blog

maethu: chwalu’r mythau, un stori ar y tro

Mae yna lawer o fythau allan yna ynglŷn â phwy all a phwy na all faethu, ac maen nhw’n atal llawer gormod o bobl rhag cymryd y cam cyntaf. Felly, gofynnwyd i ofalwyr maeth go iawn ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin a chwalu’r mythau mwyaf. Boed yn ymwneud ag oedran, statws perthynas, rhentu, gweithio’n llawn amser, neu hyd yn oed cael anifeiliaid anwes, mae’r straeon gonest hyn yn dangos nad oes un math ‘perffaith’ o ofalwr maeth – dim ond pobl sydd ag amser, amynedd, a chalon fawr. Sgroliwch i lawr i glywed eu straeon a darganfod sut beth yw maethu mewn gwirionedd.

“mae’n rhaid i chi fod yn rhan o gwpl i faethu.”

Rwy’n ofalwr maeth benywaidd sengl, ac rydw i wedi bod yn maethu ers dros 20 mlynedd.  Doedd fy mhrif swydd yn ddim byd i’w wneud â gofal plant, er fy mod i’n gweithio’n rhan-amser fel gweithiwr ieuenctid.

Dechreuais feddwl am faethu ar ôl gwrando ar bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a oedd yn dod i’r clwb ieuenctid. Gwnaeth clywed am yr heriau roedden nhw’n eu hwynebu bob dydd, pethau nad oedd yn rhaid i’w cyfoedion feddwl amdanyn nhw, aros gyda mi. Cefais sioc hefyd gyda chyn lleied o bobl oedd eisiau gofalu am bobl ifanc yn eu harddegau. Roedd yn well gan y mwyafrif ofalu am fabanod a phlant iau, sy’n golygu bod llawer o bobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu symud o gwmpas, heb y sefydlogrwydd na’r diogelwch sydd eu hangen arnynt.

Gwnaeth fy lleoliadau cynnar bara unrhyw le o ychydig ddyddiau i ychydig fisoedd, ond dros amser daethon nhw’n llawer hirach. Mae fy nhri lleoliad diwethaf wedi para 2, 8, a 12 mlynedd, ac mae’r bobl ifanc hynny bellach yn rhan fawr o’m teulu.

Nid yw bod yn ofalwr maeth ar eich pen eich hun ddim bob amser yn hawdd, wna i ddim gwadu hynny, ond dydw i byth wedi bod heb gefnogaeth. Mae help, cyngor a chlust i wrando bob amser ar gael, 24/7, trwy’r gwasanaethau cymdeithasol. Rydw i hefyd wedi cael cefnogaeth anhygoel gan fy ffrindiau a’m teulu, sydd wedi bod yno bob cam o’r ffordd.

Does dim rhaid i chi fod mewn cwpl neu’n briod i faethu. Os oes gennych yr amser, yr ymrwymiad a chalon fawr, mae’n fwy na phosibl gwneud hyn ar eich pen eich hun, a gall fod yn un o’r pethau mwyaf gwerth chweil i chi ei wneud erioed.

Elaine – Gofalwr Maeth Wrecsam

“allwch chi ddim maethu os nad ydych chi’n berchen ar eich cartref eich hun.”  

Pan edrychais ar faethu am y tro cyntaf, roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n cael fy ngwrthod ar unwaith gan nad oeddwn i’n berchen ar fy nghartref. Roeddwn i bob amser wedi meddwl bod yn rhaid i chi fod yn berchennog tŷ, ond ro’n i’n anghywir. Rydw i bellach wedi bod yn ofalwr maeth ers ychydig llai na blwyddyn, ac rwy’n rhentu fy nghartref yn breifat.  Y cyfan roedd ei angen arna’ i oedd caniatâd ysgrifenedig gan fy landlord, a oedd yn fwy na hapus i’w roi unwaith iddo ddeall beth roedd maethu yn ei olygu. Ni achosodd unrhyw oedi o gwbl.

A bod yn onest, fe wnes i bron â pheidio gwneud cais oherwydd y myth yna. Rydw i mor falch fy mod i wedi gofyn y cwestiwn yn hytrach na chymryd yn ganiataol. Ers cael fy nghymeradwyo, rydw i eisoes wedi cael y fraint o helpu plant sydd angen rhywun sefydlog a charedig i’w cefnogi. Does dim angen i chi fod yn berchen ar frics a morter i roi hynny, dim ond lle yn eich calon a’ch bywyd.

