cefnogaeth a chyngor
Gydol y drefn ymgeisio, fe gawson ni ein cefnogi a’n hannog ar hyd ein taith at fod yn ofalwyr maeth. Er ei bod hi’n her gwneud yr hyfforddiant angenrheidiol ar yr un pryd â gweithio’n llawn amser, fe wnaethon ni ymdopi â’r drefn drwy ddyfalbarhad.
Ar ôl cael ein cymeradwyo fe gawson ni weithiwr cymdeithasol penodol i’n goruchwylio, sydd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau. Er nad oes angen cefnogaeth arnon ni bob dydd, mae’n braf gwybod fod rhywun wrth law os oes angen.
Caiff llawer o ddigwyddiadau arbennig eu trefnu i blant mewn gofal maeth ar wahanol adegau o’r flwyddyn, fel arfer yn Erddig yn Wrecsam, sy’n gyfleus inni. Mae’r digwyddiadau hynny’n cynnwys helfa wyau Pasg, picnic yn yr haf ac Ogof Siôn Corn lle mae’r plant a’u gofalwyr yn cael mwynhau hufen iâ a chŵn poeth! Mae’r digwyddiadau’n gyfle gwych i gwrdd â gofalwyr maeth eraill ac i’r plant chwarae â’u cyfoedion.
Cynhelir cyfarfodydd bob mis hefyd yn yr Hwb Lles yn Wrecsam, lle mae gofalwyr maeth yn gallu dod ynghyd i gael sgwrs. Bu’n her inni fynd i’r cyfarfodydd hynny, yn anffodus, gan eu bod nhw’n digwydd ar ddiwrnodau o’r wythnos. Gan ein bod ni’n gweithio, mae’n rhaid inni ddefnyddio ein hamser hamdden i fodloni anghenion y merched, gan gynnwys mynd i apwyntiadau yn yr ysbyty a’r feddygfa, ymdrin â’u hanghenion yn yr ysgol a mynd i’r afael â phroblemau annisgwyl sy’n codi.
Wrth edrych i’r dyfodol, rydyn ni’n bwriadu ffurfio grŵp cymorth i ofalwyr maeth sy’n gweithio, a fyddai’n cwrdd ar y penwythnos neu gyda’r nos. Credwn y bydd hynny’n helpu i annog mwy o bobl sy’n gweithio i feddwl am faethu gyda Maethu Cymru Wrecsam.
ein profiad cyntaf o faethu
Wedi i’r panel ein cymeradwyo ym mis Hydref 2023, fe gawson ni ambell i drafodaeth â’r tîm maethu ynglŷn â phlant oedd yn chwilio am gartrefi maeth addas, ond doedden ni byth yn teimlo dan unrhyw bwysau i ofalu am unrhyw blant os nad oedden ni’n teimlo eu bod nhw’n gweddu inni, neu os na fyddai’r lleoliad yn gweithio am resymau ymarferol. Er ein bod ni’n siomedig nad oedden ni’n gallu gofalu am rai o’r plant, dyna oedd orau iddyn nhw hefyd.
Roedd hefyd yn gam ymlaen wrth ffurfio perthynas â thîm Maethu Cymru Wrecsam, a sicrhaodd eu bod nhw’n adnabod y plant mwyaf addas er mwyn cyflawni gwell canlyniadau i bawb.
Pan gawson ni alwad i ofalu am ddwy chwaer a darllen drwy’r gwaith papur, roedd yn teimlo’n ddelfrydol inni. Wrth gwrs, tydi pethau ddim bob amser yn digwydd fel y maen nhw ar bapur, ond roedd gennym ryw deimlad y byddai pethau’n gweithio’n dda inni, ac iddyn nhw hefyd. Fe drefnon ni gyfnod byr iddyn nhw bontio o’u gofalwyr maeth blaenorol atom ni, pan fu’r merched yn ymweld â ni unwaith neu ddwy i gael gwybod mwy amdanon ni, ac i ninnau wybod mwy amdanyn nhw.
Aeth yr ymweliad cyntaf yn dda, fe ddysgon ni am hoff a chas bethau’r merched ac erbyn y diwedd, gofynnodd y ddwy ohonynt am gael aros i gael te, ac aros dros nos y tro nesaf! Erbyn iddyn nhw fynd adref, roedd yno gysylltiad wedi datblygu rhyngddo ni’n barod. Aeth yr ail ymweliad yn llawn cystal ac fe arhosodd y merched dros nos, ac wedyn fe aethon ni â nhw i’r ysgol fore drannoeth.
