digwyddiad maethu

galw heibio gwybodaeth maethu yng nghanolfan adnoddau cymunedol gwersyllt

18 Mawrth 2026, 10:00am - 2:00pm

Lleoliad: Gwersyllt Community Resource Centre, Second Ave, Gwersyllt, Wrexham LL11 4ED

Ymunwch â thîm Maethu Cymru Wrecsam yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt ddydd Mercher 18 Mawrth, o 10am i 2pm.

Mae’r sesiwn galw heibio anffurfiol hon yn gyfle i unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn maethu ddod draw, cael sgwrs gyda’r tîm maethu, a darganfod mwy am yr hyn y mae maethu yn ei olygu. P’un a ydych chi’n chwilfrydig yn unig, yn meddwl am faethu yn y dyfodol, neu os oes gennych chi gwestiynau penodol, bydd ein tîm yno i roi gwybodaeth a’ch tywys drwy’r broses.

Nid oes angen archebu – galwch heibio a siarad â ni.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A waterfall in Wrexham

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.