dechreuom ni faethu yn 2021 ac roeddem wedi bwriadu cefnogi un plentyn. Cawsom alwad ffôn gan Ingrid, ein gweithiwr cymdeithasol cefnogol a gwych. bu iddi ddweud wrthym am ddau o blant, brawd a chwaer, a oedd angen lleoliad brys dros y penwythnos.
Hwn oedd ein lleoliad cyntaf ac roeddem yng nghanol gwaith addurno. Mae gennym bedair ystafell wely, gyda’n dau fab mewn ystafell wely’r un.
Gwnaethom y penderfyniad o fewn munudau. Gan wirio gyda’n meibion y byddai’n iawn iddynt rannu ystafell wely, bu i ni gadw ein brwshys paent ac ail-drefnu ein hystafelloedd gwely er mwyn rhoi llety iddynt.
“bu iddynt gyrraedd awr yn ddiweddarach, hwn oedd eu trydydd lleoliad mewn llai nag wythnos. roedd golwg pryderus ac ofnus arnynt”
Daethant yn fwy cyfforddus pan welont fod ein tŷ yn addas i blant ac wrth weld ein meibion yn chwarae gyda’i gilydd.
Fe gawsant daith o amgylch y tŷ ac roedd ystafell wely’r un yn barod iddynt. Roedd fy nghasgliad o orchuddion duvet yn ddefnyddiol y tro hwn.
Ni allwn ddychmygu pa effaith y byddai eu gwahanu ar unrhyw bwynt yn ystod y cyfnod heriol hwn wedi’i gael arnynt. Heb amheuaeth, mae cael ei gilydd wedi rhoi llawer o gryfder a chysur iddynt.
Maen nhw’n dal gyda ni blwyddyn yn ddiweddarach. Maen nhw wedi cael eu huchafbwyntiau ac isafbwyntiau ac wedi cael siwrneiau gwahanol drwy eu gwahanu o’u hamgylchoedd cyfarwydd.
Maen nhw’n gweld ac yn profi pethau’n wahanol iawn ac wedi bod angen cefnogaeth i ddeall safbwyntiau ei gilydd.
Maen nhw’n gwerthfawrogi ei gilydd yn fawr ar y pwynt hwn ac rydym yn sicr fod bod gyda’i gilydd wedi helpu i leddfu’r profiad trallodus hwn iddynt.
Byddai poeni am le’r oedd y llall neu sut oeddent yn cael arni wedi gwaethygu pob emosiwn.
Ni fyddem yn newid dim byd. Rydym wedi symud yr ystafelloedd o gwmpas ychydig eto ers hynny a byddem yn gwneud hynny eto ar unwaith.
Ewch gyda’r llif a mwynhewch y daith. Rydym yn lwcus iawn i allu cefnogi’r ddau ohonynt a’u gwylio yn blodeuo.