Roedden ni’n eithaf nerfus y troeon cyntaf inni gwrdd â’r merched, yn meddwl am eu hoff a chas bethau, a fydden nhw’n hoff o’r tŷ, eu hystafelloedd gwely a’r cathod. Poeni am ryw bethau bach felly, ac a fydden nhw’n hoff ohonon ni fel pobl.
Fe wnaethon ni’n siŵr ein bod ni’n coginio eu hoff fwyd i’w helpu i setlo, ac roedd Alex wrth ei fodd ein bod ni’n cael pizza, sglodion, nygets cyw iâr a chyri, achos dyna’u hoff bethau yntau! Fe chwaraeon ni lwyth o gemau bwrdd a sôn am ein bywydau ni, a’u bywydau nhw. Roedd y rhain yn sgyrsiau naturiol ac yn ffordd o ddod i adnabod ein gilydd yn well.
Pan gawson ni ein cymeradwyo gan y panel, doedd gennym ddim syniad beth fyddai oedran y plant a fyddai’n byw â ni, fell roedd yr ystafelloedd gwely’n ddigon syml. Bu’n rhaid inni addasu ambell i beth, fel troi swyddfa Carla’n ystafell wely a dod o hyd i fwy o le i’r holl deganau!
Fe wnaethon ni’n siŵr bod y merched yn deall y byddai ganddynt eu hystafelloedd gwely eu hunain ac y gallent eu haddurno fel y dymunant, i’w helpu i setlo i mewn.
Mae’n sefyllfa ryfedd os meddyliwch chi am y peth, cael dau blentyn bach yn eich cartref nad ydych chi’n gwybod dim amdanynt, a’u helpu i setlo mewn cartref newydd a allai fod yn hollol wahanol i ble’r oeddent yn byw o’r blaen.
Mae’r merched wedi setlo i mewn yn berffaith yn ein bywyd teuluol ni, ac mae’n bleser cael dwy ferch mor fyrlymus sydd eisiau treulio amser â ni.
bywyd beunyddiol
Anghofiwn ni fyth y nosweithiau cyntaf y bu’r merched yn byw â ni. Fe newidiodd ein trefn ddydd a nos ar unwaith ac fe gymerodd amser inni ddod i arfer â hynny, hyd yn oed pethau bach syml. Roedd hi’n dipyn o beth inni godi i fynd i frwsio’n dannedd ac ati pan oedd y merched wedi mynd i’w gwlâu. Oedden hi’n syniad da inni frwsio’n dannedd i fyny’r grisiau, ddylen ni beidio â fflysio’r toiled rhag ofn inni eu deffro nhw? Fe fydden ni’n cerdded ar flaenau’n traed i fyny’r grisiau ac yn camu dros ddarnau gwichlyd o’r llawr. Ar ôl inni sylweddoli bod y ddwy o’r merched yn cysgu fel tyrchod a bod synau arferol yn y tŷ ddim yn eu deffro nhw, roedd modd inni ymlacio ac roedd pethau’n fwy cyfforddus.
Mae’r merched wedi bod yn byw â ni ers tro bellach ac wedi setlo i mewn, rydyn ni’n ffodus o gael uned deuluol gadarn. Yn ystod yr wythnos, mae’r merched yn mynd i’r ysgol ac yn mynd i glybiau gyda’r nos. Maen nhw wedi rhoi cynnig ar amryw glybiau ers iddyn nhw fod yn byw â ni, ond maen nhw wedi setlo ar nofio, taekwondo, drama a phêl-droed. Ar y penwythnos, fe fyddwn ni’n aml yn mynd allan ar grwydr fel teulu i leoedd nad yw’r merched wedi bod iddynt o’r blaen, ac maen nhw’n cymryd rhan yn rhai o’n hobïau ni hefyd. Mae Alex yn gwirioni ar bêl-droed a gwylio Wrecsam yn chwarae, ac mae’r ferch hynaf yn mynd ag Alex i weld gemau’n aml. Mae meithrin perthynas ar sail ein hobïau ni wedi’u hannog i roi cynnig ar y pethau’r ydyn ni’n frwdfrydig amdanynt a’u rhannu â ni.
Rydyn ni wedi dysgu mor bwysig ydi dilyn trefn, rhywbeth nad oedden ni’n ei wneud ryw lawer cyn dod yn ofalwyr maeth. Mae wedi bod o fudd aruthrol inni, wedi ein helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig a rhoi hwb i’n lles. Bu’n bwysig hefyd gallu rhannu diddordebau’r merched. Cyn inni faethu, fydden ni heb feddwl am wneud taekwondo ond rŵan, rydyn ni’n gallu rhannu hynny â’r merched a dysgu technegau newydd ar yr un pryd â nhw.