Felly, pe bai rhywun yn dweud wrtha’ i, “Byddwn i wrth fy modd yn maethu, ond rwy’n rhentu,” byddwn i’n dweud hyn: peidiwch â cholli calon. Dydy rhentu ddim yn rhwystr. Siaradwch â’ch tîm Maeth Cymru lleol a gofynnwch y cwestiwn.  Os yw’ch cartref yn ddiogel, yn groesawgar, a bod gennych gefnogaeth eich landlord, gallwch chi faethu.


Gofalwr Maeth Wrecsam

“rydych chi’n mynd yn rhy agos i’r plant – allwn i ddim eu rhoi nhw ’nôl.”

Yw hi’n anodd pan mae plant yn symud ’mlaen? Sut ydych chi’n rheoli hynny’n emosiynol, a beth sy’n ei wneud yn werth chweil?  – Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth bobl sy’n dweud na fydden nhw’n gallu maethu gan na fydden nhw’n gallu eu rhoi nhw ’nôl?

Pan rwy’n dweud wrth bobl ’mod i’n ofalwr maeth, maen nhw’n aml yn dweud, “Byddwn i wrth fy modd yn maethu ond byddwn i’n mynd yn rhy agos i’r plant, fyddwn i ddim yn gallu eu rhoi nhw ’nôl”.  Ydyn nhw’n meddwl nad ydw i’n datblygu perthynas agos gyda nhw, a’i bod hi’n hawdd i mi eu gweld nhw’n symud ’mlaen?

Rwy’n dweud wrthyn nhw fy mod i’n datblygu perthynas agos gyda’r plant, fy mod i’n eu caru nhw, oherwydd ni fyddai’n deg arnyn nhw fel arall.

Mae angen i blant wybod eu bod nhw’n cael eu caru, bod modd eu caru, ac yna gallan nhw ddysgu i ffurfio cysylltiadau iach yn y dyfodol.

Rwy’n teimlo ar goll ac yn galaru pan mae plentyn yn symud ’mlaen, ond maen nhw’n gadael gan wybod bod rhywun yn eu caru, ac rwy’n gwybod ’mod i wedi gwneud gwahaniaeth.

Felly, beth fyddwn i’n ei ddweud wrth rywun sy’n dweud na allen nhw faethu gan y bydden nhw’n dod yn rhy agos i’r plant?
Byddwn i’n dweud, dyna’r pwynt.  Rydych chi i fod i ddatblygu perthynas agos gyda nhw. Rydych chi i fod i boeni. Nid gwarchod eich teimladau eich hun yw’r pwynt, ond rhoi beth sydd ei angen ar blentyn iddo, hyd yn oed am gyfnod byr.

Jo – Gofalwr Maeth Wrecsam

“dwi’n rhy hen i faethu.”

A wnaethoch chi boeni am eich oedran o gwbl wrth wneud cais? A yw wedi eich helpu chi mewn ffyrdd nad oeddech chi’n eu disgwyl?

Mae ein profiad fel gofalwyr maeth wedi bod yn un anhygoel. Rydyn ni bob amser wedi mwynhau bod o gwmpas plant ac wedi ystyried maethu ers blynyddoedd lawer. Pan oeddwn i’n 59, roedd yr amser o’r diwedd yn teimlo’n iawn.  Ar ôl i ni gael ein derbyn, roedden ni mor gyffrous yn aros am ein lleoliad cyntaf.

Pan ddaeth yr amser, cyrhaeddodd gweithwyr cymdeithasol gyda’r babi bach ’ma mewn sedd car, yn gwenu arnom ni. Doeddwn i ddim yn gallu tynnu fy llygaid oddi arno.  Roeddwn i’n iawn nes i mi gau’r drws ar ôl i’r gweithwyr cymdeithasol adael – yna dechreuodd y nerfau.  Rwy’n cofio dweud wrth Neil, “Alla i ddim gwneud hyn,” ac atebodd, “Wrth gwrs y galli di.” Ar y funud honno roedd y babi’n crio, felly fe wnes i ei godi, rhoi cwtsh iddo, ac fe wenodd arna’ i. O hynny ymlaen, diflannodd fy nerfau – a syrthiais mewn cariad â maethu.

