blog

maethu brodyr a chwiorydd a pham ei fod yn bwysig

gofalu am frodyr a chwiorydd

Ym Maethu Cymru Wrecsam rydym y deall mor bwysig yw hi i frodyr a chwiorydd aros gyda’i gilydd pan fydd angen gofalu amdanynt.  Mae arnom angen gofalwyr maeth sy’n gallu gofalu am frodyr a chwiorydd bob amser.

gall fod yn heriol

Gall gofalu am blant maeth fod yn her, fodd bynnag, gall fod yn arbennig o anodd i blant a phobl ifanc sy’n cael eu rhoi mewn gofal maeth. Dychmygwch eich bod yn cael gwybod na allwch aros ble rydych yn byw ar hyn o bryd, bod angen i bobl nad ydych yn eu hadnabod ofalu amdanoch, ac am ba bynnag reswm, na all eich brodyr a chwiorydd ddod gyda chi.  

maent yn teimlo’n fwy diogel

Pan fyddwch yn maethu brodyr a chwiorydd, yn aml maent yn setlo i’w hamgylchedd newydd yn llawer gwell. Gallant deimlo’n fwy diogel pan fyddant gyda’i gilydd ac yn poeni llai am eu brodyr a chwiorydd. Gallant gysuro a chefnogi ei gilydd yn ystod amser emosiynol ac anodd iawn sy’n achosi straen. Gall hefyd roi gwell synnwyr o hunaniaeth a pherthyn iddynt.

eu cadw gyda’i gilydd

Pan fydd brodyr a chwiorydd y mynd i mewn i’r system ofal, mae’r penderfyniad i’w cadw gyda’i gilydd neu ar wahân yn hanfodol bwysig. Mae’n bwysig iawn ein bod yn eu cadw gyda’i gilydd pan fo hynny’n bosibl.  

Mae ein hymchwil yn dangos bod plant yn llawer mwy tebygol o setlo a dechrau gwneud datblygiad positif os byddant yn cael eu cadw gyda’u brodyr a chwiorydd, yn enwedig os oes ganddynt gyswllt emosiynol cryf. 

Mae’r perthnasoedd hanfodol hyn yn gallu ffynnu’n well os ydynt yn gallu helpu’r naill a’r llall a chyfnewid profiadau.  

Gall y penderfyniad hwn gael canlyniadau oes o ran a fydd y plant yn adnabod ei gilydd neu beidio wrth iddynt dyfu.  

Mae plant sy’n mynd i mewn i’r system ofal yn debygol o orfod mynd i fyw i amgylchedd sy’n anghyfarwydd iawn iddynt.  Bydd y rhan fwyaf o frodyr a chwiorydd yn cael eu rhoi gyda theulu maeth nad ydynt yn eu hadnabod cyn hynny a bydd rheolau ac arferion y tŷ yn anghyfarwydd iddynt.  Mae’n bosibl na fydd gan y gofalwr unrhyw wybodaeth flaenorol am ba fwyd maent yn ei hoffi, beth sy’n codi ofn arnynt ac a oes ganddynt degan meddal penodol maent yn hoffi ei gael amser gwely. 

Gall presenoldeb brawd neu chwaer roi llawer iawn o sicrwydd. Er nad oes gan bob brawd a chwaer berthynas agos, gall presenoldeb brawd neu chwaer fod yn bresenoldeb dibynadwy i rannu pryderon, a chynefindra ymhlith popeth arall sydd mor ddieithr ac anghyfarwydd.  

yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn bosibl  

Gall hyn fod yn wir os yw’r grŵp teulu yn rhy fawr neu os oes bwlch oedran mawr. Weithiau, mae’n fwy diogel cadw brodyr a chwiorydd ar wahân drwy eu rhoi gyda theuluoedd maeth gwahanol oherwydd gwrthdaro rhyngddynt. Ffactor arall yw diffyg gofalwyr maeth â digon o le yn eu cartrefi i ddau neu fwy o blant o’r un teulu. 

Rydym yn darparu hyfforddiant arbenigol i’n holl ofalwyr maeth sy’n gofalu am grwpiau o frodyr a chwiorydd i’w helpu i gefnogi’r plant hyd orau eu gallu. 

