blog

stori lisa: “fe wnaethon nhw roi cyfle i fi mewn bywyd”

Pythefnos Gofal Maeth 2025 – Pŵer Perthnasoedd

Dechrau o’r Newydd

Fe ddechreuais i mewn gofal pan oeddwn i’n saith oed, dim ond tri diwrnod cyn fy mhen-blwydd yn wyth oed. Roedd yn sioc enfawr ac yn amser emosiynol iawn. Doeddwn i ddim yn deall pam roeddwn i yno, ac roeddwn i’n ofni.

Roedd gen i un lleoliad maethu, ac roeddwn i’n aros gyda’r teulu hwnnw nes i fi symud allan. Roedd hynny 21 mlynedd yn ôl, a nhw yw fy nheulu hyd heddiw. Ar ôl blynyddoedd o ddioddef camdriniaeth, fe wnaethon nhw wneud i fi deimlo’n ddiogel. Doeddwn i ddim yn ofni mwyach. Roedden nhw bob amser yn fy nhrin yr un fath â’u plant eu hunain. Ni oedd yn dod gyntaf, a dydyn nhw erioed wedi stopio bod yno i fi.

Tyfu Lan Mewn Gofal

Arhosais gyda fy nheulu maeth tan fy mod i’n 19 oed, pan symudais i fy fflat fy hun tra roeddwn i’n feichiog gyda fy mhlentyn. Dywedon nhw wrtho i y gallwn i aros cyhyd ag oeddwn i eisiau, ond roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n bryd cael fy lle fy hun. Hyd yn oed wedyn, fe wnaethon nhw fy nghefnogi bob cam o’r ffordd, gan gynnwys fy helpu trwy sefyllfa o drais domestig. Maen nhw’n trin fy mhlentyn fel eu hŵyr, ac maen nhw yr un mor gysylltiedig â’n bywydau nawr ag oedden nhw erioed.

Pŵer Perthnasoedd Cefnogol

Dw i wedi cael ychydig o wahanol weithwyr cymdeithasol dros y blynyddoedd, ac roedd pob un yn gefnogol iawn. Fe wnaethon nhw wrando arna i a gwneud i fi deimlo fel bod fy llais yn bwysig. Profais lawer o drawma yn fy mywyd cynnar, ac fe wnaethon nhw fy helpu i gael mynediad at gwnsela a’r gwasanaethau cywir.

Pan symudais i mewn i’m fflat fy hun, camodd y tîm gadael gofal i’r adwy hefyd i wneud yn siŵr bod popeth yn ei le. Ynghyd â fy nheulu maeth, fe wnaethon nhw wneud yn siŵr bod gen i bopeth oedd ei angen arna i er mwyn dechrau’r bennod nesaf.

Pen-blwydd Bythgofiadwy

Pan gyrhaeddais gartref fy ngofalwyr maeth, roedd ychydig ddyddiau cyn fy mhen-blwydd. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl, ond fe wnaethon nhw ei wneud mor arbennig. Roedd eu plant yn hyfryd i fi, ac roeddwn i wedi bod yn poeni y bydden nhw’n teimlo’n genfigennus, ond yn hytrach, fe wnaethon nhw ddathlu gyda fi. Dw i wastad wedi cael fy nhrin fel rhan o’r teulu. Fe wnaethon nhw fy nerbyn am bwy ydw i, a dydy hynny byth wedi newid.

Addysg, Anogaeth a Ffiniau

Pan gyrhaeddais i gyntaf, doeddwn i ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu. Roedd fy ngofalwyr maeth yn fy nghefnogi trwy bopeth. Fe wnaethon nhw gael tiwtor i fi, fy helpu gyda chlybiau ar ôl ysgol, a darllen gyda fi bob nos.

Heddiw, dw i wedi pasio fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol a dw i’n astudio i fod yn nyrs.

Fel unrhyw berson ifanc yn ei arddegau, fe wnes i herio ffiniau. Roeddwn i eisiau mynd allan a chael hwyl. Ond roedd fy ngofalwyr bob amser yn eistedd i lawr gyda fi ac yn dweud y gwir wrtho i. Wrth edrych yn ôl, y peth gorau wnaethon nhw i fi oedd dweud “na chei” pan oedd angen i fi ei glywed. Fe wnaethon nhw fy nghadw yn ddiogel pan nad oeddwn i’n gwybod sut i wneud hynny drosto i fy hun.

Cysylltiadau Gydol Oes

Dw i’n dal i fod mewn cysylltiad â phlant eraill a gafodd eu maethu gan fy nheulu. Aeth rhai ohonyn nhw yn ôl at eu teuluoedd biolegol, ond rydyn ni i gyd wedi aros mewn cysylltiad. Maen nhw’n teimlo fel teulu estynedig i fi. Dw i hyd yn oed yn galw rhai ohonyn nhw’n fodryb ac ewythr.

Mae maethu yn creu’r clymau gydol oes hynny, hyd yn oed pan fydd taith pawb yn wahanol.

Neges i bobl ifanc mewn gofal

Rydych chi’n ddiogel nawr. Does neb yn ceisio cymryd lle eich rhieni neu eich brifo. Mae’r bobl o’ch cwmpas eisiau rhoi cariad a chymorth i chi. Ceisiwch beidio â chymryd hynny yn ganiataol.

Neges i ofalwyr maeth y dyfodol

Cewch amdani. Mae’n benderfyniad mawr a bydd gennych chi amheuon, ond gall newid bywydau. Fe newidiodd fy un i. Rhoddodd fy ngofalwyr maeth ail gyfle i fi, dyfodol na fyddwn i erioed wedi ei gael fel arall. Peidiwch â chanolbwyntio ar y pethau negyddol; mae’r pethau cadarnhaol yn llawer mwy pwerus.

Beth fyddwn i’n ei newid am y system ofal?

Dim byd.  Achubodd gofal maeth fy mywyd. Fyddwn i ddim yn pwy ydw i heddiw hebddo.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A waterfall in Wrexham

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.