blog

bywyd mewn teulu maeth: safbwynt unigryw williams

Helo, William ydw i, ac rydw i’n 16 oed. Rydw i’n mynychu coleg tri diwrnod yr wythnos ac yn gweithio gyda fy nhad y pedwar diwrnod arall. Yn fy amser hamdden, rydw i’n mwynhau chwarae Xbox a gwylio sioeau teledu ar Netflix. Ond yr hyn sydd wir yn llonni fy nyddiau yw’r ddau o blant rydym yn gofalu amdanynt ar hyn o bryd – maent wedi dod yn rhan anhygoel o fy mywyd.

“mae tyfu i fyny mewn teulu maeth yn hwyl. rwy’n ei fwynhau”

Mi fuaswn i’n dweud bod tyfu i fyny mewn teulu maeth yn hwyl. Rwy’n ei fwynhau. Rydych yn cwrdd â phlant o bob cefndir, yn dysgu am eu ffordd o fyw, ac yn dod i’w hadnabod yn well. Pan nad wyf yn gweithio neu yn y coleg, rydw i’n helpu cymaint â gallaf. Rydym yn tueddu i wneud lot, yn arbennig yn ystod y gwyliau, ac yn mynd i lefydd gyda’n gilydd. Rydym yn gwneud ymdrech i fwyta swper gyda’n gilydd bob nos ac i siarad am ein diwrnod.

“fy mrodyr a chwiorydd maeth: yn union fel fy mrodyr a chwiorydd biolegol”

Hoffwn feddwl bod fy mherthynas gyda fy mrodyr a chwiorydd maeth yn agos iawn. Rydw i’n eu hystyried fel fy mrodyr a chwiorydd biolegol ac rwy’n eu trin yn yr un ffordd. Rwy’n mwynhau bod yn ofalwr maeth gan fod gen i fwy o frodyr a chwiorydd i ddysgu amdanynt. Mae rhai plant maeth sydd wedi bod gyda ni, ac rydym wedi parhau i gadw mewn cysylltiad gyda nhw. Maen nhw’n rhan o’r teulu.

“agweddau cadarnhaol o faethu”

Mae rhai o agweddau cadarnhaol o faethu a chael brodyr a chwiorydd maeth yn cynnwys cwrdd â phobl newydd a mynychu digwyddiadau maethu.

“heriau maethu”

Alla i ddim meddwl am unrhyw heriau, ar wahân i fwy o gyfrifoldebau a disgyblaeth ychwanegol yn fy mywyd bob dydd. Fodd bynnag, mae’n braf cael mwy o bobl i siarad gyda nhw o fewn y teulu.

“boddhad o fod yn rhan o’u siwrnai”

Un o’r profiadau mwyaf boddhaus yw cwrdd â’r plant, yn enwedig os ydynt newydd eu geni. Rydych yn cael gweld penodau cyntaf eu bywydau gyda nhw, dysgu nhw sut i dyfu, cerdded a bwyta.

“maethu: siwrnai gydol oes”

Mae maethu wedi bod yn rhan o fy mywyd ers i mi gael fy ngeni, ac rwyf wedi mwynhau pob eiliad ohono gyda fy nheulu. Mae wedi bod yn brofiad dysgu arwyddocaol i’n teulu, ac mae wedi fy helpu i yn bersonol.

“fy nghyngor i ofalwyr maeth y dyfodol”

Un o’r cyngor gorau y buaswn i’n ei roi yw cymerwch eich amser. Mae’n rhaid i chi adael i’r plant ddod i’ch adnabod chi ac ymddiried ynoch chi. Byddwch yn dysgu i’w caru yn hawdd. Cofiwch, gallent adael ar unrhyw bwynt. Rwyf wedi profi hynny lawer o weithiau, ac mae’n anodd, ond maent yn symud ymlaen, ac mae’n rhaid i chi barchu hynny a gwybod y byddent bob amser gyda chi.

“buaswn yn hoffi dod yn ofalwr maeth rhyw ddydd yn y dyfodol agos”

Mi fuaswn bob amser yn hoffi helpu yn y gymuned gofal maeth gan ei fod yn rhywbeth mawr a chynyddol hyd heddiw. Rwy’n parchu pobl sy’n gwneud gwaith gofal maeth. Dechreuodd fy mam helpu a rhoi cefnogaeth i fy mrawd yn ei ieuenctid, ac roedd yn helpu yn union fel fi. Buaswn yn hoffi dod yn ofalwr maeth rhyw ddydd yn y dyfodol agos.

“parch tuag at ofalwyr maeth”

Dylai gofalwyr maeth gael eu parchu, oherwydd nid yw’n swydd 9-5, mae’n ymrwymiad 24 awr i helpu’r plant hyn trwy gydol eu bywydau dydd i ddydd. Rhaid i ofal maeth gael ei gydnabod fel gwasanaeth, nid swydd yn unig. Mae’n heriol, ond mae’n foddhaus ac mae’n haeddu parch. Rydym yn lwcus o fyw mewn byd caredig, a dyma’r rheswm fod gennym gymaint o ofalwyr maeth o gwmpas y byd a ddylai gael eu parchu. Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r holl ofalwyr maeth o amgylch y byd. Diolch.

William

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A waterfall in Wrexham

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.