15 mlynedd yn ôl, clywais fod angen rhieni ar ein cyngor lleol ar gyfer cynllun “llety â chymorth”. Mae’r rhaglen hon yn darparu ystafell mewn cartref teuluol i blant hŷn sy’n gadael y system ofal. Fe welais i hwn fel cyfle gwych a dw i wedi bod yn ddarparwr llety â chymorth ers hynny.

Dros y blynyddoedd, dw i wedi darparu cartref i amrywiaeth eang o bobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys unigolion o lawer o wahanol gefndiroedd: rhai o Loegr, o Gymru, myfyrwyr rhyngwladol, a cheiswyr lloches. Mae gen i brofiad o gefnogi dynion ifanc, menywod ifanc, a phobl ifanc LHDTC+. Dw i hefyd wedi gofalu am ddyn ifanc a’i gariad beichiog gartref, ac wedi’u helpu fel darparwr llety â chymorth.

Roedd gen i ystafell sbâr yn fy nhŷ, ac mae gen i flynyddoedd o brofiad fel athro/cwnselydd bugeiliol/rhiant. Teimlais y gallwn i ddefnyddio fy sgiliau i helpu eraill. Darllenais am y rhaglen a meddyliais am ba mor anodd y gall diwedd yr arddegau fod, hyd yn oed i bobl ifanc gyda theuluoedd cefnogol.

Roedd y syniad o gynnig cartref sefydlog a gofalgar i berson ifanc ar adeg mor bwysig yn eu bywyd yn teimlo fel peth ymarferol a phwysig iawn i’w wneud. Roedd yn gyfle i helpu rhywun yn fy nghymuned i gymryd eu camau cyntaf tuag at annibyniaeth.

Mae pob diwrnod yn wahanol gan fod pob person ifanc yn wahanol. Rhan bwysicaf fy rôl yw bod yn oedolyn cyson a dibynadwy yn eu bywyd.

Gallai diwrnod ddechrau gyda “bore da” syml i wneud yn siŵr eu bod ar ddi-hun ar gyfer y coleg neu’r gwaith. Mae rhai dyddiau’n ymarferol, fel eu dysgu nhw sut i ddefnyddio’r peiriant golchi neu eu helpu nhw i greu cyllideb wythnosol. Mae dyddiau eraill yn ymwneud â chefnogaeth emosiynol. Efallai y bydda i’n eistedd i lawr gyda phaned o de a gwrando os ydyn nhw wedi cael diwrnod caled, gan gynnig lle diogel i siarad heb farnu.

Nid gwneud pethau drostyn nhw yw’r nod, ond eu harwain a gwneud pethau gyda nhw, fel eu bod yn dysgu sut i’w wneud eu hunain.

Mae’r gefnogaeth dw i’n ei rhoi yn ymwneud â thri phrif faes:

  • Cymorth Ymarferol: Dysgu sgiliau bywyd go iawn yw hyn. Er enghraifft, sut i gynllunio a choginio prydau iach, golchi dillad, deall biliau cartref, a chyllidebu eu harian. Dw i hefyd yn eu helpu i wneud apwyntiadau gyda’r meddyg neu’r deintydd.
  • Cymorth Emosiynol: Dyma’r rhan bwysicaf yn aml. Mae llawer o’r bobl ifanc hyn angen cartref diogel a thawel lle maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Dw i’n dathlu eu llwyddiannau, dim ots pa mor fach, ac yn eu hannog pan fyddant yn wynebu problemau. Mae’n golygu bod yn berson sy’n gofyn “Sut oedd dy ddiwrnod?” ac sydd wir yn gwrando ar yr ateb.
  • Cymorth ar gyfer y dyfodol: Dw i’n paratoi pobl ifanc ar gyfer y dyfodol trwy feithrin eu sgiliau a’u hyder. Dw i’n darparu cymorth ymarferol, fel eu helpu i agor cyfrif banc neu ymarfer ar gyfer cyfweliadau, ac yn cynnig cyngor personol ar faterion teuluol neu ariannol. Fel athro, dw i hefyd yn defnyddio fy mhrofiad proffesiynol i’w helpu gyda’u CVs ac i roi tiwtora am ddim iddynt ar gyfer TGAU Saesneg a Mathemateg. Fy nod yw sicrhau eu bod yn barod i fyw’n llwyddiannus ar eu pen eu hunain.

