Ein taith i faethu
Fy enw i yw Alex a dwi’n ofalwr maeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gyda fy ngwraig Carla. Roedd maethu bob amser yng nghefn ein meddyliau, rhywbeth i’w ystyried pan oedden ni ychydig yn hŷn, gan fod gofalwyr maeth ystrydebol yn ein llygaid ni ac i lawer o bobl eraill yn bobl hŷn, a’u plant eu hunain wedi tyfu i fyny ac wedi gadael y cartref. Fel cwpl ifanc, doedden ni ddim yn meddwl y byddai’n addas i ni ar hyn o bryd, ond ar ôl gwneud ychydig o ymchwil, fe wnaethon ni fwrw i’r dwfn a phenderfynu holi’r awdurdod lleol am faethu er mwyn casglu rhagor o wybodaeth. Dysgon ni fod maethu yn cwmpasu ystod eang o brofiadau gofal, gan gynnwys gofal byrdymor, brys, seibiant a hirdymor. Fe wnaeth deall ychydig yn fwy ein galluogi i wneud penderfyniad gwybodus, ac yna aethom ati i gwblhau ein hyfforddiant sgiliau maethu dros yr 8 mis nesaf.
Dechrau ar ein taith maethu
Rydyn ni wedi bod yn maethu nawr ers mis Hydref 2024, ac wedi gofalu am ddwy chwaer ers mis Chwefror 2024. I ddechrau, cawsom ein cymeradwyo ar gyfer gofal byrdymor a seibiant, ond, yn debyg i unrhyw swydd, hyblygrwydd sy’n bwysig. Cawsom alwad ffôn am ddwy chwaer a oedd angen cartref gofalgar hirdymor, ac ar ôl cwrdd â nhw roedd yn amlwg y byddent yn ffitio’n berffaith i mewn i’n teulu.
Dod yn deulu
Mae ein merched wedi byw gyda ni ers 15 mis bellach, ac wedi dod yn rhan annatod o’n huned deuluol. Rydyn ni’n gwneud popeth fel teulu, boed hynny’n ddiwrnodau allan, gwyliau neu benwythnosau diog gartref. Rydyn ni’n eu trin fel pe baent yn blant i ni ein hunain ac mae hyn wedi bod yn ffactor mawr wrth alluogi’r merched i ymgartrefu gyda ni. Mae’r merched wedi bod ar eu gwyliau cyntaf dramor, gan gynnwys mynd ar awyren am y tro cyntaf. Rydyn ni hefyd wedi bod ar sawl gwyliau byr arall i Blackpool, Llandudno a Great Yarmouth. Eleni, rydyn ni i gyd yn mynd i Iwerddon ar gyfer priodas deuluol ac mae’r merched yn edrych ymlaen yn fawr at fynd ar fferi am y tro cyntaf (ond minnau, ddim cymaint, gan fy mod i’n mynd yn sâl iawn ar y môr). Weithiau rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n sbwylio’r merched ond rydyn ni’n rhoi profiadau iddyn nhw y byddan nhw’n eu cofio am oes.
Ein profiad maethu hyd yn hyn
Rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i fod wedi roi gofal seibiant i fachgen bach 5 mis oed yn ystod ein hamser yn maethu hefyd, ac roedd y merched wrth eu bodd am hynny. Pan gawsom yr alwad i fynd ag o, fe wnaethon ni’n siŵr ein bod yn gwrando ar feddyliau’r merched, gan y gallai gael effaith ar eu hanghenion nhw. Fe wnaeth y ddwy ohonyn nhw ein synnu gyda’u natur ofalgar a’u caredigrwydd, ac roedd y ddwy yn hynod gefnogol a chymwynasgar. Er mai dim ond am 10 diwrnod yr arhosodd gyda ni, roedd y merched yn benderfynol, pe bai angen gofal ar fabi arall, y byddai’n rhaid i ni ofalu amdano. Adegau fel hyn rydych chi’n sylweddoli pa mor sefydlog a diogel maen nhw’n ei deimlo yn ein huned deuluol.
Meithrin perthnasoedd â gofalwyr eraill
Fel rhan o fod yn ofalwr maeth i awdurdod lleol Wrecsam, mae gennym grŵp cymorth i ofalwyr ei fynychu unwaith y mis. Er nad ydw i bob amser yn gallu mynychu oherwydd ymrwymiadau gwaith, mae’n ffordd o gyfathrebu â gofalwyr eraill, gan gynnig cefnogaeth, arweiniad ac adborth pan fo angen. Gallai hyn gynnwys gofyn am gyngor ar gyfer sefyllfa benodol a allai fod wedi codi, neu gynnig cymorth i ofalwyr newydd a allai fod angen cymorth.
