Mae’n Wythnos Plant Gofalwyr Maeth yr wythnos hon, amser i daflu goleuni ar y plant anhygoel sy’n rhannu eu cartrefi, eu calonnau a’u teuluoedd gyda’r plant rydyn ni’n gofalu amdanynt. Maen nhw’n chwarae rôl bwerus wrth helpu pobl ifanc i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu derbyn a’u caru. I ddathlu, rydyn ni’n rhannu stori un o’n gofalwyr maeth anhygoel, Millie, a siaradodd yn agored â ni am sut olwg sydd ar faethu yn ei chartref hi, a sut mae ei phlant wrth wraidd hynny.
“rydyn ni’n deulu mawr prysur. ar hyn o bryd, mae gennym blant ifanc iawn.”
“Mae fy mhlant fy hun yn wych am helpu ar adegau prysurach, gan ddeall bod angen bodloni anghenion y plant ifanc a’r babanod ar unwaith. Felly maen nhw’n helpu i osod y bwrdd, rhoi’r teganau i gadw, rhoi’r sbwriel allan, mynd â’r llestri i’r sinc. Pan fydd y babanod yn cael bath a’u gwisgo’n barod i’r gwely, byddan nhw’n eistedd ac yn darllen straeon, neu’n gwylio’r awr amser gwely gyda nhw, tra bydda i wedyn yn rhydd i wneud poteli ac ati.”
“Unwaith, daeth un bach atom heb ddim. Roedd yn ansicr iawn ac yn ofnus. Rhoddodd fy mab ei hoff dedi iddo fynd i’r gwely, i anwesu. Roedd yn hyfryd iawn i weld. Gadawodd y bachgen bach i fynd at ei deulu am byth, gan fynd â’r tedi gydag o. Cymerodd fy mab gysur yn y ffaith bod y bachgen bach angen y tedi’n fwy nag o.”
“Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd wrth groesawu plant. Mae fy mhlant naill ai’n fy rhyddhau i i setlo nhw, neu’n mynd i nôl teganau a thedis i chwarae gyda nhw. Yn dibynnu ar oedran y plant, fy mhlant i fu’r rhai i ddangos y tŷ iddyn nhw, lle mae popeth, pwy sy’n cysgu ble, ac ati. Maen nhw’n siarad am ddisgwyliadau (nid rheolau).”
“Rydyn ni fel teulu wrth ein bodd yn yr awyr agored, bod yn rhydd ac allan yn yr awyr iach. Rydyn ni wrth ein bodd yn mynd i’r traeth a chael penwythnos yn y carafan. Rydyn ni’n chwarae gemau bwrdd, a chardiau, llai o ddibyniaeth ar gyfrifiaduron a’r teledu. Rydyn ni’n eistedd o amgylch y bwrdd ac yn sgwrsio am ein diwrnod, ein swyddi delfrydol neu ein ceir delfrydol, beth hoffem ei wneud pan fyddwn ni’n hŷn. Rydyn ni’n siarad yn gadarnhaol am y dyfodol.”
“Mae maethu i ni yn ymwneud â rhoi yn ôl – cynnig ‘bywyd normal’, neu’r hyn rydyn ni’n ei ystyried yn normal, i berson ifanc nad yw efallai wedi cael profiad o hynny o’r blaen. Uno fel tîm, a bod yn ddibynadwy, yn agored ac yn onest.”
“Dechreuais faethu fel nad oedd fy hynaf yn unig blentyn. Roeddwn i eisiau iddo gael brodyr a chwiorydd, a theulu. Roeddwn i wastad eisiau teulu mawr, a dyna’n union sydd gennym ni i gyd. Dyw ein tŷ ddim yn berffaith, ond rydyn ni’n gofalu am y plant dan ein gofal ac yn gwneud ein gorau glas drostynt. Fyddwn i ddim yn ei newid am y byd.”
“Rydyn ni’n derbyn y sylwadau mwyaf calonogol a chefnogol am ein plant gan gymdogion a’r gymuned. Dw i’n meddwl taw maethu yw’r rheswm am hynny. Mae fy mhlant yn gwerthfawrogi pa mor lwcus ydyn nhw, a bod rhai ddim mor ffodus. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu natur ofalgar a chydymdeimladol.”
O bob un ohonom yn Maethu Cymru Wrecsam, diolch i bob un plentyn sy’n chwarae rhan mewn maethu. Mae eich caredigrwydd a’ch cefnogaeth yn newid bywydau bob dydd.