Y noson honno fe roddon ni ei botel iddo, ei gwtsio, a’i baratoi ar gyfer y gwely. Y bore wedyn, roedden ni’n eistedd ar y soffa ac roedd e yn ei gadair fach, yn canu ‘Chick Chick Chicken, lay a little egg for me.’ Edrychon ni ar ein gilydd a chwerthin – a phan edrychon ni i lawr, roedd e’n gwenu eto. Roeddwn i’n gwybod bryd hynny bod maethu yn mynd i fod yn rhywbeth arbennig iawn.  Yn bwysicach fyth, roeddwn i’n gwybod ei fod yn mynd i fod yn lle diogel, hapus i’r plant fyddai’n dod aton ni.

Mae gennym ni atgofion mor hyfryd o’r bachgen bach ’na. Cafodd ei fabwysiadu yn ddiweddarach gan ddau dad anhygoel sy’n ei garu’n fawr. Roedd ffarwelio yn anhygoel o anodd, ond roedd gwybod y byddai’n cael bywyd gwych yn helpu cymaint.  Rydyn ni’n dal i gwrdd â nhw tua thair gwaith y flwyddyn, ac rydyn ni bob amser yn ddiolchgar iddyn nhw am gadw mewn cysylltiad.

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n maethu bachgen bach sydd wedi profi llawer o drawma.  Pan gyrhaeddodd, roedd yn ddiemosiwn ac yn ymddangos yn gwbl gaeedig. Roedd rhai heriau, yn enwedig pan roedd diwrnodau allan yn dod i ben, gan nad oedd yn gwybod sut i ymdopi pan roedd rhywbeth hwyl yn dod i ben. Ond ychydig wythnosau’n ddiweddarach, rhoddodd y wên leiaf i ni, ac roedd yn meddwl y byd. Yn ddiweddarach, dywedodd wrthym ei fod yn ein caru ni – a fyddwn ni byth yn anghofio’r foment honno.

Nawr, flwyddyn yn ddiweddarach, mae’n llawn bywyd.  Mae’n hyderus, hapus, caredig, cariadus, ac mae ganddo wên fawr a allai oleuo unrhyw ystafell. Rydyn ni’n ei garu’n fawr iawn, ac rydyn ni’n falch o bopeth mae wedi’i gyflawni.

Yn 63 oed, rwy’n bownsio ar y trampolîn ac yn dringo i gopaon y fframiau Chwarae Meddal dim ond i ddod i lawr y sleid fawr – mae’n ymarfer corff gwych ac yn bendant yn eich cadw chi’n ifanc wrth galon!

Gall maethu fod yn emosiynol, weithiau’n heriol, ond dyma’r peth mwyaf gwerth chweil rydyn ni wedi’i wneud erioed.  Dydy oedran ddim wedi ein dal ni ’nôl – ac rydyn ni mor falch na wnaethon ni adael iddo ein stopio.

Carole – Gofalwr Maeth Wrecsam

“mae plant mewn gofal yn ymddwyn yn wael.” 

Beth ydych chi wedi’i ddysgu am y plant rydych chi’n gofalu amdanyn nhw?  Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n nerfus am ymddygiad?

Fel gofalwyr maeth, rydyn ni wedi croesawu llawer o bobl ifanc i’n cartref ac wedi gofalu amdanyn nhw fel rhan o’n teulu. Un peth sydd bob amser yn fy synnu yw eu gallu i ymddiried ynom ni ac ymdopi â newid mor enfawr. Rydyn ni’n aml yn ceisio dychmygu pa mor fawr yw’r fath brofiad – ac mae’n ein hatgoffa i ddechrau drwy adeiladu sylfaen newydd ar gyfer pob plentyn.

Mae pob plentyn yn unigryw, ac maen nhw i gyd yn prosesu eu profiadau mewn ffyrdd gwahanol. Pan fyddwn ni’n gweld ymddygiadau sy’n dangos bod plentyn heb setlo, yn ansicr neu’n cael trafferth, rydyn ni wedi dysgu i stopio a gofyn i ni’n hunain: “Beth sy’n gyrru’r ymddygiad hwn?” Anaml y mae’n ymwneud â’r ymddygiad ei hun – fel arfer mae’n arwydd bod rhywbeth dyfnach yn digwydd. Mae’r newid hwnnw yn ein meddwl yn ein helpu i ddeall o le maen nhw’n dod a sut y gallai eu trawma yn y gorffennol fod yn effeithio arnyn nhw heddiw.