Dw i’n credu bod angen ambell i rinwedd pwysig ar letywr da:

  • Amynedd: Rhaid i chi gofio eu bod yn dysgu ac fe fyddant yn gwneud camgymeriadau.
  • Bod yn anfeirniadol: Mae angen i chi eu derbyn nhw a deall bod eu bywyd wedi bod yn wahanol iawn i’ch bywyd chi.
  • Gwrando’n astud.
  • Mae synnwyr digrifwch da o gymorth mawr!
  • Ffiniau clir: Mae’n bwysig cael rheolau clir a theg. Mae angen strwythur ar bobl ifanc a gwybod beth sy’n cael ei ddisgwyl ganddynt, yn union fel mewn unrhyw gartref teuluol.

Y rhan fwyaf gwerth chweil yw gweld person ifanc yn tyfu mewn hyder. Y momentau bach yw hi yn aml. Er enghraifft, pan fyddan nhw’n coginio pryd iddyn nhw eu hunain am y tro cyntaf, neu pan fyddan nhw’n cael eu cyflog cyntaf mewn swydd y gwnaethoch chi eu helpu i ddod o hyd iddi. Y teimlad gorau yw eu gweld yn dechrau credu ynddyn nhw eu hunain. Cael neges destun gan berson ifanc, misoedd neu flynyddoedd ar ôl iddyn nhw symud allan, yn dweud eu bod yn gwneud yn dda ac yn dechrau teulu, yw’r wobr orau oll.

Oes, wrth gwrs. Dyw hi ddim bob amser yn rhwydd. Yr her fwyaf yw magu ymddiriedaeth. Mae llawer o’r bobl ifanc hyn wedi cael eu siomi gan oedolion o’r blaen, felly efallai y byddan nhw’n eich profi i weld a fyddwch chi’n troi eich cefn arnyn nhw.

Dw i’n goresgyn hyn gydag amynedd, gonestrwydd a chysondeb. Dw i’n dangos iddyn nhw fod fy nghefnogaeth bob amser yno, hyd yn oed pan fydd rhaid i mi gywiro eu hymddygiad. Mae cefnogaeth y cyngor hefyd yn bwysig iawn. Mae ein gweithiwr cymdeithasol yn rhoi cyngor gwych i ni. Cyfathrebu da gyda’r person ifanc a’r gweithiwr cymdeithasol yw’r allwedd i ddatrys problemau.

Dw i’n cofio dyn ifanc a oedd yn swil iawn pan symudodd i mewn am y tro cyntaf. Arhosodd yn ei ystafell a doedd o ddim yn siarad llawer. Doedden ni byth yn ei wthio; ond roedden ni bob amser yn ei wahodd i fwyta swper gyda ni.

Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, dyma fi’n digwydd ei weld mewn siop leol. Roedd o mor hapus i’m gweld a dywedodd ei fod bellach yn dad ac roedd ganddo swydd dda. Roedd ei weld yn hapus ac yn llwyddiannus, yn byw ei fywyd ei hun, yn foment hyfryd.

Mae wedi fy ngwneud yn berson mwy amyneddgar a chydymdeimladol. Mae wedi dangos i mi’r anawsterau y mae rhai pobl ifanc yn eu hwynebu yn ein cymuned ein hunain fel problemau iechyd meddwl, addysg, cyflogaeth ac ati. Mae wedi fy nysgu i ddathlu llwyddiannau bach ac i wrando’n well.

Byddwn i’n dweud wrthynt i fynd amdani. Os oes gennych ystafell sbâr a chalon garedig, gallai fod yn un o’r pethau gorau i chi ei wneud erioed. Does dim angen i chi fod â’r atebion i gyd oherwydd byddwch yn cael hyfforddiant a chefnogaeth lawn.

Gall fod ychydig yn fwy o waith, ond mae’r gwobrau’n enfawr. Dydych chi ddim yn cynnig ystafell yn unig; rydych chi’n cynnig cyfle i berson ifanc gael dyfodol gwell. Mae’n gyfle i newid bywyd, ac mae’n debygol o newid eich bywyd chi er gwell, hefyd.

Rydyn ni mor ddiolchgar i’r darparwr llety â chymorth hwn am rannu ei stori heb flewyn ar dafod. Mae ei brofiad yn dangos y gwahaniaeth anhygoel y gall cartref diogel a chefnogol ei wneud i berson ifanc sy’n paratoi ar gyfer annibyniaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darparu llety â chymorth, cysylltwch â ni i ofyn am becyn gwybodaeth neu i siarad yn uniongyrchol â’n Cydlynydd Llety â Chymorth. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen llety â chymorth: Llety â Chymorth yn Wrecsam.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A waterfall in Wrexham

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.