Yn ddiweddar, bues i’n ffodus i fynychu cynhadledd lles y Rhwydwaith Maethu yng Ngogledd Cymru, a oedd yn gyfle gwych i ddathlu’r gwaith llwyddiannus y mae gofalwyr maeth yn ei wneud er lles plant a phobl ifanc. Fe wnaeth y profiad hwn fy ngalluogi i gysylltu â gofalwyr maeth eraill ar draws y rhanbarth, yn enwedig y rheiny â nifer o flynyddoedd o brofiad. Mae gallu sgwrsio am wahanol brofiadau yn rhoi cyfle i chi ddysgu cymaint, a hefyd yn rhoi cyfle i mi allu rhannu fy arbenigedd fy hun trwy fy mhrofiadau yn ystod fy ngyrfa fer fel gofalwr maeth. Mae cyfathrebu â gofalwyr maeth eraill yn agwedd hanfodol ar fod yn fodel rôl llwyddiannus a chadarnhaol, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn parhau i’w wneud trwy gydol fy ngyrfa fel gofalwr maeth.
Sut mae teulu wedi gwneud y gwahaniaeth
Mae’r merched wedi ffynnu ar gael perthynas gadarnhaol gydag aelodau o’n teulu estynedig, gan gynnwys fy mam a dad, mam Carla, yn ogystal â chwaer Carla a’i gŵr. Nid yw’r merched wedi cael profiadau cadarnhaol gydag aelodau ehangach o’u teulu o’r blaen, felly mae wedi bod yn hanfodol iddyn nhw, fel rhan o’n teulu ni, ddatblygu perthnasoedd cryf gyda nhw. Mae’r merched wrth eu bodd yn mynd at fy mam a dad am ddiwrnodau allan a byddant bob amser yn gofyn am gael aros dros nos. Maen nhw bob amser yn dweud eu bod yn cael eu trin fel wyresau, ac yn cael eu sbwylio pan maen nhw’n mynd i ymweld. Mae chwaer Carla a’i gŵr hefyd yn gwahodd y merched draw am de ac i aros dros nos, ac i’r merched, maen nhw’n eu gweld nhw fel eu modryb a’u hewythr. Mae wedi bod yn anhygoel gweld y merched yn datblygu perthnasoedd cryf a chadarnhaol iawn gyda’n teulu estynedig, sydd wedi cynyddu eu dealltwriaeth o sut beth yw bod yn rhan o uned deuluol.
Cefnogaeth gan ein gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol
Mae’r berthynas rhwng y gofalwr maeth a’r gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol yn ffactor pwysig iawn yn y gofal sy’n cael ei ddarparu i blant yn y system gofal. Mae ein gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol wedi bod yn wych ac mae hi wedi rhoi llawer iawn o gefnogaeth ac arweiniad i ni. Er nad oes angen help arnom drwy’r amser, bob tro mae angen unrhyw beth arnom, mae hi wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennym neu i gynnig cefnogaeth ac arweiniad. Er mai ein cyswllt i rwydwaith cefnogol yw hi, mae ganddi berthynas wych gyda’r merched hefyd. Mae hi’n gwneud ein bywydau yn haws ac yn sicrhau y gallwn ni barhau â’n bywydau bob dydd yn gofalu am y merched. Yn ogystal â hyn, mae hi’n ein cyflwyno i gyfleoedd newydd trwy ein gwneud yn ymwybodol o hyfforddiant sydd ar gael a fydd yn gwella ein gallu i gynnig y gofal gorau nid yn unig i’n merched ond i blant eraill efallai y byddwn yn gofalu amdanynt yn y dyfodol.
Meithrin ymddiriedaeth gyda gweithwyr cymdeithasol plant
Fel gofalwyr maeth newydd, doedden ni ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan weithiwr cymdeithasol y merched. Roedd hen weithiwr cymdeithasol y merched newydd symud ymlaen pan ddaethon nhw atom, felly roedd hwn yn berson newydd i bob un ohonom feithrin perthynas â hi. Fe wnaeth hyn helpu’r merched mewn ffordd, gan ein bod ni i gyd wedi gallu meithrin perthynas ymddiriedus a diogel gyda hi gyda’n gilydd. Mae hi wedi bod yn hynod o gefnogol, ac yn bwysicaf oll i ni a’r merched, mae hi’n cadw at ei gair pan mae’r merched yn gofyn am rywbeth. Roedd hyn yn hollbwysig ar y dechrau gan fod angen gweithiwr cymdeithasol y gallai’r merched feithrin perthynas ymddiriedus â hi, ac i mi a Carla, fe ddangosodd hyn i ni ei bod hi’n gallu gwneud i bethau ddigwydd. Roedd y merched yn hynod o awyddus i fynd ar wyliau, ac nid oedd basbortau ganddynt, felly blaenoriaethodd eu gweithiwr cymdeithasol cael y rhain ar eu cyfer. O fewn ychydig wythnosau, roedden nhw wedi’u sortio, ac felly gwnaeth eu gweithiwr cymdeithasol argraff dda ar y merched. Mae’r cyfan yn dangos, pan fydd oedolion yn gweithio gyda’i gilydd er budd gorau’r plentyn, gellir cyflawni mwy. Bellach mae gan y merched berthynas wych gyda’u gweithiwr cymdeithasol, ac rydyn ni’n credu bod hynny oherwydd y proffesiynoldeb rhagorol a ddangosodd hi yn gynnar yn y broses.
