blog

ein llwybr i ddod yn ofalwyr maeth

cyflwyniad a chefndir

Helo ’na! Alex a Carla ydym ni.  Bu i ni gyfarfod wrth weithio mewn meithrinfa yn Hampshire/Berkshire.  Ar y pryd, roedd Carla yn arwain yr uned fabanod, rôl a chymerodd ar ôl gadael yr ysgol, wedi’i chymell gan ei hangerdd gydol oes am blant.  Yn y cyfamser, roedd Alex yn archwilio rolau amrywiol, o reolwr manwerthu i asiant teithio, cyn newid gyrfa yn gyfan gwbl i weithio mewn meithrinfeydd dydd.

Pan symudom ni i Wrecsam i fod yn agosach at deulu Alex, bu i Alex barhau â’i daith o weithio mewn meithrinfeydd dydd, wrth astudio trwy’r Brifysgol Agored ac yn y pen draw llwyddodd i gwblhau ei hyfforddiant athrawon ym Mhrifysgol Glyndwr.  Llwyddodd Carla i barhau â’i gyrfa mewn gofal plant hefyd, gan ymgymryd â swyddi goruchwyliol yng Ngholeg Cambria ar y ddau safle coleg yng Nglannau Dyfrdwy ac Iâl.

Bellach, mae Carla yn gweithio fel swyddog gofal plant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Yn y rôl hon, mae hi’n helpu lleoliadau gofal plant ar draws y sir drwy sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i ddarparu gofal ardderchog.  Mae hyblygrwydd ei swydd wedi bod yn fanteisiol dros ben i ni fel gofalwyr maeth, gan ei fod yn ei galluogi hi i fynychu cyfarfodydd gyda gweithwyr proffesiynol amrywiol i gefnogi’r genethod yn ein gofal.

Mae Alex hefyd yn mwynhau’r hyblygrwydd yn ei rôl fel athro llanw, lle mae’n gweithio gyda phlant oed cynradd, o’r dosbarth meithrin i flwyddyn 6.  Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu iddo addasu ei amserlen i fod yn bresennol ar gyfer digwyddiadau pwysig fel diwrnodau mabolgampau, seremonïau graddio a dathliadau eraill.  Rydym yn teimlo’n ffodus iawn bod ein rolau nid yn unig yn caniatáu i ni ryngweithio â chymaint o blant, ond maent hefyd yn ein helpu ni i ddeall a chefnogi’r heriau y maent yn eu hwynebu yn eu dysgu a’u datblygiad yn well.

ysgogiad ac ymholi

Mae maethu wedi bod ar ein meddyliau ers tro, ond nid oedd yr amseru byth yn iawn oherwydd astudiaethau Alex a’r ffaith i ni symud i ardal newydd.  Roedd gennym rywfaint o ddealltwriaeth o faethu gan deulu a ffrindiau a oedd wedi cael profiad o’r system gofal, ac roeddem bob amser yn teimlo y byddai’n gyfle gwerth chweil i gynnig amgylchedd diogel i blant diamddiffyn.  Roeddem yn aml yn clywed hysbysebion ar y radio yn tynnu sylw at yr angen am ofalwyr maeth yn Wrecsam, gan gadw’r syniad o faethu yng nghefn ein meddyliau.

Nid oes gennym blant ein hunain, ond gyda’n profiad helaeth o weithio â phlant o wahanol oedrannau, roeddem yn teimlo, fel cwpwl ieuengach, y gallwn ni gynnig persbectif ffres.   I ddechrau, roedd y stereoteip o unigolion hŷn sydd wedi ymddeol, y mae eu plant wedi tyfu fyny a gadael cartref, yn gwneud i ni deimlo’n betrusgar.  Roeddem yn poeni y byddai maethu yn gofyn i ni roi gorau i’n gyrfaoedd.  Fodd bynnag, bu i ni ddarganfod yn ddiweddarach nad oedd y canfyddiad hwn yn wir.

