blog

magu teulu drwy faethu, myfyrio a chynllunio at y dyfodol

budd a llawenydd

Bu’n fendith inni hyd yn hyn ar ein taith faethu i gael profiad o amryw ‘droeon cyntaf’ â’r merched a gweld eu holl gyffro ar yr adegau hynny. Mae’r rhain yn aml yn brofiadau y mae llawer o bobl yn eu cymryd yn ganiataol, fel mynd ar drên am y tro cyntaf, er enghraifft. Er bod llawer o blant wedi gwneud hyn droeon o’r blaen, wnawn ni byth anghofio’r olwg o lawenydd ar eu hwynebau wrth gamu ar y trên.

Cafodd ein merch ieuengaf ei pharti pen-blwydd cyntaf gyda disgo a chastell neidio ac fe wahoddodd ei ffrindiau gorau o’r ysgol. Doedd hi erioed wedi cael parti o’r blaen ac fe ddywedodd hi “Chefais i erioed gymaint o bresantau” pan ddaeth hi i lawr y grisiau fore ei phen-blwydd.

Rydyn ni’n eu difetha nhw, weithiau, ond ein lle ni ydi rhoi’r profiadau iddyn nhw nad ydyn nhw erioed wedi’u cael o’r blaen, a chadw’n ddigon digynnwrf i sicrhau nad ydyn ni’n eu difetha nhw ormod!

Bu’n her o safbwynt ein perthynas ni fel pâr newydd briodi ond ar y cyfan, mae’r merched wedi rhoi cymaint o brofiadau da inni na fydden ni byth wedi’u cael heb faethu. Rydyn ni’n cael seibiant o bryd i’w gilydd pan mae’r merched yn mynd i aros dros nos â rhieni Alex, ond y merched sy’n aml yn gofyn am hynny gan eu bod wrth eu boddau’n treulio amser â nhw.

Rydyn ni’n gwpl sydd wastad wedi bod wrth ein bodd yn mynd ar wyliau a phenwythnosau i ffwrdd, ac roedden ni eisiau i’r merched gael profiad o hynny hefyd. Doedd gan yr un ohonyn nhw basport pan ddaethon nhw aton ni gyntaf, felly aethon ati i gael trefn ar bethau cyn gynted â phosib. Y diwrnod y cyrhaeddodd y ddau basport, fe archebon ni wyliau i Dwrci mewn gwesty’r oedden ni’n ei adnabod yn dda. Welais i erioed y fath gyffro gan y merched, ac fe gawson nhw amser bendigedig. Dyna oedd y gwyliau gorau posib, yn gweld y ddwy ferch fach hyfryd yma’n rhannu’r profiad â ni. Prin roedden ni wedi cyrraedd yn ôl adref nes iddyn nhw ddechrau gofyn am fynd eto’r flwyddyn nesaf!

Ers iddyn nhw ddod i fyw â ni, rydyn ni wedi bod i Haven yn Blackpool, aros mewn gwesty am y tro cyntaf wrth ymweld â theulu Carla yn Swydd Berkshire, wedi bod yn Norfolk ac yn Llandudno am ychydig ddiwrnodau. Rydyn ni’n bwriadu mynd i Blackpool eto’r flwyddyn nesaf ac i Dwrci yn yr haf. Mae’r profiadau hyn yn amhrisiadwy ac rydym yn eithriadol o ddiolchgar ein bod ni’n gallu cynnig y cyfleoedd anhygoel yma i’r merched.

creu cwlwm a meithrin perthynas

Y peth pwysicaf inni yn y pen draw wrth greu cwlwm cryf â’r merched ydi bod yn onest ac ymddiried yn ein gilydd. Rydyn ni’n dau wedi gweithio â phlant ers blynyddoedd ac yn deall mor glyfar ydi plant a’u bod yn medru sylwi ar y pethau lleiaf. Wrth gwrs, does dim angen i’r merched gael gwybod popeth ond yn y pen draw, eu bywydau nhw ydi’r peth pwysicaf a thrwy fod yn onest ac agored rydyn ni wedi gallu meithrin yr ymddiriedaeth sydd ei hangen i gael perthynas gadarn.

Bu’n bwysig hefyd inni gadw at ein gair a gwneud fel rydyn ni’n ei ddweud. Fel y soniais i, roedd y merched bron â thorri eu boliau eisiau mynd dramor ar wyliau, ac fe weithion ni â’u gweithiwr cymdeithasol i gael pasbort bob un iddyn nhw, rhywbeth nad oedd yr oedolion oedd yn eu bywydau o’r blaen wedi gallu ei wneud. Unwaith y cawson ni’r ddau basport, fe archebon ni wyliau fel y dywedon y byddwn yn ei wneud.