Dydy’r atebion ddim bob amser yn dod ar unwaith, ond gydag amser, amynedd a chefnogaeth ein Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol, ynghyd â’r hyfforddiant a’r adnoddau sydd ar gael, rydyn ni’n gallu dod o hyd i ffyrdd o gefnogi pob plentyn yn y ffordd orau iddo.

Mae maethu yn bendant wedi newid sut rydyn ni’n rhianta – ond dim ond er gwell. Rydyn ni’n fwy meddylgar, yn cymryd mwy o amser, ac yn ceisio ymateb gyda dealltwriaeth yn hytrach nag ymateb yn y foment.  Ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth go iawn – i ni, ac i’r plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw.

Lynne – Gofalwr Maeth Wrecsam

“mae’n rhaid i chi fod yn rhiant neu gael profiad o fagu plant.”

Mae hwn yn fyth roedden ni bob amser wedi’i gredu, ond allai ddim fod ymhellach o’r gwir. Yn gyntaf oll, y cyfan sydd ei angen arnoch yw’r gallu i ofalu am blant a’u meithrin trwy eich profiadau eich hun, yn ogystal â dysgu sgiliau newydd ar hyd y ffordd.  Dyma’r un profiadau ag y byddai unrhyw riant yn eu cael gyda’u plant eu hunain, sy’n dangos, hyd yn oed pan mae gennych chi eich plant geni eich hun, byddech chi wedi dod yn rhiant am y tro cyntaf ar ryw adeg a gorfod delio â’r daith.

Wrth faethu, mae gennych chi fynediad at amrywiaeth eang o gefnogaeth, hyfforddiant ac adnoddau i’ch cefnogi o’r diwrnod cyntaf pan fyddwch chi’n gwneud ymholiad, sy’n sicrhau bod gennych chi’r offer perthnasol i ddangos esiampl gadarnhaol i’r plentyn. Rydyn ni wedi bod yn ffodus i weithio mewn rolau gofal plant ac addysgu amrywiol, sydd wedi ein galluogi i ddefnyddio ystod eang o brofiadau wrth fagu plant mewn gofal. Yn ogystal â hyn, mae cael hyfforddiant rheolaidd a chyfredol ochr yn ochr â’n rolau gwaith yn golygu y gallwn ni ddysgu a datblygu trwy ein datblygiad proffesiynol a phersonol.

Yn gyffredinol, er nad oes gennym blant ein hunain, rydyn ni wedi gallu addasu a dysgu technegau rhianta newydd, sy’n unigryw i’r plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw. Rydyn ni’n credu’n gryf mewn dull profi a methu, ac yn derbyn nad ydyn ni’n gwybod popeth a bod gwneud camgymeriadau’n rhan o’r broses ddysgu.

Carla a Alex – Gofalwr Maeth Wrecsam

“allwch chi ddim maethu os ydych chi’n gweithio’n llawn amser.” 

Dyw hyn ddim yn wir chwaith. Dwi’n gweithio’n llawn amser. Mae’n rhaid i chi fod yn hyblyg, oes. Rwy’n gweithio oriau ysgol sy’n ddefnyddiol iawn a hefyd yn cael y gwyliau ysgol i ffwrdd sy’n help mawr iawn. Ar hyn o bryd mae gen i un fach ac rydyn ni’n cael cyllid enfys i ariannu ei ffioedd meithrin fel ei bod hi’n gallu parhau i fynd i’r feithrinfa yr oedd hi’n ei mynychu cyn iddi ddod ataf i. Dwi’n lwcus iawn ac mae fy ngwaith yn fy nghefnogi felly mae’n gweithio’n dda gyda maethu. Os yw plentyn yn sâl, byddwn i’n cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith yn union fel y byddwn i gyda fy mhlant fy hun. Mae fy ngwaith yn gefnogol iawn. Dwi hefyd yn cael 5 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol gan fy mod i’n gweithio i’r ALl sy’n helpu gyda chyrsiau neu gyfarfodydd, neu os yw plentyn yn sâl.

Louise – Gofalwr Maeth Wrecsam

“mae pobl ond yn maethu am yr arian.”

Mae pobl ond yn maethu am yr arian” – Ymateb Janet a Colin

Fel gofalwyr maeth, galla’ i a Janet ddweud yn onest nad ydyn ni’n gwneud hyn am yr arian. Rydyn ni wrth ein bodd yn maethu – mae’n dod â chymaint o lawenydd, hapusrwydd a boddhad personol i ni weld bod y plant yn ein gofal yn ddiogel, wedi setlo, ac yn barod ar gyfer y bennod nesaf yn eu bywydau.

