blog

croesawu’r rŵan hyn ym myd maethu: stori jo

Mae yna ddigonedd o resymau dros ddarbwyllo’ch hun allan o fod yn ofalwr maeth.  Nid yw llawer o bobl yn maethu gan eu bod eisoes wedi penderfynu na fyddent yn addas yn sgil y rhwystrau ymddangosiadol sydd ynghlwm â maethu.

Yn aml mae sgyrsiau am faethu yn dechrau gyda “Mi fyddwn i wrth fy modd yn maethu ond dwi’m yn meddwl y galla’ i….

…am fy mod i’n gweithio

…allwn i ddim eu rhoi nhw’n ôl

…mae gen i blant fy hun

…rydw i’n byw mewn llety rhent”, i enwi ond ychydig!

Nid ar chwarae bach y mae dod yn ofalwr maeth, ac mae yna sawl peth y mae angen ei ystyried. Efallai nad oes amser perffaith i ddechrau maethu ond mae yna blant yn eich cymuned sydd yn aros am deulu maeth rŵan hyn.

Mae Jo a’i gŵr Boz wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol yn Wrecsam ers 2015. O ran maethu, mae Jo yn credu ym mhwysigrwydd byw yn y foment.

Mae Jo yn rhannu ei phrofiadau personol  sy’n ymwneud â rhai o’r rhesymau pam fod pobl yn credu na allant faethu ond maen nhw’n gallu mewn gwirionedd, yn cynnwys sut mae hi’n cyfuno ei gwaith a maethu’n llwyddiannus, yn ogystal â magu ei phlant ei hun a sut mae hi’n delio gyda gorfod ffarwelio pan fydd y plant maeth yn symud ymlaen.

beth arweiniodd i ni faethu

“Ar ôl i ni gael teulu mawr ein hunain, roedd maethu yn rhywbeth y byddem ni’n siarad amdano’n aml”, meddai Jo, sydd â 5 o blant ei hun.  “Roeddwn i’n ffodus o gael plentyndod hyfryd iawn, ond cafodd fy ngŵr blentyndod eithaf anodd a byddai’n dweud yn aml y byddai’n hoffi pe bai rhywun wedi ei symud i ofal maeth”.

“Fe arhosodd hynny gyda mi.  Ond ar y pryd roeddem ni’n brysur yn magu ein teulu ein hunain. Yn 2014, roedd gennym ni ystafell wely sbâr am y tro cyntaf erioed yn y tŷ yr oeddem ni’n ei rentu ar y pryd.  Dwi’n cofio siarad am faethu eto gyda Boz ac mi ddywedodd o “Go on ‘ta, mae gennym ni le wan”.

Roedd Jo, sydd yn gweithio fel Cymhorthydd Addysgu mewn ysgol gynradd gerllaw, yn gweld cynnydd mewn atgyfeiriadau Gwasanaethau Cymdeithasol a phlant yn mynd adref i sefyllfaoedd oedd ymhell o fod yn ddelfrydol.  “Fe ddechreuodd aros gyda mi fwy fod yna wir angen am ofalwyr maeth yn yr ardal ac y byddai rŵan yn amser iawn i ddechrau maethu”. 

Gyda dau o blant ieuengaf Jo, oedd yn 13 a 11 ar y pryd, yn dal i fyw gartre’, fe wnaethant eistedd i lawr fel teulu i drafod sut oedd pawb yn teimlo am faethu, yn cynnwys eu plant hŷn nad oedd yn byw gartre’ bellach.  “Rydym ni’n deulu agos iawn ac roeddem ni eisiau i bawb fod yn rhan ohono a chwarae rôl gefnogol yn cynnwys ein plant hŷn nad oedd yn byw gartre’ bellach”, eglurodd Jo. 

“Mae maethu yn benderfyniad i’r teulu. Rydych chi’n deulu maeth.  Nid gofalwr maeth yn unig”.

Jo – Gofalwr Maeth Wrecsam

Gyda phob aelod o’r teulu’n gefnogol, cafodd Jo a Boz eu cymeradwyo fel Gofalwyr Maeth yn 2015, ac ychydig wythnosau’n ddiweddarach, fe wnaethant groesawu eu plant maeth cyntaf i’w cartref.  

