blog

cariad diamod a gwersi bywyd: fy mywyd gyda brodyr a chwiorydd maeth

Helo, fy enw i yw Millau, ac rwyf wedi byw gyda babanod, plant a phobl ifanc maeth ar hyd fy oes. Buaswn yn disgrifio fy hun fel unigolyn gonest, hyderus, doniol a gofalgar sydd yn caru treulio amser gyda phlant. Mae gen i hefyd ychydig o wendid am brynu colur nad ydw i wir ei angen.

“mae ein teulu’n fawr, yn uchel, yn brysur, cariadus, diolchgar, goddefgar a chroesawgar

I grynhoi sut mae’n teimlo i gael rhieni sy’n ofalwyr maeth mewn un gair – diddorol. Mae ein teulu’n fawr, yn uchel, yn brysur ac yn wahanol iawn i’r hyn sy’n arferol, ond mae hefyd yn hynod o gariadus, diolchgar, goddefgar a chroesawgar. Waeth pwy sydd yn ein teulu, waeth pa mor hir maent wedi bod gyda ni, neu os ydynt yn perthyn trwy waed ai peidio, rydym ni oll yn deulu.

Mi fuaswn i’n disgrifio fy mherthynas gyda fy mrodyr a chwiorydd maeth fel “cariad diamod”. Rydw i’n gwerthfawrogi eu holl straeon a nodweddion unigryw, ac yn ddiolchgar o fod yn rhan o helpu rhywun na ddylai gael eu cosbi.

Un o’r agweddau mwyaf anodd wrth faethu yw dweud hwyl fawr. Weithiau mae hyn am resymau hapus pan fydd plentyn yn dod o hyd i deulu newydd, ond weithiau gall fod yn eithaf anodd os nad yw pethau’n gweithio allan yn ôl y disgwyl.

Mae fy rhieni yn ein cynnwys ni oll ym mywydau’r plant maeth ac yn rhannu gwybodaeth oni bai ei fod yn breifat neu os nad oes angen ei drafod.

Un o’r adegau mwyaf boddhaus yn ein teulu maeth yw pan mae plant rydym wedi’u meithrin yn dod o hyd i gartrefi cariadus am byth. Er enghraifft, roedd gennym 2 o fabanod bach gyda ni am 2 flynedd, ac yn ystod pandemig COVID-19, roedd y blynyddoedd yn galed, araf ac yn heriol. Ond daethom drwyddi gyda’n gilydd, ac yn y diwedd cawsant eu rhoi gyda theulu a fydd yn eu caru’n ddiamod. Roeddem ni gyd yn drist yn dweud hwyl fawr, ond roeddent wedi dod o hyd i’w hapusrwydd.

“rydym ni gyd yn deulu ac rydym eisiau gweld yr hyn sydd orau i chi”

O waelod calon, gallaf ddweud yn ein teulu maeth, ni ddylech erioed fod ofn ffitio i mewn, achos unwaith i chi symud i mewn neu gwrdd â ni, rydym yn barod i’ch amddiffyn chi, i’ch cefnogi chi, i’ch arwain chi ac i’ch caru chi, oherwydd rydym ni gyd yn deulu ac rydym eisiau gweld yr hyn sydd orau i chi.

“dydw i ddim eisiau bod yn unrhyw un arall”

Pan fyddaf yn hŷn, buaswn wrth fy modd yn bod yn ofalwr maeth, yn union fel mam a dad. Maent yn fy ysbrydoli i gyda’u dealltwriaeth a ffyddlondeb tuag at y plant maeth hyn. Dydw i ddim eisiau bod yn unrhyw un arall. Rwy’n lwcus o gael cartref, ond rwyf hyd yn oed yn fwy lwcus o’i rannu gyda mwy o bobl sydd angen cartref a rhywun i ofalu amdanynt.

“byddwch yn teimlo mor falch”

Mae maethu yn anodd; dydi hynny ddim yn gyfrinach. Ond mae popeth yn anodd. Ni fyddwch fyth yn gwybod faint fyddwch yn aberthu ac i ba eithafion y byddwch yn mynd i gefnogi’r plant hyn, tan i chi ddechrau maethu. Ond byddwch yn teimlo mor falch, yn fwy ffodus, yn fwy cadarn, cryf, cariadus ac yn fwy angerddol. Cofiwch, nid swydd yn unig ydi maethu, mae’n ffordd o fyw. Mae’n gartref i rywun, a gall fod eu hatgof cyntaf o deulu gwirioneddol.

Diolch am ddarllen fy stori am fy mhrofiad o fyw mewn teulu maeth. Os ydych chi’n ystyried maethu, ewch amdani. Cofiwch, rydych chi’n newid bywyd rhywun am y gorau.

Millau

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A waterfall in Wrexham

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.