Rydyn ni wedi clywed pobl yn dweud, “Mae gofalwyr maeth ond yn gwneud hynny am yr arian,” ond allai hynny ddim fod ymhellach o’r gwir i ni. Rydyn ni’n falch o beth rydyn ni’n ei wneud a’r gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud. P’un a yw plentyn yn symud ’mlaen i fabwysiadu neu’n dychwelyd at ei deulu geni, rydyn ni’n teimlo ymdeimlad enfawr o falchder o wybod ein bod ni wedi helpu i roi’r dechrau gorau posibl iddyn nhw. Ar yr achlysuron lle mae plant wedi dychwelyd at eu rhieni geni, rydyn ni wedi derbyn negeseuon hyfryd o ddiolch – ac mae’r gydnabyddiaeth honno yn meddwl y byd.

Ydyn, mae gofalwyr maeth yn cael eu talu – ond i ni, mae’r gwobrau emosiynol yn llawer mwy nag unrhyw beth ariannol. Rydyn ni wir yn credu, hyd yn oed heb yr arian, y bydden ni’n dal i eisiau gwneud hyn. Mae maethu’n ymwneud â meithrin a diogelu plant, a’u helpu i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae hefyd yn bwysig dweud nad yw maethu bob amser yn hawdd – mae’n cymryd amser, egni a llawer o fuddsoddiad emosiynol.  Rydych chi’n mynd trwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, ac mae’n gallu bod yn anodd iawn pan mae plentyn yn symud ’mlaen. Ond mae’r perthnasau rydych chi’n eu hadeiladu a’r effaith rydych chi’n ei gael yn gwneud y cyfan yn werth chweil.

Ar ddiwedd y dydd, y wobr fwyaf yw gwybod eich bod wedi helpu plentyn i deimlo cariad, diogelwch, a gobaith am y dyfodol.

Janet a Colin, Gofalwyr Maeth Wrecsam

“mae gofalwyr maeth yn cael eu gadael i fwrw ati ar eu pen eu hunain, does dim cefnogaeth”

Beth fyddwn i’n ei ddweud wrth rywun sy’n meddwl nad ydyn nhw’n gallu maethu gan nad oes cefnogaeth?

Byddwn i’n dweud mai nid dyna fy mhrofiad i, yn sicr. Mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael fel gofalwr maeth wedi bod yn ardderchog. Ysgrifennais lythyr at y gweithiwr cymdeithasol a wnaeth ein hasesu ni i ddiolch iddi am ei holl arweiniad trwy gydol y broses. Pan ddarllenais i’r llythyr hwnnw i Holly, gweithiwr cymdeithasol fy nwy ferch, es i’n emosiynol oherwydd sylweddolais pa mor bell rydyn ni wedi dod ers i’r ddwy ferch ymuno â’n teulu gyntaf.

Rydyn ni’n trin y merched fel ein merched ein hunain, gan ddarparu’r ffiniau, y ddisgyblaeth a’r gofal sydd eu hangen arnyn nhw. Mae’r ddwy ohonyn nhw’n blant anhygoel sydd wir wedi tyfu a ffynnu.

Mae’r cwrs ymlyniad gyda Gweithredu Dros Blant wedi fy helpu i ddeall eu hanghenion yn well. Fe wnes i hyd yn oed gysylltu ag un o’r hyfforddwyr am gyngor unwaith, a gwnaeth hi fy ffonio’n ôl ar unwaith, a wnaeth wahaniaeth gwirioneddol.

Mae ein swyddog adolygu annibynnol wedi bod yn gefn i ni hefyd – dydw i wir ddim yn credu y bydden ni ble rydyn ni hebddi. Mae cyswllt rheolaidd â’r tîm maethu hefyd yn golygu nad ydyn ni byth yn teimlo’n unig, hyd yn oed pan mae pethau’n mynd yn anodd.

Mae cefnogaeth gan ofalwyr maeth eraill wedi bod yn amhrisiadwy hefyd.  Rydyn ni wedi datblygu cyfeillgarwch cryf gyda’r gofalwr a oedd yn gofalu am frawd y merched cyn iddyn nhw ddod i fyw gyda ni, ac mae’r cysylltiad hwnnw wedi bod yn ddefnyddiol iawn.

