Mae Cath a Neil wedi bod yn maethu gyda Maethu Cymru Wrecsam ers 2018. Dros y blynyddoedd maen nhw wedi gofalu am blant mewn pob math o sefyllfaoedd, ond maethu byrdymor yw lle mae llawer o’u profiad nhw. Yma, maen nhw’n siarad yn blwmp ac yn blaen, gan gynnwys pam mae’n bwysicach nag y mae pobl yn sylweddoli.
eisiau gwneud gwahaniaeth
Dechreuodd Cath a Neil feddwl o ddifrif am faethu yn ôl yn 2012. Roedd Cath eisoes yn gweithio gyda phlant yn ei rôl fel athrawes gynradd, ac roedd y cwpl hefyd yn cynnal sesiwn galw heibio i bobl ifanc yn eu harddegau yn eu heglwys leol. Trwy’r sesiynau hynny y taniwyd y syniad mewn gwirionedd.
“Rwy’n cofio un ferch ifanc yn galw draw,” meddai Neil. “Roedd hi’n eithaf blin ar y dechrau. Yna aeth i fyw gyda gofalwr maeth, ac ar ôl cwpl o fisoedd, roeddech chi’n gallu gweld y newid ynddi. Fe wnaeth i ni feddwl – waw, rydych chi wir yn gallu gwneud gwahaniaeth.”
“Roedden ni’n dau wedi bod yn meddwl am y peth ar wahân,” ychwanega Cath. “Ac yna un noson cawson ni sgwrs iawn, a datblygodd pethau oddi yno.”
Mae ganddynt dri o blant eu hunain a gwnaethant ddechrau maethu trwy asiantaeth annibynnol cyn trosglwyddo i Maethu Cymru Wrecsam yn 2018. Ers hynny, maen nhw wedi gofalu am blant mewn pob math o sefyllfaoedd. Ar hyn o bryd, mae dwy ferch yn byw gyda nhw: un yn yr hirdymor, a merch iau sydd gyda nhw ar sail fyrdymor ar hyn o bryd tra bod ei chynllun tymor hwy yn cael ei lunio. Ochr yn ochr â hynny, maen nhw hefyd yn cynnig seibiant i ofalwyr maeth eraill ac wedi croesawu plant i’w cartref ar fyr rybudd pan fo angen.
Maethu byrdymor yw’r hyn sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o’u profiad, a dyma’r math o faethu mae pobl yn ei ddeall leiaf yn eu barn nhw.
Gall maethu byrdymor bara unrhyw le o ychydig fisoedd i ychydig flynyddoedd. Yr hyn sy’n ei wneud yn wahanol i faethu hirdymor yw, nid o reidrwydd yr amser, ond y cynllun: mae’r rhan fwyaf o blant sy’n cael eu maethu yn y byrdymor yn gweithio tuag at rywbeth – dychwelyd adref at eu rhieni, symud i mewn gyda pherthnasau, neu mewn rhai achosion, symud ymlaen i fabwysiadu. Rôl gofalwr maeth byrdymor yw cynnig cartref diogel, sefydlog tra bod y cynllun tymor hwy yn cael ei ffurfio.
sut mae maethu byrdymor yn edrych o ddydd i ddydd
Gofynnwch i Cath a Neil sut mae’r diwrnod arferol yn edrych ac fe ddwedan nhw wrthych chi: mae’n edrych fel unrhyw ddiwrnod teuluol arall. Mynd â’r plant i’r ysgol. Bocs bwyd. Gwaith cartref. Amser gwely. Swper ar y bwrdd.
“Mae angen normalrwydd ar blant,” meddai Cath. “Yn enwedig plant sydd heb gael llawer ohono. Mae’r drefn yn bwysig. Gwybod y bydd swper ar yr un amser, y byddwch chi’n cael eich casglu o’r ysgol, y bydd rhywun yn dod i ddweud nos da – mae’r pethau hynny’n enfawr.”
Ond mae maethu byrdymor hefyd yn gofyn rhywbeth mwy i ofalwyr. Mae plant sy’n cael eu maethu yn y byrdymor yn aml yn byw gydag ansicrwydd: mae penderfyniadau’n cael eu gwneud am eu dyfodol, weithiau mewn llysoedd, weithiau mewn cyfarfodydd teuluol, weithiau gan sawl gweithiwr proffesiynol. Dydyn nhw ddim bob amser yn gallu deall beth sy’n digwydd na pham, a gwaith Cath a Neil yw eu helpu i deimlo’n ddiogel yng nghanol hynny i gyd.
Gallai hynny olygu mynychu sesiynau cyswllt lle mae plant yn treulio amser gyda’u rhieni. Gallai olygu helpu plentyn i baratoi ar gyfer newid mawr, siarad am sut y gallai eu cartref nesaf fod, neu yn syml fod yn bresenoldeb sefydlog a chadarn pan fydd plentyn yn bryderus neu’n ofidus. “Rydych chi’n gwneud mwy na chynnig gwely am y nos,” meddai Neil. “Rydych chi’n eu helpu i brosesu rhywbeth sy’n anodd iawn.”
cadw pethau’n sefydlog
Mae plant sy’n dod at Cath a Neil yn aml yn cyrraedd mewn cyflwr o ansefydlogrwydd. Mae rhai yn ddryslyd. Mae rhai yn ddig. Mae rhai yn dawel iawn. Mae’r rhan fwyaf ohonynt, meddai’r cwpl, yn chwilio am rywun i gadw pethau’n sefydlog tra bod y penderfyniadau mwy yn cael eu gwneud o’u cwmpas nhw.