“A dyna sut dechreuodd y cyfan – dydyn ni heb edrych yn ôl ers hynny”, ychwanegodd Jo.

Fe ddechreuodd Jo a Boz yn gwneud gofal maeth tymor byr ac mewn argyfwng, ond yn fuan fe ddaethant yn deulu maeth am byth ar gyfer grŵp o ddau o blant. Fe symudodd y teulu i dŷ rhent mwy er mwyn sicrhau bod modd cadw’r ddau blentyn gyda’i gilydd a gyda nhw ar gyfer yr hirdymor.  Ar ôl iddynt symud tŷ roedd modd iddynt agor eu cartref i lawer mwy o blant lleol oedd angen gofal dros y blynyddoedd. 

Maen nhw’n maethu 3 o blant ar sail tymor hir ar hyn o bryd. 

maethu gyda’ch plant eich hun: un teulu mawr gwyllt ydym ni!

Mae maethu yn cynnwys y teulu cyfan ac fe fydd yn effeithio ar eich plant eich hun. Mae sicrhau ei fod yn iawn i’ch plant yn hollbwysig. Fe all maethu gael sawl effaith cadarnhaol ar bawb yn yr aelwyd, ac mae yn cael yr effaith hwnnw, ond fe all hefyd arwain at rywfaint o heriau yn neinameg y teulu. 

“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried maethu yw i feddwl yn galed iawn ynglŷn â sut y bydd eich plant eich hun, os oes gennych chi rai, yn teimlo amdano, a sut y byddant yn ymateb”, meddai Jo.

“Rydym ni bob amser wedi gwneud amser i’n plant ein hunain a gwneud pethau hyfryd gyda nhw, fel mynd i’r dref a chael paned o goffi.  Dwi’n meddwl bod hynny’n bwysig iawn pan fyddwch chi’n maethu a bod gennych chi blant eich hunain”.

“Ein plentyn ieuengaf gafodd yr anhawster mwyaf i ddechrau, er roedd dal yn gwbl gefnogol o’n penderfyniad i ddod yn ofalwyr maeth ac eisiau i ni barhau.

“Fe fyddai’r ieuengaf bob amser yn croesawu plant maeth newydd i’r cartref drwy gyflwyno ein hanifeiliaid anwes – mae anifeiliaid anwes bob amser yn ffordd dda o dorri’r iâ!”  

“Gan ein bod ni bob amser wedi maethu plant sydd yn iau na’n rhai ni, rydym ni’n meddwl ei fod yn teimlo ychydig bach mwy naturiol i bawb yn y cartref felly mae’r ddeinameg yn gweithio i ni fel teulu. 

“Rydym ni’n un teulu mawr gwyllt! Does yna ddim i’n gwahanu er nad ydym ni’n perthyn drwy waed.  Mae’n naturiol iawn. Rydym ni’n ffodus iawn bod gennym ni blant maeth mor arbennig sydd wedi bod mor ofalus, croesawgar ac ystyrlon o sefyllfa unigryw ei gilydd.”

maethu a gweithio: mae fy swydd yn bwysig i mi

Mae nifer o ddarpar ofalwyr maeth yn ystyried a ydi hi’n bosibl delio â chyfrifoldebau swydd a maethu’n effeithiol, a dyna pam y bydd pobl yn meddwl yn aml na allant ddod yn ofalwyr maeth.  Ond gyda newidiadau mewn cymdeithas, y gwirionedd yw efallai y bydd yn rhaid i chi barhau i weithio ochr yn ochr â’ch ymrwymiadau maethu.

Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, mae bron i 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu gyda gwaith arall. Mae’r rhai sydd yn gweithio yn dweud y gall cyflogwr cefnogol wneud byd o wahaniaeth, gan eu galluogi nhw i gydbwyso gwaith gydag edrych ar ôl plant.

Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn Gyflogwyr sy’n Cefnogi Maethu, gan olygu eu bod yn deall, yn cefnogi ac yn parchu ymrwymiadau maethu eu gweithwyr, fel yn achos Jo.