Mae blwyddyn wedi pasio bellach, ac mae ein taith gyda’r ddwy chwaer yn parhau. Maen nhw’n haeddu’r gorau, ac rwy’n teimlo ’mod i’n cael fy nghefnogi bob cam o’r ffordd.

Sharon – Gofalwr Maeth Wrecsam

“alla i ddim maethu gan fod gen i anifail anwes”

Sut mae eich anifeiliaid/anifail anwes wedi eich helpu yn eich rôl fel gofalwr maeth / helpu plant i setlo ac ati.

Rydw i wedi bod yn maethu ers dros 10 mlynedd bellach, a galla’ i ddweud gyda’m llaw ar fy nghalon mai un o’r pethau sydd wedi helpu fwyaf yn ein cartref yw ein ci, Mabel. Mae hi’n enaid addfwyn gyda chlustiau mawr a llygaid mwy fyth, a rhywsut mae hi’n gwybod pan mae angen cysur ar blentyn. Rydyn ni wedi cael plant yn cyrraedd yn teimlo’n bryderus, wedi mynd i’w cragen yn llwyr, ond byddan nhw’n aml yn estyn allan i fwytho Mabel cyn iddyn nhw ddweud gair wrthym ni. Mae fel ei bod hi’n rhoi caniatâd iddyn nhw anadlu.  Dywedodd un bachgen bach, “Mae hi’n teimlo fel adre.” Dydy Mabel ddim yn barnu, dydy hi ddim yn gofyn cwestiynau – mae hi yno, yn cynnig cynhesrwydd a thawelwch pan mae’r byd yn teimlo ben i waered. Dros y blynyddoedd, mae hi wedi helpu plant i chwerthin eto, eu hannog i fynd allan am dro, a hyd yn oed eistedd yn dawel wrth eu hymyl pan mae angen lle arnyn nhw.

Felly, beth fyddwn i’n ei ddweud wrth rywun sydd eisiau maethu ond sy’n meddwl nad ydyn nhw’n gallu gwneud hynny gan fod ganddyn nhw anifeiliaid anwes?

Peidiwch â gadael i hynny eich stopio chi.  Gall anifeiliaid anwes, yn enwedig rhai tawel, cyfeillgar, fod yn help enfawr.  Wrth gwrs, dydy pob plentyn ddim wedi arfer ag anifeiliaid, a byddech chi bob amser yn cael arweiniad ar anghenion plentyn penodol. Ond o’m profiad i, mae ein ci wedi chwarae rhan fawr wrth helpu plant i setlo, adeiladu ymddiriedaeth, a theimlo’n ddiogel. Dydy cael anifeiliaid anwes ddim yn eich atal rhag maethu, gallai fod yn un o’ch cryfderau pennaf.

Gofalwr Maeth Wrecsam

“alla i ddim maethu, mae fy mhlant i’n dal i fyw gartref”

Pan ddechreuon ni faethu, roedd ein plant ni’n rhan fawr o’r daith. Ar y pryd roedden nhw’n 6 ac 8.  Roedden ni ychydig yn bryderus am yr effaith arnyn nhw, ond doedd dim angen i ni boeni. 

Fe dreulion ni lawer o amser yn siarad ac yn eu paratoi nhw cyn i’n plentyn maeth cyntaf gyrraedd. Ychydig wydden ni, roedd hi’n ffit perffaith i’n teulu ni ac yn chwaer wych i’n dau blentyn ni!

Pan wnaethon nhw gyfarfod gyntaf, cymerodd ein plant ni yr awenau! Fe aethon nhw â hi o gwmpas y tŷ a threulio llawer o amser yn cael gwahanol deganau a gemau allan! Roedd y cyfan yn gyffrous iawn! 

Mae wedi bod yn ddwy flynedd a hanner ers iddi symud i mewn ac rwy’n credu y byddai ein plant ni’n ei chael hi’n anodd cofio bywyd hebddi! 

Yn ogystal â chael plentyn am yr hirdymor, rydyn ni hefyd wedi gwneud rhywfaint o faethu brys a seibiant. Gall hyn fod yn annisgwyl, a’n taflu ni allan o drefn. Er gwaethaf hyn, maen nhw’n addasu’n dda iawn, bob amser eisiau helpu a gwneud i unrhyw blentyn deimlo’n gyfforddus.  Mae’n anhygoel sut y gall plant ifanc fod mor ofalgar a derbyngar pan mae aelod newydd o’r teulu’n symud i mewn yn sydyn, yn y byrdymor neu hirdymor.

