Rydym wedi maethu pedwar set o frodyr a chwiorydd a oedd yn lleoliadau tymor byr a brys dros saith mlynedd
ac rydym wedi maethu brawd a chwaer hirdymor am chwe blynedd. Ar hyn o bryd rydym yn maethu dwy chwaer ifanc ochr yn ochr â nhw.
“Mae maethu grwpiau o frodyr a chwiorydd yn dod gyda’i heriau, mae ffraeo dros eiddo a’ch sylw yn digwydd o ddydd i ddydd, ond mae hefyd yn dod gyda’i fanteision.”
Fe all, ac mae brodyr a chwiorydd yn cefnogi ei gilydd drwy’r adegau anodd y maent yn ei wynebu. Maen nhw’n aros gyda’i gilydd ac yn rhoi hyder i’w gilydd pan fyddant yn wynebu sefyllfaoedd sy’n codi ofn arnynt, fel dod i mewn i ofal maeth.
Maen nhw’n gwmni i’w gilydd ac yn chwarae gyda’i gilydd, gan wneud bywyd ychydig yn haws i ni!
Mae ein brawd a chwaer hirdymor yn agos iawn, maen nhw’n eu harddegau bellach ac yn mynd ar nerfau ei gilydd ar adegau, ond maen nhw’n meddwl y byd o’i gilydd a bydd y naill ar goll heb y llall.
Mae ffraeo yn anochel
ond gydag amser gallwch ragweld yr hyn sy’n sbarduno ffrae ac osgoi unrhyw sefyllfaoedd mawr. Gall y dyddiau cynnar fod yn anodd, ond buan rydych yn dod i drefn sy’n gweddu i bawb.
Gall rhannu eich amser yn gyfartal rhwng bob plentyn fod yn anodd ond mae’n werth yr ymdrech. Mae rhoi amser un i un i bob plentyn yn rhoi cyfle iddynt ffurfio ymlyniad sicr ac yn dangos iddynt eich bod yn eu caru a’u gwerthfawrogi. Rhowch amser a chyfle iddynt fod yn unigolion ac nid grŵp o frodyr a chwiorydd yn unig.
Mae gennym ni bump o blant ein hunain felly nid oedd maethu mwy nag un plentyn erioed yn broblem.
Rydym yn deulu mawr, eithaf caotig a swnllyd ond rydym yn gariadus iawn ac ni fyddwn eisiau iddo fod yn wahanol.