sut rydyn ni’n eich cefnogi chi
cymorth a lwfans yn wrecsam
sut rydyn ni’n eich cefnogi chi
Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.
Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Wrecsam yn darparu arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond dyw’r cymorth ddim yn dod i ben gyda hynny.
Pan fyddwch yn maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:
- arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol dynodedig
- tâl maethu i dalu costau byw hanfodol
- cymuned o deuluoedd maeth lleol sy’n gallu rhannu profiadau
- cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
- a llawer mwy o fuddion.
mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth
Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig.
lwfans gofal maeth
ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?
Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn. Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys
- faint o blant rydych chi’n eu maethu,
- oedran y plant,
- ac ers pryd rydych chi wedi bod yn maethu.
Fodd bynnag, dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24-7 gartref rydyn ni’n eich cefnogi’n ariannol i’w gwneud. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen Cefnogaeth a Manteision
lwfans plentyn
ffi gofalwr maeth
taliadau ychwanegol
ein hymrwymiad i chi
Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cytuno i'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'Ymrwymiad Cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau sy'n cael ei fwynhau gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru.
tîm maethu lleol
Dydych chi ddim allan yna ar eich pen eich hun. Mae gennych dîm i’ch cefnogi a’ch annog, bob cam o’r ffordd.
Mae cymorth ar gael ar unrhyw adeg – nid o fewn oriau swyddfa yn unig. Rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu bod wrth law 24/7. Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, byddwn ni yno.
gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol dynodedig
Bydd gennych weithwyr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol wrth law, gydag aelod o’r tîm maethu sydd wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.
Mae eich tîm Maeth Cymru yn rhan o’r awdurdod lleol, gan weithio ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Mae hyn yn golygu mynediad at wybodaeth am y plentyn ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol eraill a chysylltiadau gwaith agosach â gweithwyr cymdeithasol plant.
cymorth cyfoedion
Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd â’r nod o ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill, fel grwpiau cymorth, teithiau cerdded lles a digwyddiadau tymhorol i greu profiadau newydd, ffrindiau newydd, ac atgofion newydd i chi. Os hoffech siarad ag un o’n gofalwyr maeth am faethu, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected] a gallwn drefnu ‘paned gyda gofalwr’ i chi.
cyfleoedd dysgu
Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydym yn cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd.
mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?
Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I weld y lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol rydyn ni’n eu cynnig yn llawn, gofynnwch am becyn gwybodaeth.