Trobwynt i ni oedd un prynhawn yn New Brighton.  Mae’r ddau ohonom wrth ein boddau yn cael mynd i’r traeth a chwarae yn yr arcêd, a’r diwrnod hwnnw, bu i ni sylweddoli na fyddai maethu yn ein rhwystro ni rhag mwynhau’r gweithgareddau hyn.  Yn lle, byddwn yn gallu rhannu a mwynhau’r profiadau hyn gyda’r plant yn ein gofal.  Bu i ni ddychmygu’r syniad o barhau â’n teithiau, fel mynd am dro a thripiau i’r sw, gyda’r plant maeth yn ymuno â ni.  Yr eiliad honno, bu i ni sylweddoli y gall maethu fod yn brofiad gwerth chweil nid yn unig i ni ond i’r plant y byddwn yn gofalu amdanynt hefyd.

y broses ymgeisio

I ddechrau, bu i mi ymchwilio i fynd ati i holi asiantaeth faethu annibynnol ond yn ystod digwyddiad rhwydweithio yn y gwaith, dechreuodd Carla siarad ag aelodau o’r tîm maethu yng Nghyngor Wrecsam.  Yna bu i ni benderfynu cysylltu â nhw yn gyntaf i weld beth allent ei gynnig ac yn fuan bu i ni sylweddoli ei fod yn fuddiol i ni faethu gyda’n hawdurdod lleol, Maethu Cymru Wrecsam.

Yn fuan ar ôl hynny, bu i ni gwrdd ag Alex o dîm Maethu Cymru Wrecsam, a aeth â ni drwy bob cam, yn cynnwys yr hyfforddiant Sgiliau i Faethu y byddai angen i ni ei fynychu.  Roedd yn ymddangos yn eithaf syml, a gan fod y ddau ohonom wedi cwblhau sawl cwrs hyfforddi gofal plant, nid oeddem yn cael ein dychryn gan ddisgwyliadau’r hyfforddiant. 

Eglurwyd i ni hefyd y byddai angen i ni gael ein hasesu gan Hazel, ein gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu. Fel rhan o’r cam hwn, byddai angen i Hazel ddod i’n gweld ni unwaith yr wythnos am awr neu ddwy ar y tro i siarad am amrywiol agweddau o’n bywydau, gan edrych ar y ffordd y cawsom ni ein magu a sut byddai ein dulliau magu plant yn edrych. 

I ddechrau, roedd hyn yn swnio’n frawychus gan y byddai’n golygu gorfod siarad mewn manylder am agweddau o’n bywydau efallai nad oeddem yn ei gofio’n dda iawn, neu yr oeddem eisiau anghofio amdano.  Dyma’r achos i Carla, a wynebodd sawl her fel plentyn ifanc gan fod ganddi ddiabetes math un. Y mwyaf o sesiynau a gawsom, y mwyaf cyfforddus y daethom a drwy gydol y broses, roedd yn teimlo fel yr oedd popeth yr oeddem yn ei wneud yn arwain at y bennod nesaf yn ein bywydau. 

hyfforddi a pharatoi

Fel rhan o’n hyfforddiant, bu i ni gwblhau’r sesiynau Sgiliau i Faethu lle bu i ni archwilio’r effaith y mae bod mewn gofal maeth yn ei gael ar blant a phobl ifanc.  Roedd yr hyfforddiant hwn yn fuddiol gan yr oeddem yn gallu deall mwy am yr heriau sydd gan blant a sut allwn ni eu cefnogi nhw i ddelio â’r heriau hyn. 

Bu i ni hefyd gwblhau amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb eraill, fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus a oedd yn cynnwys cymorth cyntaf, theori ymlyniad, diogelwch a hylendid bwyd a chyfrinachedd.  Mae’r hwb hyfforddiant ar-lein yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd ac mae’n cynnwys amrywiaeth o gyrsiau penodol eraill a all eich cefnogi chi i ddeall a chefnogi’r plant yn eich gofal.  Roedd y cyrsiau hyfforddi yn ddefnyddiol iawn, yn arbennig i’n gyrfaoedd fel swyddog gofal plant ac athro llanw, lle’r oeddem yn gallu trosglwyddo ein sgiliau ar draws y proffesiynau. 

Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan ein stori? Mae’r daith i fod yn ofalwr maeth yn un gwerth chweil, ac mae cefnogaeth i’w gael ar bob cam o’r ffordd. Cysylltwch â thîm Maethu Cymru Wrecsam i ddysgu mwy am sut y gallwch chi ddechrau ar eich taith faethu. Ymunwch â ni ar gyfer Rhan Dau, lle byddwn yn siarad am y gefnogaeth a’r hyfforddiant amhrisiadwy a wnaeth ein helpu ni i baratoi ar gyfer ein plentyn maeth cyntaf.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A waterfall in Wrexham

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.