Mae maethu gyda’ch plant biolegol gartref nid yn unig yn bosibl, mae’n anhygoel o werth chweil. Mae ein plant eisoes wedi dysgu llawer o wersi bywyd pwerus fel tosturi, gwytnwch ac empathi.  Rydyn ni’n hynod falch ohonyn nhw ond hefyd yn teimlo’n ffodus iawn i fod wedi gwylio ein teulu’n tyfu mewn ffordd mor gadarnhaol.

Fydden ni ddim yn bod yn hollol onest yn dweud bod maethu gyda phlant biolegol yn hollol hawdd! Wrth gwrs, mae ’na heriau logistaidd ac emosiynol. Mae llawer o’n hamser yn cael ei dreulio’n jyglo gwahanol bethau a bod yn wasanaeth tacsi! Mae’r plant ar adegau’n anghytuno a dadlau. Fodd bynnag, rydyn ni wedi dod i sylweddoli bod hyn mewn gwirionedd yn ganlyniad cadarnhaol. Mae’r bond agos maen nhw wedi’i ffurfio yn golygu eu bod nhw’n gallu gwneud hyn a datrys yr anghytuno fel brodyr a chwiorydd. 

Un dull sydd wedi bod yn llwyddiannus i ni yw rhoi amser unigol i bob plentyn lle mae hynny’n bosibl. Gall hyn fod mor syml â mynd ag un plentyn i dorri ei wallt ar ei ben ei hun, neu fynd i gaffi am siocled poeth. Mae’r amser gwerthfawr gyda’ch gilydd yn arbennig iawn ond hefyd yn rhoi amser i siarad am unrhyw bryderon neu straen.

Mae bywyd teuluol a maethu yn brysur! Gall cydbwyso anghenion yr holl blant fod yn her. Fodd bynnag, rydyn ni’n ddiolchgar i’n plant am fod yn rhan mor bwysig o’n tîm! Gyda’n gilydd gallwn ni greu effaith barhaol, goresgyn yr heriau a gweld y gwobrau fel teulu. 

Mel a Oli – Gofalwyr Maeth Wrecsam

“alla i ddim maethu gan fy mod i’n aelod o’r gymuned LHDTC+”

Mae Mis Balchder yn gyfle i ddathlu’r diwylliant a’r gymuned LHDTCARh+. 

Mae Mis Balchder yn amser pwysig i ystyried sut mae’r ymgyrchwyr cynnar hynny dros hawliau LHDTCA+ (dros 50 mlynedd yn ôl) wedi gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i’n bywydau ni – gan ein galluogi i briodi a dod yn ofalwyr maeth heb unrhyw her, a allai fod wedi teimlo’n amhosibl o’r blaen.

Gallwn ni fod yn deulu, heb unrhyw feirniadu neu ragfarn.

Gall teuluoedd gael deinameg amrywiol, ond mae lle i gariad, meithrin a chefnogaeth bob amser.

Rydyn ni’n teimlo’n angerddol am gofleidio amrywiaeth wrth faethu. Yn wir, po fwyaf rydych chi’n deall amrywiaeth, y mwyaf parod fyddwch chi i ofalu am eraill. 

Does dim rhwystrau LHDTCA+ i faethu. 

Cyn belled â’ch bod chi’n gallu caru, meithrin a chefnogi, gallwch chi helpu cymaint o blant a phobl ifanc sydd angen y pethau syml hyn.

Kate a Lisa – Gofalwyr Maeth Wrecsam

“alla i ddim maethu, mae gen i gyflwr meddygol”

 Roedd Lyndsay a fi wedi bod yn ystyried maethu ers tro. Pan symudon ni i Wrecsam a gweld bod gennym ni ystafell wely sbâr, penderfynon ni ystyried y peth o ddifrif. Roeddwn i yn fy 50au ac mae gen i ddiabetes, felly roeddwn i’n poeni y gallai fy oedran a’m hiechyd fod yn broblem. Ond ar ôl asesiad a gwiriadau meddygol, cawson ni ein derbyn fel gofalwyr maeth. Doedd fy niabetes a’m hoedran ddim yn rhwystrau – y cyfan yr oedd ei angen arnom ni oedd bocs i gloi fy meddyginiaeth ynddo. Roedd y broses yn syml.