“Yn ystod ein blynyddoedd o faethu, rydym wedi gofalu am rai grwpiau o frodyr a chwiorydd, sydd wedi rhoi llawer o foddhad. Maen nhw’n cyrraedd ein cartref yn bryderus ac ofnus, sy’n ddealladwy, ac weithiau bydd arnynt eisiau cysgu yn yr un gwely er mwyn cael cysur a sicrwydd. Wrth iddynt wylio’r naill a’r llall, yn enwedig os yw un wedi bod yn brif ofalwr, maen nhw’n dysgu’n gyflym iawn i ymddiried yn ei gilydd.  Mae’n hyfryd gweld y brodyr a chwiorydd yn dechrau ymlacio a cheisio cysur gennym ni, a’r plentyn sydd wedi bod yn gofalu, yn dod yn blentyn unwaith eto. Oherwydd bod y brodyr a’r chwiorydd bellach yn gallu bod yn blant – ac efallai bod ganddynt frodyr a chwiorydd eraill – mae cyswllt â’r rheiny yn hanfodol hefyd. Mae’n wych eu gweld yn ennyn cymaint o hyder, mae sawl un o’r brodyr a chwiorydd rydym wedi’u maethu bellach yn rhieni hefyd.

Dywedodd grŵp o frodyr a chwiorydd sydd wedi ein gadael ers blynyddoedd, “Ydych chi’n cofio pan aethom ar ein gwyliau, ydych chi’n cofio pan ddysgais i reidio beic, ac ati? Ydych chi’n cofio’r anrheg gadael gawson ni gennych chi, mae o’n dal gennym ni, ac mae’r wên ar eu hwynebau a’r atgofion a wnaethom iddynt yn amhrisiadwy. Mae rhai o’n brodyr a chwiorydd yn dychwelyd at eu teuluoedd biolegol, ond maent yn dal i gadw mewn cysylltiad ac mae ganddynt berthynas hyfryd. Ni fyddai hyn yn digwydd os na fyddant gyda’i gilydd.”

Sharon a John – Gofalwyr Maeth o Wrecsam

Os oes gennych le ac amser i gynnig amgylchedd teuluol diogel a chariadus i frodyr a chwiorydd, cysylltwch â ni

maethu brodyr a chwiorydd a pham ei fod yn bwysig gan Carol Lilley

Carol Lilley ydw i ac rydw i wedi bod yn weithiwr cymdeithasol cymwys ers 1991. Mae fy mhrofiad mewn amddiffyn plant, gwaith plant a theuluoedd a maethu. Rwyf wedi bod yn y llys lawer gwaith ac wedi darparu hyfforddiant a gwaith prosiect.

Rydw i wedi gweithio yn nhîm maethu Wrecsam ers tair blynedd yn y swydd rheolwr tîm cynorthwyol; rwyf wedi ymrwymo i Wrecsam gan fy mod yn teimlo eu bod ar daith i wella’r gwasanaethau cyffredinol maent yn eu darparu i blant a’u teuluoedd.  Mae pawb rydw i’n cyfathrebu â nhw bob dydd yn ymroddedig i deuluoedd Wrecsam ac rydym yn cael ein hannog gan yr Uwch Dîm Rheoli i deimlo’n rhan o’r daith hon a gwneud ein gorau ar gyfer anghenion y gymuned i’r dyfodol.

Yn ogystal â chefnogi gofalwyr maeth Wrecsam a bod yn Ymgynghorydd Panel Maethu, rydw i’n cymryd rhan weithredol mewn recriwtio gofalwyr maeth newydd yn Wrecsam. Rydw i’n teimlo’n angerddol am ddarparu pobl ddeallus, broffesiynol a gofalgar i ofalu am blant a phobl ifanc Wrecsam. Yr hyn sy’n sbarduno’r angerdd hwn yw galluogi’r plant a phobl ifanc i aros yn Wrecsam, sef eu cartref a’u diwylliant pan na allant fyw gartref gyda’u teuluoedd.

Carol M Lilley

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A waterfall in Wrexham

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.