Mae’r ddau ohonon ni’n ffodus o gael swyddi hyblyg cyn dechrau maethu, ond mae cael y merched yn byw â ni’n golygu bod yn rhaid inni ddygymod ag amryw sefyllfaoedd. Mae’n cymryd dipyn o amser i fynd â’r merched i’r ysgol a’u nôl nhw gan fod eu hysgol nhw’n eithaf pell o’n tŷ ni. Bu’n fuddiol bod Alex yn gweithio fel athro llanw, gan y byddai gweithio’n llawn amser wedi bod creu heriau wrth gael amser i fynd i apwyntiadau, diwrnodau mabolgampau, cyfarfodydd ac ati. Rydyn ni’n arbennig o lwcus, serch hynny, gan fod y merched wedi datblygu perthynas dda â rhieni Alex, sy’n aml yn helpu gyda chludo’r plant i’r ysgol ac yn ôl pan mae angen.
Fel y soniais o’r blaen, roedden ni eisiau dal i weithio wrth fod yn ofalwyr maeth, er mwyn dal i ddatblygu ein gyrfaoedd. Mae yna syniad bod llawer o blant mewn gofal maeth yn byw â theuluoedd nad ydynt yn gweithio, am eu bod wedi ymddeol fel arfer. Gan fod y ddau ohonon ni’n gweithio, rydyn ni’n ceisio argyhoeddi’r merched bod modd dygymod â gweithio a gofalu am deulu ar yr un pryd. Mae hynny hefyd yn hyrwyddo’r syniad o deulu ‘normal’ sy’n gweithio, ac mae’r merched yn aml sôn nad oeddent byth wedi cael profiad o hynny o’r blaen ond eu bod yn hoff o’r syniad ein bod ni’n dau’n gweithio’n galed am ein harian.
heriau a buddion
Dychmygwch eich bod chi’n cael eich cyfweld am swydd a’u bod nhw’n dweud “mae pob diwrnod yn wahanol yn y swydd hon”, wel dyna ichi beth ydi maethu. Y drafferth ydi, tydi’r rhan fwyaf o ofalwyr maeth a phlant mewn gofal ddim eisiau i bob diwrnod fod yn wahanol, maen nhw eisiau rhyw drefn.
Dyna welon ni yn ystod gwyliau’r haf, bod y merched yn dibynnu ar gael trefn i’w dilyn a rhyw fath o normalrwydd, ac nid oedd hynny’n hawdd bob amser a ninnau ar ein gwyliau. Mae aros ar eu traed yn hwyr a chodi’n hwyr yn y bore wedi bod yn her, gan nad oedden ni’n dilyn trefn gyson bob dydd, ond mae’n bwysig ceisio cadw pethau mor normal â phosib.
Cyn inni faethu, roedden ni’n dau’n hoff o wneud pethau ar fympwy a mynd ar ddiwrnodau allan neu benwythnosau i ffwrdd heb gynllunio dim byd, felly mae hi wedi bod yn her. Rydyn ni’n dal yn gallu mynd am ddiwrnodau allan a phenwythnosau i ffwrdd, ond mae’n rhaid inni gynllunio pethau’n well a siarad â’r merched am y manylion, rhag ofn eu bod nhw’n ansicr am rywbeth.
Rydyn ni’n ffodus iawn o gael ein gilydd i godi’n calonnau a chadw ffydd ar yr adegau mwy heriol. Mae gan Alex ei hobïau fel mynd i wylio pêl-droed, ac mae hynny’n rhoi amser iddo ymlacio. Mae Carla’n ddarllenwr brwd ac mae’n hoff o gael amser tawel heb ddim byd i dynnu ei sylw.
Mae cael ein gilydd yn sicr yn ei gwneud yn haws delio â’r heriau, a hefyd yn golygu bod y ddau ohonon ni wrth law i gefnogi’r merched fesul un os oes angen.
O’r adeg y gwnaethon ni’r cais cyntaf i ddechrau paratoi ar gyfer croesawu ein plant maeth cyntaf, rydyn ni wedi dysgu cymaint am gydnerthedd, cydymdeimlad ac mor bwysig yw cael system gref i’ch cefnogi. Os ydi’n stori ni’n taro tant â chi a’ch bod eisiau gwybod mwy am faethu, cysylltwch â Maethu Cymru Wrecsam. Peidiwch â cholli’r rhan olaf o’n stori ni, lle byddwn yn sôn am y llawenydd, heriau ac adegau bythgofiadwy sy’n golygu mai maethu ydi’r profiad mwyaf gwerthfawr a gawson ni erioed.