Mae cynnwys y merched mewn digwyddiadau teuluol wedi creu cwlwm cryf hefyd, yn enwedig pan ddaethon nhw i’n priodas ni. Fe symudodd y merched aton ni bythefnos cyn inni briodi, ond roedd hi’n bwysig inni eu bod nhw yno, dim ond am awr neu ddwy hyd yn oed, er mwyn iddyn nhw gael bod yn rhan o’n diwrnod arbennig ni. Mae’r merched yn sôn am y briodas hyd heddiw a phan gawn ni ein pen-blwydd priodas, bydd ganddynt atgofion melys o’r diwrnod hwnnw.

Mae gwrando ar y merched wedi helpu i feithrin y berthynas rhyngddo ni i gyd hefyd, deall eu hanghenion a sicrhau ein bod ni’n gwrando ar eu barn. Rydyn ni’n bwyta prydau bwyd gyda’n gilydd wrth y bwrdd yn y gegin ac yn siarad am y diwrnod a gawson ni, unrhyw bryderon a mân bethau cyffredinol. Mae’n bwysig peidio â gorymateb pan mae un o’r merched yn dweud rhywbeth sy’n peri braw, a chynnig cysur a chyfle i siarad am eu teimladau. Rydym hefyd yn ceisio dangos sut mae eu sefyllfa nhw’n debyg i rai pobl eraill; er enghraifft, mae gan ein merch hynaf drafferthion clyw ac mae’n aml yn dibynnu ar fedru darllen gwefusau pobl. Mae Carla’n fyddar yn ei chlust dde ac mae’n gallu cydymdeimlo a deall yr heriau mae’n eu hwynebu.

Weithiau, does dim byd gwell na rhoi mwythau i’r merched os ydi pethau’n mynd yn ormod iddynt yn emosiynol, a bod yno iddyn nhw i gynnig sicrwydd a chysur. Maen nhw wrth eu bodd yn cael mwythau a sylw. Ar adegau eraill mae arnyn nhw angen llonydd, ac er nad yw’r merched yn dueddol o ddweud hynny, maen nhw’n dangos ichi’n bendant! O ddeall y merched fel unigolion, gallwch ddod i wybod pryd i gamu i mewn ar adegau fel hyn a phryd i gamu’n ôl, ac am ba hyd.

Yn olaf, credwn fod ein hoedran wedi cael effaith arwyddocaol ar fywydau’r merched ac wedi’n galluogi i feithrin perthynas gadarnhaol â nhw. Maen nhw’n aml yn dweud mor ffodus ydyn nhw i gael gofalwyr maeth iau sy’n gallu rhedeg, chwarae pêl-droed ac ymuno yn yr holl weithgareddau yr hoffent eu gwneud. Maen nhw hefyd wedi sôn am y ffordd rydyn ni’n eu trin fel petaen nhw’n blant go iawn inni, ac er nad ni ydi eu mam a’u tad, maen nhw’n aml yn sôn mor normal y mae’r teulu’n teimlo, gan fod llawer o bobl yn tybio mai ni ydi rhieni’r merched. Mae hynny wedi bod o fudd i’n merch hynaf ni, sy’n symud i’r ysgol uwchradd ac wedi dweud nad yw’n dymuno i bobl wybod am ei chefndir. Mae’r uned deuluol ‘normal’ wedi’u galluogi i ddod allan o’u cragen a chyflawni eu potensial.

myfyrio a chynghori

Wrth fyfyrio ynglŷn â’r profiad, credwn ein bod wedi paratoi’n dda ar gyfer bywyd â’r merched a’n bod ni’n barod yn emosiynol ac yn gorfforol i ofalu amdanynt. Credwn y bu’n beth da cael dwy chwaer, gan fod y merched yn aml yn dweud mor ddiflas fyddai bod ar eu pen eu hunain. Mae’r ffaith bod dau ohonon ni’n gwneud pethau’n haws hefyd, gan y gallwn roi ein holl gefnogaeth i’r merched pan mae angen.

