20 Tachwedd 2026, 9:30am - 11:30am
Lleoliad: Wrexham University, Plas Coch Campus, Mold Road, Wrexham, LL11 2AW
Ymunwch â Sam Gardner, siaradwr sydd â phrofiad o fod mewn gofal, athro ac awdur, wrth iddo rannu ei brofiadau personol o’r system ofal ac edrych ar yr effaith hirdymor y gall perthnasoedd cadarnhaol, dealltwriaeth a chefnogaeth ei chael ar blant a phobl ifanc mewn gofal.
Gan dynnu ar ei brofiadau ei hun, bydd Sam yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut beth yw tyfu i fyny mewn gofal, a’r gwahaniaeth y gall oedolion dibynadwy ei wneud.
Bydd Maethu Cymru Wrecsam yno hefyd gyda stondin wybodaeth, lle cewch gyfle i gwrdd â’n tîm cyfeillgar, gofyn cwestiynau a dysgu mwy am ddod yn ofalwr maeth i blant a phobl ifanc lleol.
P’un a ydych chi’n ystyried maethu neu eisiau dysgu mwy am y system ofal, mae croeso i bawb.
Manylion y digwyddiad:
- Dyddiad: Dydd Gwener 20 Tachwedd 2026
- Amser: Drysau’n agor am 9yb | Sgwrs 9:30yb–11:30yb
- Lleoliad: Prifysgol Wrecsam, Campws Plas Coch, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AW
- Parcio: Parcio am ddim ar gael
Archebwch eich lle
Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw. I gadw eich lle, ewch i:
Archebu Tocynnau