Cyngor i ofalwyr maeth yn y dyfodol
Yr ateb syml fyddai, ewch amdani. Mae yna stigma ynglŷn â phlant mewn gofal yn bod yn heriol ac yn aflonyddgar, ond ni allai hynny fod ymhellach o’r gwir. Wrth gwrs, mae ganddyn nhw eu heriau a’u hanghenion eu hunain, ond yn aml iawn nid yw hyn yn wahanol i blant sydd wedi cael eu magu mewn uned deuluol ddiogel. Mae yna adegau pan fydda i’n siarad â mam am bethau sydd wedi digwydd, ond mae hi bob amser yn gyflym i fy atgoffa y byddai fy mrawd a minnau’n arfer gwneud pethau tebyg pan oedden ni’n iau. Gall rhai dyddiau fod yn heriol ond ar y llaw arall, mae’r rhan fwyaf o ddyddiau yn cael eu treulio fel unrhyw deulu nodweddiadol arall. Unwaith i chi dynnu ystrydebau am faethu plant o’ch meddwl, fe fyddwch yn agor eich llygaid i’r profiadau diddiwedd nid yn unig y byddwch chi’n eu cael, ond y bydd y plant yn eich gofal yn eu cael hefyd.
Beth mae gofalwyr maeth yn ei gynnig i fywyd plentyn
Gallwn i restru 1000 o wahanol bethau sy’n bwysig i ofalwyr maeth eu cynnig i fywyd plentyn ond i mi, y prif beth bob amser fyddai eu trin fel eich plant eich hun a gwneud iddyn nhw deimlo eu bod nhw’n rhan o’ch teulu. Os gwnewch chi hyn, bydd popeth arall yn dilyn a bydd y plant yn eich gofal yn gallu ffynnu wrth fyw mewn cartref cariadus, diogel a sefydlog. Mae ein merched bob amser yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n hapus oherwydd ein bod ni’n eu trin nhw fel ein plant ein hunain, sydd wedi eu galluogi i brofi a dysgu pethau newydd. Dwi bob amser yn esbonio i’r merched mai ein rôl ni yw dysgu sgiliau bywyd iddyn nhw, fel y byddai rhieni’n ei wneud, ac maen nhw’n ffynnu wrth ddysgu’r sgiliau newydd hyn fel paratoi a choginio bwyd, gwneud gwaith tŷ fel tacluso ystafelloedd gwely, a helpu gyda’r garddio.
Ychydig cyn y Nadolig fe wnaethon ni symud tŷ hefyd, er mwyn rhoi mwy o le i’r merched. Fel rhan o hyn, fe wnaethon ni gynnwys y merched yn y broses o’r dechrau i’r diwedd. Daethon nhw i edrych ar dai gyda ni, cymeron nhw ran wrth i ni benderfynu pa dŷ i gynnig amdano, ac yna fe wnaethon nhw helpu wrth i ni bacio ein hen dŷ. Nawr rydyn ni yn ein cartref newydd, maen nhw wedi dewis sut maen nhw am addurno eu hystafelloedd, gan ddewis eu paent a’u haddurniadau eu hunain. Mae eu cynnwys nhw drwy gydol y broses gyfan wedi eu helpu unwaith eto i deimlo eu bod yn rhan o’r teulu, gan eu bod wedi gallu cael dweud eu dweud o ran dewis tŷ newydd a sut i addurno eu hystafelloedd gwely.
Mae wedi ei gwneud hi’n haws gwybod y bydd y merched gyda ni nes eu bod yn gadael gofal (er bod y ddwy yn benderfynol y byddan nhw’n byw gyda ni nes eu bod yn 30). Mae hyn yn brawf o’r berthynas ddiogel rydyn ni wedi’i meithrin gyda nhw, trwy ganiatáu ac annog iddyn nhw fod yn blant a deall nad oes neb yn berffaith. Os ydyn nhw’n gwneud camgymeriadau, rydyn ni’n eu hannog i ddysgu ohonynt, yn ogystal â thynnu eu sylw at y ffaith fy mod i a Carla yn gwneud camgymeriadau hefyd. Nid yw ein huned deuluol yn berffaith, ond ein teulu ni ydy o ac ni fyddem yn ei newid am y byd.