mathau o faethu
llety â chymorth yn wrecsam
Mae llety â chymorth yn cynnig amgylchedd diogel, meithringar i bobl ifanc rhwng 16 – 21 mlwydd oed wrth iddynt symud i fyw yn annibynnol.
dod yn ddarparwr llety â chymorth
pwy sydd angen llety â chymorth?
Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc sy’n gadael gofal, ffoaduriaid ifanc neu blant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches, ac efallai na fydd y rhai aeth mewn i’r system ofal yn 16+ oed yn teimlo’n barod am amgylchedd teulu ond dal yn teimlo eu bod yn angen cefnogaeth. Mae’r bobl ifanc yma’n cael eu dysgu i feithrin sgiliau hollbwysig i fod yn oedolion tra’n parhau i aros mewn cysylltiad gyda’u cymuned.
darparu cartref, newid bywyd
Fel gwesteiwr llety â chymorth, nid rhoi to yn unig i rywun fyddwch chi – ond fe fyddwch chi’n eu helpu nhw i ddatblygu hyder, gwytnwch a sgiliau bywyd ymarferol ar gyfer eu dyfodol.
Mae llety â chymorth yn ffordd wych o gychwyn gofalu sydd yn cyd-fynd â’ch argaeledd chi ochr yn ochr ag ymrwymiadau eraill.
beth mae gwesteiwr llety â chymorth yn ei wneud?
Mae pobl ifanc yn Wrecsam angen carreg gamu sefydlog rhwng gofal, sefyllfaoedd byw ansefydlog ac annibyniaeth lwyr. Dyna sut allwch chi helpu. Rydym ni’n chwilio am unigolion neu deuluoedd tosturiol ac amyneddgar i ddarparu amgylchedd cartref diogel, cefnogol.
Mae’ch rôl fel gwesteiwr yn hollbwysig i siapio dyfodol person ifanc. Trwy gynnig arweiniad, anogaeth ac ymdeimlad o berthyn, fe fyddwch chi’n eu helpu i adeiladu’r sgiliau a’r hyder sy’n angenrheidiol i fyw’n annibynnol tra’n sicrhau eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel a’u bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi.
- Darparu lle diogel, sefydlog i berson ifanc fyw ynddo
- Cynnig arweiniad ar dasgau ymarferol o ddydd i ddydd, megis coginio, cyllidebu a gosod trefn.
- Annog pobl ifanc i feithrin annibyniaeth, eu hannog nhw i fynd i’r gwaith neu goleg a dysgu sgiliau bywyd.
- Bod yn oedolyn y gallant ddibynnu arno i gael cefnogaeth a chyngor.
sut allwn ni eich cefnogi chi
Fe fyddwn ni’n darparu cefnogaeth ariannol wythnosol i’ch helpu i dalu costau a hyfforddiant arbenigol i’ch paratoi chi ar gyfer y rôl. Fe fyddwn ni’n eich paratoi chi i ddelio â heriau. Fe fydd yna gefnogaeth barhaus gan ein tîm profiadol hefyd ac adnoddau i’ch helpu i gefnogi’r person ifanc.
cwestiynau?
Ewch i dudalen Llety â Chymorth Cyngor Wrecsam i gael atebion i gwestiynau cyffredin.
dysgu mwy am gynnig llety â chymorth
Mae dod yn westeiwr Llety â Chymorth yn brofiad buddiol gan alluogi i chi gael effaith hirdymor ar ddyfodol person ifanc. Os ydych chi’n barod i agor eich cartref a helpu i newid bywydau, cysylltwch â ni heddiw i gael rhagor o wybodaeth.