“Pan ddechreuon ni faethu, fe barheais i weithio’n llawn amser fel Cymhorthydd Addysgu. Ers hynny rwyf wedi lleihau fy oriau, yn bennaf er mwyn cefnogi fy rhieni sy’n heneiddio, nid oherwydd maethu. 

“Mae gweithio mewn ysgol yn ymwneud â phlant, felly mae fy nghyflogwr yn deall ac yn cynnig llawer o hyblygrwydd i mi.  Mae hi’n bwysig bod eich cyflogwr yn cefnogi maethu hefyd, felly rydw i’n lwcus o ran hynny. 

“Dim ond plant oed ysgol ydw i wedi’u maethu, felly mae maethu wedi cyd-fynd â fy swydd. Rydw i hefyd yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sydd yn gyflogwr sy’n cefnogi maethu, felly rwy’n cael gwyliau blynyddol ychwanegol fel gofalwr maeth i fynychu hyfforddiant, cyfarfodydd ac i ddelio ag unrhyw argyfwng.

“Rydw i’n caru fy swydd.  Mae’n bwysig i mi. Rydw i’n Jo gwahanol pan fydda i’n mynd i’r gwaith.  Jo y Cymhorthydd Addysgu ydw i. Amser i mi ydi o. Byddaf yn parhau i weithio a maethu am gyn hired ag y galla i.

“Mae’r tîm maethu hefyd yn hyblyg a byddant yn gweithio o amgylch fy oriau hyblyg a diwrnodau i ffwrdd pan fydd yna adolygiadau, cyfarfodydd a’r holl bethau eraill rydym ni’n eu gwneud fel gofalwyr maeth!”

“Mewn maethu, mae angen i ni gyd fod yn hyblyg gyda’n gilydd!”

Jo – Gofalwr Maeth Wrecsam

heriau emosiynol maethu: gwybod eu straeon trist

Mae maethu yn fuddsoddiad emosiynol. Fe all gael effaith emosiynol gan ei fod yn aml yn golygu gofalu am blant sydd wedi bod drwy drawma neu gamdriniaeth. Gall gwybod am eu straeon a gweld sut mae eu profiadau o’r gorffennol wedi effeithio arnynt fod yn anodd, fel y mae Jo yn egluro.

Mae maethu yn fuddsoddiad emosiynol. Fe all gael effaith emosiynol gan ei fod yn aml yn golygu gofalu am blant sydd wedi bod drwy drawma neu gamdriniaeth. Gall gwybod am eu straeon a gweld sut mae eu profiadau o’r gorffennol wedi effeithio arnynt fod yn anodd, fel y mae Jo yn egluro.

“Un o agweddau anoddaf maethu i mi ydi gwybod eu straeon trist, a chlywed beth mae rhai ohonynt wedi bod drwyddo cyn iddynt ddod atom ni.  Mae’n torri’ch calonnau ar adegau. 

“Fe alla i fod yn ymarferol iawn am y pethau yma, ond mae yna rai pethau sydd yn fy nghyffwrdd i’n fawr. Pethau fel Nadolig. Y ffaith bod ein Nadolig teuluol cysurus a chariadus ni, mor bell o’u realiti nhw.   Mae hynny’n gwneud i mi grio ac rydw i dal yn drist pan fydda i’n meddwl amdano.

“Wrth gwrs, mae’n rhaid i mi wenu o flaen y plant, ond mae wir yn brifo ar y tu mewn.  Mae fy ngŵr yn cael trafferth gyda’r agwedd yna o faethu hefyd, yn enwedig gan ei fod o wedi cael plentyndod eithaf anodd ei hun. 

“Ond rydych chi’n dysgu i ddelio ag o, a dyna pam ein bod ni’n gwneud yr hyn rydym ni’n ei wneud. 

“Dydyn ni ddim yma i feirniadu. Mae amgylchiadau pawb yn wahanol ac rydym ni bob amser yn annog ac yn hyrwyddo perthnasoedd iach rhwng ein plant maeth a’u teuluoedd.”

meithrin cysylltiad: rhowch amser iddo

Gall croesawu plentyn maeth i’ch cartref fod yn amser cyffrous ond eto’n bryderus i bawb. Dydi hi byth yn hawdd i blentyn maeth ddod i fyw mewn cartref newydd gyda theulu newydd.  Mae hi hefyd yn normal i deuluoedd maeth gael teimladau o ansicrwydd. A fyddan nhw’n gallu cysylltu a meithrin perthynas gyda’r plentyn neu berson ifanc?