Mae’n bwysig cofio hefyd ei bod hi’n iawn gwneud camgymeriadau, yn enwedig ar y dechrau. Pan ddaeth y merched yma gyntaf, doedden ni ddim yn gwybod beth oedd eu hoff fwyd na beth oeddent yn hoffi ei wneud ar ddiwrnodau allan. Rydyn ni wedi coginio sawl pryd nad oedd at ddant y ferch ieuengaf, ac wedi dysgu i beidio â choginio’r rheiny eto. Mae’r ddwy ohonynt wedi rhoi cynnig ar wahanol glybiau a rhoi’r gorau iddyn nhw’n syth, ond ar y llaw arall maen nhw wedi mwynhau rhai eraill yn fawr. Mae’n fater o roi cynnig ar bethau i weld beth sy’n gweithio, ac mae’r merched fel arfer yn dweud os nad ydyn nhw eisiau gwneud rhywbeth. Mae hyn oll yn cymryd amser wrth faethu plant, ac mae’n bwysig cadw mewn cof mai dim ond meidrol ydyn ni i gyd, a does neb byth yn cael popeth yn iawn bob amser.

Maethu ydi ein bywyd ni bellach, a go brin y byddwn ni byth yn rhoi’r gorau iddi. Mae’r merched yn byw â ni am y tymor hir, nhw ydi ein teulu ni ac maen nhw’n werth y byd.

casgliad

Os ydych chi erioed wedi meddwl am faethu ond heb gymryd y cam cyntaf, ewch amdani. Os ydych chi’n ifanc, fel ni, ac wedi meddwl am y peth, ewch amdani. Os oes gennych chi ystafell wely sbâr, awydd am her ac eisiau cynnig cartref diogel a sicr i blentyn neu berson ifanc lleol, ewch amdani.

Rydyn ni’n frwd dros annog mwy o bobl ifanc i faethu, gan nad oes digon ohonon ni. Mae ein merched ni’n aml yn sôn mor ddiolchgar ydyn nhw fod ganddynt ofalwyr sy’n edrych ac yn teimlo’n debyg i’w teulu nhw. Os ydych chi’n eu hintegreiddio nhw ym mywyd eich teulu fe fyddan nhw’n elwa ar yr amgylchedd cariadus, hapus a diogel hwnnw.

Mae’n fendith inni fod wedi cael rhoi cymaint o ‘droeon cyntaf’ i’r merched yn ystod eu hamser â ni, ond mae’r ‘ail droeon’ hefyd yn helpu i greu sylfaen sicr iddyn nhw lle gallant ffynnu ar sail y drefn a’r dilyniant o fyw yn yr un uned deuluol.

Ymwelodd ffrindiau o Swydd Hampshire â ni’n ddiweddar sydd tua’r un oedran â ni, y ddau ohonynt yn gweithio’n llawn amser ac wedi bod yn meddwl am faethu ers tro, ond byth wedi cymryd y cam nesaf. Roedden nhw’n gallu gweld y boddhad a gawn ni wrth ofalu am y merched a gallu rhoi bywyd gwerth chweil iddyn nhw. Fore drannoeth fe gawson ni neges destun ganddyn nhw’n dweud eu bod nhw wedi holi eu hawdurdod lleol ynglŷn â chymryd y camau cyntaf ar eu taith eu hunain ym myd maethu. Weithiau mae’n rhaid i bobl gael profiad personol o’r peth, gweld â’ch llygaid eich hun sut mae’n gweithio, cyn cymryd y cam cyntaf pwysig a fedrai drawsnewid eu bywydau.

Mae maethu wedi trawsnewid ein bywydau ni’n llwyr, a bywydau’r plant rydyn ni’n gofalu amdanynt. Rydyn ni wedi dysgu, chwerthin a thyfu gyda’n gilydd a fyddwn i ddim yn newid dim.

Os yw ein stori ni wedi eich ysbrydoli i ystyried maethu, ewch ati i gysylltu â Maethu Cymru Wrecsam. Maen nhw bob amser ar gael i roi cefnogaeth a chyngor, p’un a ydych chi’n ymchwilio i’r camau cyntaf neu’n paratoi i faethu plentyn am y tro cyntaf. Mae’r angen am ofalwyr maeth yn fawr, ac mae’r budd a gewch chi’n fwy fyth. I ni, maethu ydi’r peth mwyaf ystyrlon y gwnaethon ni erioed, a byddem wrth ein boddau’n eich helpu a’ch ysbrydoli i gychwyn ar eich taith eich hun.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

A waterfall in Wrexham

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Wrecham yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Wrecham yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.