“Allwch chi ddim trwsio’r hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw bob amser,” meddai Cath. “Ond gallwch chi wneud yn siŵr, tra’u bod nhw gyda chi, eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel. Eu bod nhw’n cael clust i wrando. Eu bod nhw’n teimlo’n bwysig.”
Maen nhw’n gweithio’n agos gyda’u gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol a gyda gweithiwr cymdeithasol pob plentyn drwyddi draw. Mae pontio, p’un a yw plentyn yn symud yn ôl i’r teulu, at ofalwr newydd, neu at fabwysiadwyr, yn cael ei gynllunio’n ofalus, ac mae Cath a Neil yn rhan o’r broses honno. Byddant yn cwrdd â gofalwyr newydd neu rieni mabwysiadol ochr yn ochr â’r plentyn, yn helpu’r plentyn i deimlo’n gyfforddus gyda nhw, ac yn aros yn rhan o’r broses nes bod pawb yn hyderus bod y symudiad yn mynd yn dda.
“Nid mater o ‘yma heddiw, mynd fory’ yw hi,” meddai Neil. “Mae pob proses bontio’n cael ei thrin yn ofalus. Mae’r plant yng nghanol y peth, bob amser.”
beth am ffarwelio?
Dyma’r cwestiwn mae bron pawb yn ei ofyn. “A yw’n torri eich calon pan mae’n rhaid iddyn nhw fynd ’nôl?”
“Mae’n emosiynol, ydy. Rydych chi’n poeni am y plant hyn, wrth gwrs,” meddai Cath. “Ond pan mae plentyn yn symud ymlaen i rywle diogel, yn ôl at y teulu, at bobl sy’n ei garu, i gartref parhaol, nid colled yw hynny. Dyna’r holl bwynt. Dyna beth rydyn ni’n gweithio tuag ato.”
“Pe bai pawb sy’n ystyried maethu yn penderfynu na allant wneud hynny oherwydd pa mor anodd yw ffarwelio – pwy fyddai’n gwneud y gwaith?” meddai Neil. “Mae angen gofalwyr maeth ar y plant hyn. Maen angen pobl arnyn nhw a fydd yn eu caru ddigon i’w chael hi’n anodd. Ydy, mae’n emosiynol. Ond mae hefyd yn hynod werth chweil.”
Ac nid oes rhaid i hyn olygu colli cysylltiad. Mae Cath a Neil yn cadw mewn cysylltiad â’r plant maen nhw wedi gofalu amdanyn nhw, os ydyn nhw eisiau iddyn nhw wneud. Mae rhai yn gwneud hynny. Neges achlysurol, llun, nodyn i ddweud sut mae pethau’n mynd. “Gwybod eu bod nhw’n iawn,” meddai Cath, “mae hynny’n golygu popeth.”
“Os yw plentyn yn gadael ein cartref yn teimlo’n fwy diogel na phan gyrhaeddon nhw, yn fwy hyderus, yn fwy sefydlog – yna rydyn ni wedi gwneud ein gwaith.”
y gefnogaeth sy’n gwneud popeth yn bosibl
Mae Cath a Neil yn pwysleisio nad ydyn nhw’n gwneud hyn ar eu pennau eu hunain. Mae eu gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol yn bresenoldeb rheolaidd, yn cysyllti i wneud yn siŵr fod popeth yn iawn, yn siarad am unrhyw heriau, yn gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw beth sydd ei angen arnyn nhw.
“Mae’r awdurdod lleol bob amser yno i chi,” meddai Cath. “Maen nhw’n mynd yr ail filltir i gefnogi plant yn eu gofal a’r gofalwyr maeth sy’n gofalu amdanyn nhw.”
Mae yna hefyd gymuned o ofalwyr eraill yn Maethu Cymru Wrecsam – pobl sy’n deall beth mae’r rôl yn ei olygu mewn ffordd sy’n anodd ei hesbonio i ffrindiau neu deulu. Boreau coffi, digwyddiadau cymdeithasol, profiadau cyffredin. “Dydych chi ddim ar eich pen eich hun,” meddai Neil. “Mae yna bob amser rhywun ar ochr arall y y ffôn, ddydd neu nos.” Gallwch ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i ofalwyr maeth yn Wrecsam ar ein gwefan.
beth fyddai cath a neil yn ei ddweud wrth unrhyw un sy’n ystyried maethu
Nid yw Cath a Neil yn synnu bod pobl yn cael eu denu at faethu hirdymor yn gyntaf, mae’n teimlo’n fwy syml, yn debycach i’r ddelwedd sydd gan bobl yn eu meddyliau. Ond bydden nhw’n annog unrhyw un i ystyried y llwybr byrdymor o ddifri hefyd.
“Does dim angen i chi gael yr holl atebion,” meddai Cath. “Does dim angen tŷ perffaith neu fywyd perffaith arnoch chi. Mae angen i chi allu cynnig diogelwch a sefydlogrwydd i blentyn a rhywun sydd wir yn ei gefnogi. Gall hyd yn oed ychydig fisoedd o hynny newid bywyd plentyn.”
“Fyddan nhw ddim bob amser yn cofio popeth am eu hamser yma,” meddai Neil. “Ond byddan nhw’n cofio teimlo’n ddiogel. Byddan nhw’n cario hynny gyda nhw. Ac mae hynny’n golygu popeth.”
Os yw stori Cath a Neil wedi gwneud i chi feddwl y gallai maethu fod i chi, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych. Dysgwch fwy am bwy all faethu a sut mae’r broses yn gweithio ar ein gwefan, neu darllenwch fwy o straeon gan ofalwyr maeth yn Wrecsam. Pan fyddwch chi’n barod, cysylltwch â’n tîm, rydyn ni yma i helpu.