“Y tro cyntaf i mi gael trafferth fel gofalwr maeth oedd peidio gallu estyn allan at blentyn penodol oedd wir yn cael trafferth”, medda Jo. “Roedd hynny’n drist a chaled iawn, ac wrth edrych yn ôl, mae’n siŵr na wnes i ddelio ag o’n dda iawn.

“Er fy mod yn eithaf craff ac yn gwybod rhywfaint o beth i’w ddisgwyl gan fod gen i gymaint o flynyddoedd o weithio gyda phlant, doeddwn i dal ddim yn barod ar gyfer senarios a sefyllfaoedd penodol. 

“Ond gyda chefnogaeth ac arweiniad, fe ddaethom ni drwyddi ac mae’r hyfforddiant ymlyniad rydw i wedi’i fynychu ers hynny wedi gwneud byd o wahaniaeth.” 

rhinweddau personol gofalwr maeth gwych: maethu gyda’ch calon

Daw gofalwyr maeth o bob cefndir. Mae angen pobl wahanol o gefndiroedd amrywiol i faethu ac sydd ag amrywiaeth o brofiadau.  Ond mae yna rywfaint o rinweddau personol y mae mwyafrif ohonynt yn eu rhannu, sy’n eu gwneud nhw’n ofalwyr maeth gwych. 

“Fel gofalwr maeth, mae’n rhaid i chi gael synnwyr digrifwch neu fel arall, fyddech chi ddim yn para 5 munud!, chwarddodd Jo. “Mae’n rhaid i chi allu chwerthin pan rydych chi’n delio â rhai o’r pethau rydych chi’n gorfod delio â nhw, neu fe fyddech chi’n crio!

“A heb swnio’n ‘gawslyd’, mae’n rhaid i chi fod â chalon fawr. 

“Allwch chi ddim maethu’n ‘robotaidd’. Fe allwch chi gael yr holl hyfforddiant yn y byd, ond mae’n rhaid i chi faethu â’ch calon.

“Mae gallu eu caru nhw’n ddiamod yn bwysig. Hyd yn oed os mai’r bwriad ydi iddynt aros gyda chi am gyfnod byr, os ydych chi’n eu caru nhw ac yn dangos iddynt eich bod yn eu caru, rydych chi hefyd yn dangos eu bod yn hawdd eu caru ac y byddant yn cael eu caru gan bobl eraill yn y dyfodol.

“Mae ‘na gymaint o ansicrwydd ym myd maethu a phan mae’r plant rydw i’n eu maethu yn gofyn i mi os allan nhw aros gyda ni am byth, rydw i bob amser yn dweud wrthynt ‘Tra byddi di gyda mi, rwyt ti’n mynd i fod yn ddiogel a chael dy garu’.

“Rydw i wedi caru pob plentyn maeth sydd wedi dod mewn i’n cartref.”

Jo – Gofalwr Maeth Wrecsam

Allwn i ddim maethu, allwn i ddim eu rhoi nhw’n ôl!

Mae ffarwelio yn rhywbeth y mae’n rhaid i bob teulu maeth ei wynebu ar ryw bwynt wrth faethu.  Mae yna sawl rheswm y bydd plentyn neu berson ifanc yn gadael eich cartref, megis mynd yn ôl at eu teulu, cael eu mabwysiadu, symud at deulu maeth arall neu symud ymlaen i fod yn annibynnol.  Mae’n debyg mai dweud ffarwel ydi un o rannau anoddaf y rôl ac mae’n rheswm pam nad ydi llawer o bobl yn maethu.

“Allwn i ddim maethu, allwn i ddim eu rhoi nhw’n ôl – dyna dwi’n ei glywed yn aml pan dwi’n dweud wrth bobl fy mod i’n maethu”, meddai Jo. “Dwi’n gwybod nad ydyn nhw’n trio bod yn amharchus, ond beth petai pawb sy’n ystyried maethu yn meddwl hynny?

