blog

cariad heb ffiniau: taith kate a lisa fel gofalwyr maeth lhdtc+

Pan nad oes ffiniau i gariad, mae ganddo’r pŵer i greu rhywbeth gwirioneddol brydferth.

Dyma’n union beth mae Kate a Lisa, cwpl LGBTQ ysbrydoledig, wedi’i gyflawni trwy eu taith anhygoel fel gofalwyr maeth yng Ngogledd Cymru.

Yn eu hangerdd am amrywiaeth ac ymroddiad cyson, maent wedi creu teulu cariadus sy’n herio normau ac yn lledaenu empathi.

Yn eu geiriau eu hunain, dyma eu stori hyfryd nhw…

“Dwy flynedd yn ôl, daeth ein plant maeth i’n bywydau, ac maen nhw wedi dod yn rhan barhaol o’n teulu. Rydym yn teimlo’n hynod o ffodus i’w cael ac i allu darparu cartref cariadus iddynt. Mae gennym hefyd ein dau blentyn biolegol, felly mae ein cartref bob amser yn fwrlwm o weithgaredd. Mae wedi dod yn normal newydd i ni, ac ni fyddwn yn newid unrhyw beth.

Mae gwylio pob un o’n plant yn tyfu ac yn magu hyder wedi bod yn galonogol iawn. Mae’r berthynas y maent yn ei rannu a’r caredigrwydd y maent yn ei ddangos tuag at ei gilydd y tu hwnt i eiriau.

Mae ein plant wedi dysgu cymaint i ni am nerth a harddwch llawenydd syml. Mae ein plant maeth, yn arbennig, wedi dysgu sut i fwynhau chwarae ac archwilio’r byd o’u cwmpas. Wnawn ni byth anghofio’r tro cyntaf iddyn nhw fynd i’r traeth. Roedd arnynt ofn y tywod yn crafu eu coesau, ond yr wythnos diwethaf, roeddent yn rhedeg i mewn i’r môr yn eu dillad, yn chwerthin gyda hyfrydwch pur. Roedd yn foment mor arbennig i ni.

Cefnogaeth anhygoel, bob cam o’r ffordd

Drwy gydol y daith hon, rydym wedi cael cefnogaeth anhygoel gan ein tîm gwaith cymdeithasol. Maen nhw wedi bod yno i ni bob cam o’r ffordd. Rydym hefyd wedi dadlau’n angerddol dros ein plant yn eu hysgolion, gan sicrhau eu bod yn cael y gofal a’r addysg orau bosibl. Rydym wedi mynychu nifer o gyrsiau i roi’r sgiliau angenrheidiol i ni’n hunain i ddiwallu eu hanghenion arbennig.

Mae maethu wedi bod yn dipyn o daith hyd yma, gyda nifer fawr o uchafbwyntiau yn ogystal â chyfnodau mwy heriol. Mae wedi bod yn brofiad hollol anhygoel, er iddo droi allan i fod yn wahanol i’r hyn yr oeddem wedi’i ddychmygu i ddechrau. Rydyn ni wedi gorfod dysgu cymaint ar hyd y ffordd, ac mae wedi bod yn agoriad llygad go iawn.

Rydyn ni’n llawn cyffro wrth i ni edrych ymlaen at y dyfodol a pharhau i gefnogi ein plant ar eu llwybrau unigryw. Mae’r teulu amrywiol a chariadus hwn rydyn ni wedi’i greu yn bopeth i ni. Rydym mor ddiolchgar am y daith hon.”

Kate a Lisa – gofalwr maeth wrecsam

A allech ymuno â Kate a Lisa a mwy na 35 o aelwydydd LHDTQ+ sydd eisoes yn ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru?

P’un a ydych yn briod neu’n sengl, beth bynnag fo’ch ethnigrwydd, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol – eich sgiliau, meddylfryd a’ch profiad sydd bwysicaf wrth faethu.

Os ydych chi’n byw yn Wrecsam, cysylltwch â Maethu Cymru Wrecsam a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar, heb rwymedigaeth, i’ch helpu i benderfynu a yw maethu’n addas i chi.

Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am ragor o wybodaeth ac i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A waterfall in Wrexham

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.