Yng ngeiriau Jo, Gofalwr Maeth, Wrecsam.
Pan fyddwch chi’n cychwyn ar eich taith faethu, byddwch yn dod i sylweddoli’n fuan iawn y bydd amrywiaeth o bobl yn croesi’ch llwybr, neu’n defnyddio’ch llwybr i gyrraedd eich cartref yn hytrach, gan mai eich cartref nawr yw eich “swyddfa!”
Mae ein drws bob amser ar agor, i’r plant rydyn ni’n eu croesawu i’n cartref, ac hefyd i’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’u gofal.
Gweithwyr cymdeithasol plant, gweithwyr cymdeithasol goruchwylio, swyddogion diogelu, gwarcheidwaid, ymhlith eraill.
Mae’r holl bobl wych hyn sy’n buddsoddi yng ngofal y plant rydyn ni’n eu maethu.
Rwyf wedi bod yn maethu gyda fy ngŵr Boz ers 10 mlynedd bellach ac wedi cwrdd â llawer o weithwyr proffesiynol ar hyd y ffordd. Mae rhai wedi teimlo fel rhan o’n teulu ac rydym wedi mwynhau llawer o sgyrsiau dros baned a bisgedyn!
Ysgolion
Mae ysgolion yn chwarae rhan enfawr ym mywyd plentyn maeth ac yn aml nhw yw’r cyntaf i godi pryderon am eu lles a gofyn am gymorth y gwasanaethau cymdeithasol. Mae dyfodol y plentyn felly yn bwysig iawn iddyn nhw ac o ffurfio perthynas dda gyda’r ysgol, sydd yn aml yn meddu ar yr holl wybodaeth gefndirol sydd ei hangen arnoch, fe gewch eu help i gefnogi’r plentyn trwy’r cyfnod anodd hwn yn eu bywydau.
Rydw i wedi cael perthynas wych gydag ysgolion gan fy mod yn gweithio fel Cynorthwyydd Addysgu fy hun ac mae gen i ddealltwriaeth o’r gefnogaeth sydd ei hangen ar blentyn mewn lleoliad addysg. Mae un athrawes yn benodol yn dal i fod yn ffrind hyd heddiw er bod y plentyn wedi gadael ei dosbarth 2 flynedd yn ôl.
Plant mewn Gofal Maeth
Mae eich perthynas â’r plant sy’n dod i’ch gofal yn aml yn wan ar y dechrau, y naill yn ceisio creu argraff dda ar y llall, a gwneud i bawb deimlo’n gyfforddus. Mae hwn yn gyfnod nid annhebyg i fis mêl, a dyw e ddim wastad yn para, ond mae’r bondio cynnar hwn yn creu sylfaen dda i adeiladu ymlyniadau diogel, a pherthnasoedd iach a hapus.
Plant Biolegol
Y berthynas rhwng ein plant biolegol a’r plant rydyn ni wedi’u maethu yw’r un bwysicaf. Roedd ein plant yn 11 a 13 oed pan ddechreuon ni faethu ac roedd y cyfan yn dipyn o sioc iddyn nhw i gychwyn. Fe wnaethon nhw ymdrech fawr iawn i’w croesawu, gan ddod â’u hamsters anwes i’w dangos iddyn i dorri’r garw. Ond roedd rhannu Mam a Dad gyda’r plant bach eraill hyn yn eithaf anodd. Dros amser fe wnaethon nhw ddod i arfer â chroesawu plant i’n cartref a bellach maen nhw’n eu hystyried eu hunain yn frodyr a chwiorydd i’r plant rydyn ni’n eu meithrin yn hirdymor. Yn 21 a 23, maen nhw’n oedolion ac wedi dod yn gefnogaeth fawr i ni, yn ymarferol ac yn emosiynol.
Cyfeillgarwch
Yn olaf, y ffrindiau rydyn ni wedi’u gwneud ar hyd y ffordd. Y gofalwyr maeth eraill rydyn ni wedi cwrdd â nhw. Mae’r perthnasoedd hyn yn amhrisiadwy. Mae gennym grŵp sgwrsio lle gallwn gael ychydig o hwyl neu geisio cefnogaeth a chyngor pan fo angen. Rydyn ni’n cwrdd unwaith y mis ac yn mwynhau’r cyfeillgarwch yn fawr iawn!
Mae maethu yn waith unigryw a gwerth chweil ond heb rwydwaith cymorth o ffrindiau a gweithwyr proffesiynol, byddai’n fwy heriol o lawer.