“Mae’n rhaid i ti weld y darlun mawr. Nid yw’n ymwneud â pheidio gallu eu rhoi nhw’n ôl. Mae’n ymwneud â’u caru nhw, gofalu amdanyn nhw a’u cadw nhw’n ddiogel tra’u bod nhw gyda chi. 

“Dyna pam mae’n rhaid i chi fyw yn y foment ym myd maethu. 

“Beth bynnag yw’r dyfodol ar eu cyfer nhw, mae’n rhaid i chi roi sicrwydd iddyn nhw.  Rhoi trefn a strwythur iddyn nhw. Prydau rheolaidd ar y bwrdd, mynd i’r bath yn rheolaidd, dillad glân, sicrhau eu bod nhw’n mynd i’r ysgol bob dydd.

“Mae’r arferion dyddiol sylfaenol iawn yna, pethau nad ydynt wedi’u cael o’r blaen efallai, yn bwysig iawn i blant mewn gofal.

“Rydw i wedi bod yn lwcus gan fod y mwyafrif o’n trosglwyddiadau wedi bod yn gadarnhaol ac rydym ni wedi gweld y canlyniadau gorau posibl i’r plant hynny.

“Wrth gwrs, dydi o ddim yn digwydd fel ’na bob tro ym myd maethu, a dydi hynny byth yn teimlo’n dda”.

Darllenwch ddarn teimladwy Jo am ffarwelio ‘Allwn i ddim eu rhoi nhw’n ôl’

adegau arbennig ym myd maethu: Jo rwy’n ti’n mynd i fyrstio! 

Yn ôl Jo mae ganddyn nhw sawl moment arbennig i’w trysori o’u taith maethu hyd yn hyn, lle maen nhw wedi gweld y gwahaniaeth y mae eu cariad a’u cefnogaeth wedi’i wneud i bob plentyn a pherson ifanc maent wedi gofalu amdanynt.  Mae Jo yn rhannu rhai o’r adegau anhygoel yna o fwynhad a chyflawniad a fydd yn aros gyda hi am byth.

“Gweld un o’n plant maeth, oedd ond fod i aros gyda ni am bythefnos, ond arhosodd gyda ni am 3 blynedd, yn mynd i’r brifysgol a chael ei fflat ei hun.  Doedd o ddim yn dweud dim byd pan gyrhaeddodd o yn 15 oed a doedd ganddo ddim hyder. Mae o bellach yn astudio Gwyddor Biofeddygol yn y Brifysgol ac mae o’n ffynnu.  Mae o wir yn ysbrydoliaeth. Yn syml, roedd o angen rhywun i gredu ynddo. 

“Gwylio bachgen bach yn colli llawer o bwysau, magu ffitrwydd a rhoi’r gorau i ddefnyddio anadlydd a gallu rhedeg o gwmpas gyda phlant eraill.

“Gwylio merch fach yn aeddfedu i fod yn ferch hyfryd sydd yn garedig, yn gariadus ac sy’n fy meicro-reoli i!

“Gwylio gŵr ifanc yn mynd ar ei drip preswyl cyntaf gyda’r ysgol ar ôl methu mynd yn y gorffennol am ei fod wedi cynhyrfu.


“Bachgen bach yn eistedd mewn basn ymolchi fel broga bach er mwyn iddo boeri’r past dannedd yn syth i mewn i’r twll plwg a pheidio â’i gael ym mhobman! Gwylio’r bachgen bach hwnnw yn tyfu i fod yn ddyn ifanc clyfar, gweithgar, cariadus a doniol.

“Mae fy nghalon yn tyfu mwy a mwy gyda phob plentyn dwi’n ei garu.  Dwi’n cofio un plentyn yn dweud wrtha i ar ôl i mi ddweud hynny – Jo, rwyt ti’n mynd i fyrstio! Wna i byth anghofio’r geiriau yna nac wyneb y plentyn bach”.

allech chi wneud gwahaniaeth a maethu yn eich awdurdod lleol fel Jo a’i theulu?

Os ydych yn byw yn Wrecsam, cysylltwch â Maethu Cymru Wrecsam  a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu i benderfynu a yw maethu yn iawn i chi.  

Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch tîm maethu awdurdod lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A waterfall in Wrexham

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.