 Yn fuan wedyn, cawson ni ein paru â bachgen 9 oed. Roedden ni’n nerfus ond yn llawn cyffro.  Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae wedi dod yn chweched plentyn, ochr yn ochr â’n pum merch sydd wastad wedi bod eisiau brawd. Maen nhw’n ei drin fel aelod o’r teulu, ac mae bellach yn ewythr i naw o blant. Mae ei wylio’n tyfu’n ddyn ifanc gofalgar wedi bod yn bleser. 

Nid yw bob amser wedi bod yn hawdd, o ystyried ei heriau o’r gorffennol, ond mae’n gwybod mai dyma ei gartref am byth. Rydyn ni’n mynd ar wyliau teuluol ddwywaith y flwyddyn, ac yn ddiweddar gofynnodd am yr ystafell sbâr fwy – dyna faint mae’n teimlo’n rhan o’r teulu. 

Ers hynny, rydyn ni wedi croesawu plentyn maeth hirdymor arall, gan wneud cyfanswm o saith o blant. Maen nhw fel un teulu mawr, ac mae eu gweld nhw’n hapus yn hynod werth chweil. 

Dydy fy niabetes i ddim wedi effeithio ar fy ngallu i faethu. Os rhywbeth, mae’n ein helpu i gadw cartref iach gyda llai o siwgr, sydd o fudd i iechyd pawb. 

Mae maethu wir wedi bod un o’r pethau mwyaf gwerth chweil i mi ei wneud erioed.

 Lee – Gofalwr Maeth Wrecsam 

“does dim cymorth ariannol”

Fel gofalwyr maeth gyda dros 20 mlynedd o brofiad, gallwn ni ddweud yn onest fod y cymorth ariannol wedi gwella llawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae taliadau bellach ar waith i gydnabod gwasanaeth hir, ynghyd â gostyngiad o 75% yn y Dreth Gyngor, sy’n help mawr. Rydyn ni hefyd yn derbyn lwfansau ychwanegol fesul plentyn i’r bobl ifanc rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw i helpu i dalu’r costau ychwanegol o amgylch y Nadolig a phenblwyddi sy’n gwneud gwahaniaeth mawr ar adegau drutach o’r flwyddyn.

Newid pwysig arall oedd y taliad “sgiliau”. Mae hwn ar wahân i’r lwfans rydych chi’n ei gael ar gyfer pob person ifanc (sy’n dibynnu ar eu hoedran), ac mae yno i gydnabod eich datblygiad a’ch ymrwymiad fel gofalwr. Os ydych chi’n cwblhau’r hyfforddiant gorfodol, cymerwch ran mewn dysgu ychwanegol, ewch i grwpiau cymorth a daliwch ati i gymryd rhan – gallwch chi ddod yn gymwys ar gyfer y band sgiliau “canolradd”, sy’n golygu eich bod chi’n cael taliad sgiliau ychwanegol am bob plentyn neu berson ifanc rydych chi’n gofalu amdano.

Dydyn ni ddim yn dweud bod maethu’n mynd i’ch gwneud chi’n gyfoethog, nid dyna’r pwynt.  Ond ni ddylai eich gadael yn brin o arian chwaith, a diolch byth, nid dyna’r achos. Gyda’r gefnogaeth sydd bellach ar waith, gallwch chi faethu heb boeni am gael eich ymestyn yn ariannol, a dyna’n union sut y dylai pethau fod.

Gofalwyr Maeth Wrecsam

wedi’ch ysbrydoli i ddarganfod mwy?

Os ydych chi wedi cyrraedd diwedd y blog hwn — diolch. Gobeithiwn fod y straeon gonest hyn wedi helpu i glirio rhai o’r mythau cyffredin am faethu, ac wedi dangos nad oes dim byd tebyg i ofalwr maeth “perffaith”.

Yr hyn sydd bwysicaf yw eich parodrwydd i ofalu, i ddysgu, ac i fod yno i blentyn pan fydd ei angen fwyaf ar rywun.

Os ydych chi wedi meddwl am faethu, hyd yn oed unwaith yn unig, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Dim pwysau, dim ymrwymiad, dim ond sgwrs gyfeillgar i archwilio a allai fod yn iawn i chi. Cysylltwch â’ch tîm Maethu Cymru lleol heddiw.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A waterfall in Wrexham

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.